Araith Prif Weinidog Cymru i Ganolfan Llywodraethiant Cymru - Dydd Llun 19 Hydref 2026.
Noswaith dda.
Ga i ddechrau drwy ddiolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd am ein croesawu heno, ac am y cyfraniad eithriadol y mae'n parhau i'w wneud i drafodaeth gyhoeddus, ymchwil a dealltwriaeth o wleidyddiaeth, polisi cyhoeddus a newid cyfansoddiadol.
Ers blynyddoedd lawer, mae'r Ganolfan wedi helpu i lywio rhai o'r sgyrsiau pwysicaf am ddyfodol Cymru.
Ar adeg pan all materion cyfansoddiadol yn rhy aml gael eu portreadu fel rhywbeth haniaethol, mae ymrwymiad Y Ganolfan i ddadansoddiad trylwyr, tystiolaeth a thrafod deallusol yn fwy gwerthfawr nag erioed.
Dwi’n gobeithio y gall fy sylwadau heno wneud cyfraniad bach tuag at gadw'r trafod hollbwysig hyn yn gyfredol, yn berthnasol ac yn fywiog.
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae Cymru wedi bod ar daith gyfansoddiadol ryfeddol.
Mae'r pŵer wedi symud yn nes at y bobl.
Mae'r sefydliadau democrataidd wedi aeddfedu.
Mae’r cyfrifoldebau wedi ehangu.
Ac eto, er y cynnydd hwnnw, mae rhannau pwysig o’n setliad cyfansoddiadol yn fwy nag anghyflawn - maen nhw’n llesteirio’r gallu i gyflawni’n effeithiol dros ddinasyddion.
Nid ymarfer academaidd yw diwygio cyfansoddiadol, na nod ynddo’i hun.
Mae cyfansoddiadau’n bwysig oherwydd mai nhw sy’n penderfynu pwy sydd â’r pŵer i weithredu, pwy sy’n atebol am benderfyniadau, ac yn y pen draw pa mor effeithiol y gall llywodraethau wella bywydau pobl.
Nid ystyried ydi datganoli’n gweithio ydi’r cwestiwn o’n blaenau ni heno.
Ond sut rydyn ni'n sicrhau ei fod yn gweithio’n well.
Wrth fynd i’r afael â’r her honno, dwi’n credu bod angen ateb dau gwestiwn:
- Sut mae rhoi’r pŵer a’r atebolrwydd angenrheidiol i Gymru i ymateb i’r heriau yn y blynyddoedd i ddod?
- A sut mae defnyddio’r pwerau hynny yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys sut mae modd ffurfio partneriaethau newydd a gwella partneriaethau sy’n bodoli eisoes i sicrhau bod y pŵer sydd gennym yn cael ei harneisio er budd ein holl gymunedau?
Cyn troi at y pwerau a’r partneriaethau newydd y dylai Cymru, yn fy marn i, geisio eu cael yn y blynyddoedd i ddod, mae’n werth ystyried y foment yma lle rydyn ni heddiw.
Roedd yr etholiad a gynhaliwyd ym mis Mai eleni yn un hanesyddol.
Ond roedd hefyd yn rhywbeth mwy na newid gweinyddiaeth.
Roedd yn bennod arall mewn stori genedlaethol lawer hirach.
Oherwydd dydi Cymru erioed wedi bod yn wlad sy’n fodlon derbyn y byd fel y mae.
Mewn sawl ffordd, hanes o frwydro ydi hanes Cymru.
Hanes pobl yn gwrthod derbyn bod yn rhaid i bethau aros fel y maen nhw.
Hanes pobl yn mynnu newid.
Dwi’n meddwl am y Siartwyr, yn gorymdeithio yng Nghasnewydd i geisio diwygiadau gwleidyddol a chynrychiolaeth ddemocrataidd.
Dwi’n meddwl am y glowyr a ddaeth at ei gilydd, yn eu miloedd, mewn cymunedau ledled Cymru i greu llais unedig. Pobl a oedd yn deall mai yn anaml iawn y byddai cynnydd yn cael ei drosglwyddo i lawr, ac mai drwy drefnu, undod a chydweithredu y byddai’n dod.
Dwi’n meddwl am y bobl ifanc a oedd, yn y 1960au ac wedyn, yn mynnu statws cyfartal i’n hiaith, yn gwrthod derbyn y dylid cyfyngu’r Gymraeg i ymylon bywyd cyhoeddus, ac yn helpu i sicrhau hawliau a chydnabyddiaeth y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol erbyn hyn.
Cenedlaethau gwahanol.
Achosion gwahanol.
Ond edefyn cyffredin.
Cred fod Cymru’n gallu bod yn well, a bod cynnydd yn digwydd pan fydd pobl yn barod i drefnu, perswadio a gweithredu.
Ddaeth yr ysbryd hwnnw ddim i ben ym meysydd glo’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nac i ben chwaith gydag ymgyrchoedd iaith y 1960au.
Roedd yn bresennol yn y mudiad dros ddatganoli.
Pan gafodd hynny ei wrthod yn 1979, mi gododd eto. Penderfynoldeb rydyn ni’n ddiolchgar amdano rŵan wrth i’n democratiaeth barhau i esblygu.
Mae’r ysbryd hwnnw’n dal i fodoli heddiw.
Ac, mewn ffordd lawer mwy bychan, mae wedi gwneud i finnau feddwl o bryd i’w gilydd am fy nhaith i fy hun.
Ychydig amser yn ôl, yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, daeth ffotograffau i’r amlwg ohonof fel - allwn i ddim peidio â sylwi - dyn llawer iau ei olwg, yn sefyll ar y grisiau y tu allan i’r adeilad ym Mharc Cathays lle dwi bellach yn gweithio fel Prif Weinidog.
Ar y pryd, roeddwn i yno i brotestio, i ymgyrchu ac i ddadlau dros ddyfodol gwahanol i Gymru.
Rŵan, o ffenest fy swyddfa, dwi’n gallu gweld yr union fan lle cafodd y lluniau hynny eu tynnu.
Mae bywyd yn gallu ein synnu.
Ond mae fy rôl i rŵan yn sicr yn esblygiad ohonof i bryd hynny. Yr un gwerthoedd. Yr un penderfynoldeb.
Ac eto, er y cynnydd sydd wedi digwydd ers imi sefyll ar y grisiau hynny ym Mharc Cathays, dydi rhannau pwysig o’n trefniadau cyfansoddiadol ddim wedi cyd-fynd â’r cynnydd y mae Cymru ei hun wedi’i wneud.
Yn rhy aml, mae’r cyfrifoldeb yn dameidiog.
Yn rhy aml, mae’r atebolrwydd yn aneglur.
Yn rhy aml, disgwylir i lywodraethau ddatrys problemau heb fod â’r holl offer sydd eu hangen i wneud hynny.
A dyna pam mae Cymru wedi cyrraedd adeg bwysig arall yn ei thaith gyfansoddiadol.
Nid pen draw.
Nid cyrchfan.
Ond pennod arall.
Gynnau, mi ofynnais i ddau gwestiwn felly gadewch imi droi at y cyntaf:
Sut mae rhoi’r pŵer a’r atebolrwydd angenrheidiol i Gymru i ymateb i’r heriau yn y blynyddoedd i ddod?
Am flynyddoedd lawer, mae dadleuon am ddatganoli wedi cael eu nodweddu gan reddf gyfarwydd yn Whitehall.
Yn anaml iawn y byddai pŵer yn cael ei drosglwyddo heb i hynny fod yn rhywbeth amhosibl ei wrthsefyll.
Roedd baich y profi bron bob amser yn disgyn ar y rhai a oedd yn dadlau dros newid.
Yn rhy aml, nid y cwestiwn oedd, “Pam ddylai’r pŵer hwn aros yn San Steffan?” ond, “Pam ddylai Cymru ei gael?”
Gobeithio ein bod ni mewn sefyllfa lle mae hynny’n newid.
Rydyn ni’n clywed geiriau gwahanol yn dod gan rai o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Ac rydyn ni’n clywed cydnabyddiaeth gan Stryd Downing ei bod yn aml yn well i benderfyniadau gael eu gwneud yn nes at y cymunedau maen nhw’n effeithio arnyn nhw.
Rydyn ni’n clywed am ddatganoli, bron yn ddiofyn. “Mae’r dyddiau pan oedd Whitehall yn ymladd yn erbyn datganoli wedi dod i ben!” meddai’r Prif Weinidog newydd wrthym ni.
Ond dwi hefyd wedi sylwi bod lleisiau eraill yn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ymddangos yn llai parod i dderbyn y bydolwg hwn.
Mae tuedd o hyd i awgrymu mai pur anaml y mae newid radical yn werth y drafferth ac os ydi o, San Steffan fydd yn gosod y telerau a’r amodau.
Mai’r status quo ddylai fod yn ddiofyn ym mhob amgylchiad oni bai fod achos cryf iawn dros newid, a nhw fydd y barnwr a’r rheithgor drosto. Baich y profi unwaith eto. Mae gennym ni ddigonedd o dystiolaeth!
Mi wna i adael i eraill farnu ydi’r agwedd sgeptig barhaus honno tuag at ddatganoli yn cyd-fynd â dyhead honedig i fod yn llywodraeth sy’n diwygio ac sydd eisiau gweld gafael Whitehall ar wneud penderfyniadau yn llacio.
Mae hynny’n codi cwestiwn amlwg.
Pan fydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn sôn am ddatganoli yn ddiofyn, ydi hi'n golygu datganoli i holl wledydd y Deyrnas Gyfunol?
Ynteu ydi hynny'n stopio’n stond wrth Glawdd Offa? Ydy agenda ddatganoli newydd Stryd Downing yn agenda ar gyfer Lloegr yn unig?
Oherwydd os dylid gwneud penderfyniadau’n nes at y bobl y maen nhw’n effeithio arnyn nhw, siawns nad ydi’r egwyddor honno’n berthnasol i Gymru gymaint ag y mae’n berthnasol i Fanceinion Fwyaf, Gorllewin Canolbarth Lloegr neu rywle arall.
Ac os ydi Whitehall yn credu o ddifri na ddylid cadw pŵer yn ôl er ei fwyn ei hun, rhaid iddo roi’r gorau i geisio gwrthwynebu ymchwydd anorchfygol y farn yng Nghymru, fel yn yr Alban, nad ydi San Steffan yn gweithio i’n pobl ni.
Mi wnes i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn ddiweddar, yn nodi blaenoriaethau fy llywodraeth i ar gyfer diwygio cyfansoddiadol.
Mae’r blaenoriaethau hynny’n glir.
Datganoli cyfiawnder a phlismona.
Datganoli seilwaith rheilffyrdd.
Datganoli Ystad y Goron.
A mwy o hyblygrwydd cyllidol i sicrhau bod gan Lywodraethau Cymru yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni ar gyfer y bobl maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae’r achos dros newid, a dweud y lleiaf, yn un cadarn.
Mae wedi cael ei archwilio gan gomisiynau, gan gynnwys yn fwyaf diweddar y Comisiwn Annibynnol trawsbleidiol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Mae’r achos dros newid ym maes cyfiawnder hefyd wedi’i ddatblygu’n sylweddol gan waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas, cyn-Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.
Mae hefyd wedi bod yn destun craffu ar draws ffiniau pleidiau ac ar draws nifer o gylchoedd etholiadol.
Ac, yn hollbwysig, drwy brofiad ymarferol o sut mae llywodraeth yn gweithio yng Nghymru heddiw.
Ychydig iawn o feysydd sy’n dangos yn gliriach y diffyg cyfatebiaeth cynyddol rhwng y cyfrifoldebau sydd gan Gymru a’r pwerau mae hebddynt.
Ni sy’n gyfrifol am iechyd.
Am addysg.
Am dai.
Am wasanaethau cymdeithasol.
Am lawer o’r ymyriadau sy’n siapio cyfleoedd bywyd, yn atal troseddu, ac yn helpu i adsefydlu.
Ond mae plismona a chyfiawnder yn dal wedi’u cadw’n ôl i raddau helaeth.
Y canlyniad ydi ffin gyfansoddiadol – neu ymyl finiog – sy’n aml heb fawr o gysylltiad â realiti’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu.
Pan fydd y cyfrifoldeb dros faterion ataliol yn un lle, a’r cyfrifoldeb dros orfodi yn rhywle arall, mae cydlyniant yn mynd yn fwy anodd ac mae atebolrwydd yn llai clir.
Dyna pam nad dadl gyfansoddiadol yn unig ydi’r achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.
Mae’n ymwneud ag ymarferoldeb.
Ond yn fwy na dim, mae’n ymwneud â phobl.
Gallwn ni weld hynny mewn cyfiawnder ieuenctid.
Yng Nghymru, rydyn ni wedi arloesi gyda dull gweithredu Rhoi Plant yn Gyntaf.
Dull sy’n cydnabod bod plant yn y system gyfiawnder yn aml ymysg y rhai sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.
Ac y bydd y rhan fwyaf, o gael y gefnogaeth briodol ac ymyrraeth gynnar, yn symud oddi wrth droseddu. Ond eto, mae oedran cyfrifoldeb troseddol yn dal yn ddeg oed.
Mae hynny’n gwbl groes i’n hymrwymiad i hawliau plant, ac i argymhelliad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn y dylai’r isafswm oedran fod yn bedair ar ddeg oed o leiaf.
Mae dull gwirioneddol gydgysylltiedig hefyd yn gofyn am y pwerau a’r trefniadau cyllido i’w gwneud yn bosibl.
Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol yn derbyn eu cyllid drwy gynifer ag wyth neu naw ffrwd ariannu wahanol.
Mae gan lawer eu telerau ac amodau eu hunain, a’u gofynion adrodd beichus eu hunain. Ac mae llawer yn cario ansicrwydd o un flwyddyn i’r llall ynglŷn ag a fyddan nhw’n parhau ai peidio.
Un o’r pethau cyntaf y byddem yn ceisio ei wneud gyda datganoli ydi symleiddio’r trefniadau hyn yn ddramatig.
Er mwyn i weithwyr proffesiynol allu treulio llai o amser yn delio â biwrocratiaeth a mwy o amser yn gwneud y gwaith maen nhw’n cael eu cyflogi i’w wneud, sef gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc.
Rydyn ni’n gweld yr un diffyg cysylltiad yn y ffordd y mae menywod yn cael eu trin.
Does dim carchar i fenywod yng Nghymru.
Mae menywod o Gymru sy’n cael dedfrydau o garchar yn cael eu cadw dros y ffin, ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gyfrifol am eu cefnogi.
Gall dedfrydau byr fod yn ddigon hir i darfu ar gartref, cyflogaeth a pherthnasoedd teuluol, heb fod yn ddigon hir i sicrhau adsefydlu ystyrlon.
Ac, yn rhy aml, gall y tarfu hwn droi’n ddedfryd sy’n para’n hirach o lawer na’r ychydig fisoedd y mae merch yn ei harddegau neu fam ifanc yn eu treulio mewn cell ymhell o’i chartref.
Byddai system ddatganoledig yn ein galluogi ni i gysylltu plismona a chyfiawnder ag iechyd, tai, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, lle mae gorgyffwrdd anorfod yn y meysydd hyn.
Byddai’n ein galluogi ni i roi arweiniad democrataidd ac atebol i lywodraeth leol ac i Weinidogion Cymru ar blismona, fel bod ein cynghorau’n cael dylanwad priodol ar atal troseddu.
Byddai’n ein galluogi ni i sicrhau’r cysondeb hwnnw drwy ymyrryd yn gynharach.
I fynd i’r afael â’r ffactorau sy’n achosi troseddu.
I addasu plismona lleol mewn ffordd sy’n addas i anghenion cymunedau lleol, yn hytrach na rhyw ffordd sydd i fod yn addas i bawb gan San Steffan.
Ac i leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn troseddu eto.
Onid chwyldro fyddai i ni yng Nghymru greu system lle nad adeiladu mwy a mwy o leoedd mewn carchardai ydi’r ateb!
Mae’n costio £60,000 y flwyddyn i gartrefu un person mewn carchar yng Nghymru a Lloegr.
Cymru sydd â’r cyfraddau carcharu uchaf yn unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, ac mae un carcharor o bob pedwar yn mynd ymlaen i aildroseddu.
Mae ein system gyfiawnder wedi torri, a dwi'n herio unrhyw un i honni na ddylai Cymru o leiaf gael cyfle i wneud pethau’n wahanol ac i’w gwneud yn well.
Dyna pam mae datganoli seilwaith y rheilffyrdd, ochr yn ochr â chyllid teg ar gyfer y rheilffyrdd, yn bwysig.
Rydyn ni wedi gweld, gyda Llinellau Craidd y Cymoedd er enghraifft, beth y mae’n bosibl ei wneud.
Ond mae annhegwch sylfaenol o hyd yn y ffaith fod tua 10% o rwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru, ond dim ond 1% o’r buddsoddiad mewn rheilffyrdd rydyn ni'n ei gael.
Er bod yr ymrwymiad gwerth £14 biliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru yn rhywbeth i’w groesawu, dim ond £302 miliwn sydd wedi cael ei ddarparu yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol.
Felly, does dim modd bwrw ymlaen â’r prosiectau sy’n sail i’r ymrwymiad ar y cyflymder angenrheidiol i gael Cymru i symud.
Dyna pam mae fy Ngweinidog Cabinet dros Gyllid wedi ysgrifennu at Ganghellor y Deyrnas Gyfunol yn gofyn am gytundeb i ddod â £1.011 biliwn o’r ymrwymiad presennol o £14 biliwn ymlaen i gyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol hyd at 2029-30.
Dyna pam mae dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru yn bwysig.
Mae gwlad sy’n gyfoethog o adnoddau, ond â lefelau ystyfnig o uchel o dlodi tanwydd, yn sefyllfa groes i'r graen na ddylem ni ddim ei goddef.
Ac ni fyddai neb ag ymwybyddiaeth bitw o hanes Cymru hyd yn oed yn gallu amau na ddylai adnoddau naturiol Cymru fod o dan reolaeth pobl Cymru.
Dyna pam mae hyblygrwydd cyllidol a threfniadau cyllido teg yn bwysig.
Mae’r siaced gaeth gyllidol sy’n wynebu Cymru yn llesteirio ein gallu i gryfhau ein gwydnwch a lledaenu ffyniant i bob rhan o’n gwlad.
Mae pobl Cymru yn disgwyl inni sbarduno twf economaidd, ac felly dylem ni gael yr arfau angenrheidiol i wneud hynny.
Dwi eisiau gweld Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cael gwared ar yr holl gyfyngiadau ar Gronfa Wrth Gefn Cymru, sef y mecanwaith cyllidol sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllid o un flwyddyn ariannol i’r llall.
Byddai hyn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ymateb i bwysau sy’n dod i’r amlwg a phwysau anhysbys.
Ac wrth i ni symud yn nes byth at sefyllfa lle Fformiwla Barnett wedi bod yn nodwedd o’n tirwedd ariannol ers bron i hanner canrif, mae’n hen bryd gwneud newidiadau i’r system hon i ganolbwyntio ar gryfhau tegwch a thryloywder o ran sut mae penderfyniadau cyllido’n cael eu gwneud a’u deall.
Ni ddylid deall unrhyw elfen o hyn fel galw am bwerau er mwyn galw am bwerau.
Ni ddylid ei ystyried ychwaith fel cystadleuaeth rhwng llywodraethau.
A dydi’r blaenoriaethau hyn – mewn unrhyw ffordd – ddim yn eithriadol, neu'n afresymol, nac yn pledio ffafriaeth arbennig i Gymru.
Sut alla i fod mor sicr?
Y ffaith syml ydi fod yr holl bwerau hyn yr ydan i’n galw amdanynt i Gymru eisoes wedi'u datganoli i'r Alban.
Mae nhw yn nwylo Senedd yr Alban a Gweinidogion yr Alban, sy'n atebol i bobl yr Alban.
I'r rhai sy'n anfodlon cynnig hyn i Gymru, dwi’n gofyn yn syml – pam ddylai Cymru gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Alban?
Ydi hynny’n sail deg ar gyfer dinasyddiaeth ar draws cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol?
Felly, nid i amddiffyn y setliad sydd gennym yn unig ydi’r dasg sydd o’n blaenau.
Yr her ydi ystyried sut y dylai’r setliad esblygu i’n galluogi i oresgyn yr heriau sydd o'n blaenau.
Byddai sicrhau'r newidiadau hyn yn gam sylweddol ymlaen yn nhaith gyfansoddiadol Cymru.
Byddai'n rhoi'r offer sydd eu hangen i sefydliadau Cymru i alinio cyfrifoldeb ag atebolrwydd.
Byddai'n cryfhau ein gallu i sicrhau canlyniadau gwell.
A byddai'n sicrhau y gall penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru gael eu gwneud gan y rhai sydd fwyaf uniongyrchol atebol iddyn nhw.
Dwi wedi esbonio o'r blaen sut yr ydw i wedi edrych y fyw llygaid y Prif Weinidog a dweud wrtho na ddylai danseilio’r Senedd.
Mae yntau wedi addo i mi yn bersonol na fydd yn gwneud hynny.
Ond wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydan ni wedi gweld digon o dystiolaeth bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn diystyru rhai o egwyddorion craidd datganoli.
Er enghraifft, mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Gyfunol yn rhoi pwerau mympwyol i Lywodraeth San Steffan ddiystyru penderfyniadau democrataidd sy’n cael eu gwneud mewn seneddau datganoledig.
Ac mae confensiwn Sewel – sy'n nodi'r egwyddor allweddol na ddylai Senedd San Steffan fel rheol ddeddfu mewn meysydd o gyfrifoldeb datganoledig heb gydsyniad y deddfwrfeydd hynny – wedi cael ei drin fel rhywbeth anghyfleus.
Er mwyn i'r Deyrnas Gyfunol weithredu’n effeithiol, gyda seneddau datganoledig a sawl haen o ddemocratiaeth, rhaid i hynny newid.
O fethu cydnabod hynny, mi fydd y Prif Weinidog yn gorfod cario’r baich o setliad cyfansoddiadol sy'n plesio neb a rhwystredigaeth gynyddol - sylweddoli cynyddol - bod San Steffan yn methu.
Ac ydw, dwi’n awyddus i helpu'r Prif Weinidog i sylweddoli hyn ac i weld y rhwystredigaeth honno o safbwynt Cymreig.
Ac eto, mae hyn yn golygu deall nad rhanbarth o Loegr ydi Cymru, ac felly ddylen ni ddim cael ein trin fel un.
Mae hyn yn fy arwain at yr ail gwestiwn dwi eisiau edrych arno heno:
Sut mae defnyddio’r pwerau sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys sut gellir ffurfio partneriaethau newydd a gwella partneriaethau sy’n bodoli eisoes i sicrhau bod ein pwerau yn cael eu harneisio er budd ein holl gymunedau?
Un o’r materion sy’n greiddiol i’r ateb ydi ceisio sicrhau twf economaidd.
Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, byddaf yn nodi un uchelgais yr ydw i a’r Prif Weinidog yn ei rhannu’n fawr, sef yr uchelgais o weld twf da ym mhob cod post.
Ond yma yng Nghymru, rhaid i ni allu meithrin hynny yn ein ffordd ein hunain.
Nid mater o ble mae pŵer yn eistedd yn unig ydi diwygio cyfansoddiadol.
Ond yr hyn y mae pŵer yn caniatáu inni ei wneud.
Ac os ydyn ni o ddifri am dyfu economi Cymru, rhaid i ni hefyd fod o ddifri am sut mae twf yn cael ei gyflawni.
Ers gormod o amser, mae Cymru wedi byw gyda system datblygu economaidd sy’n ddryslyd ac yn gynyddol dameidiog.
Dylai hynny fod yn ofid i bob un ohonom.
Oherwydd, mewn egwyddor, dylai’r sefyllfa fod yn syml.
Mae’n amlwg bod yna dirwedd economaidd fyd-eang ehangach, ac mae yna gyd-destun macro-economaidd i’r Deyrnas Gyfunol, gyda Chymru’n gweithredu o fewn hwnnw, a gall partneriaeth gadarnhaol â llywodraeth y Deyrnas Gyfunol weithio mewn sawl ffordd.
Ond mae datblygu economaidd ei hun wedi’i ddatganoli.
Llywodraeth Cymru sy’n arwain, yn arbennig o ran pennu’r cyfeiriad strategol, ac mae partneriaid eraill, yn enwedig llywodraeth leol, yn hanfodol i’w gyflawni ar lawr gwlad.
Ond dros y degawd diwethaf, mae dull gweithredu gwahanol wedi dod i’r amlwg.
Mae cyfres o raglenni Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi’u gosod yn haenau ar ben cyfrifoldebau datganoledig ac, mewn rhai achosion, wedi’u tanseilio.
Mae rhai wedi ariannu prosiectau gwerth chweil.
Mae rhai wedi dod â buddion gwirioneddol.
Ond, gyda’i gilydd, maen nhw wedi gwneud y dirwedd yn fwy cymhleth, yn fwy darniog ac yn anoddach gweithio ein ffordd drwyddi.
Bargeinion Dinesig.
Bargeinion Twf.
Ffyniant Bro.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Rhaglenni gwahanol. Rheolau gwahanol. Gofynion adrodd gwahanol.
Ond yr un canlyniad yn rhy aml.
Mwy o gymhlethdod.
Mwy o ddyblygu.
A llai o eglurder ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am beth.
Ni ddylai’r Canghellor fod yn cael cyhoeddi cyllid ar gyfer safle diwydiannol yng Nghymru heb drafod ein cynlluniau ni ar gyfer yr ardal gyda ni.
Yn enwedig pan mai ni sy’n berchen ar y tir.
Y canlyniad ydi tirwedd fuddsoddi yng Nghymru sy’n fiwrocrataidd ac yn ddiangen o ddigyswllt.
Ac mae gan bob rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei strwythurau ei hun. Ei byrddau ei hun. Ei gofynion llywodraethiant ac adrodd ei hun.
Ei goruchwyliaeth ei hun gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Dyna amser a chapasiti yn mynd ar reoli systemau a phrosesau sy’n cystadlu â’i gilydd – er bod y cyllid mewn meysydd datganoledig – pan ddylen nhw ganolbwyntio ar gyflawni.
Yr hyn sy’n gwneud hyn yn fwy trawiadol byth ydi bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei hun yn cydnabod y broblem fwyfwy.
Mae’r Prif Weinidog wedi siarad am yr angen i leihau dyblygu.
Mae o wedi dadlau y dylai Whitehall roi’r gorau i wneud pethau sydd eisoes wedi’u datganoli.
Ac mae camau’n cael eu cymryd i symleiddio trefniadau cyllido yn Lloegr.
Mae egwyddor syml wrth wraidd y dull hwnnw.
Os ydi pwerau wedi’u datganoli, ddylai llywodraeth ganolog ddim parhau i’w dyblygu.
Dwi’n cytuno. Ac yn sicr ddylai hi ddim ceisio dweud beth i'w wneud.
A dylai’r egwyddor honno fod yn berthnasol yng Nghymru hefyd.
Mae hynny’n golygu cael eglurder eto ynglŷn â’r setliad datganoli a sut gall hynny, felly, sbarduno datblygu economaidd rhanbarthol a lleol effeithiol.
Wrth gwrs, does dim angen ailwampio cyfansoddiadol mawr ar gyfer hyn.
Y cyfan sydd ei angen ydi parchu’r setliad datganoli sydd eisoes yn bodoli.
Gadewch i ni edrych ble mae’r ffiniau ar hyn o bryd rhwng pwerau a gadwyd yn ôl a phwerau datganoledig.
Mae rhai meysydd pwysig lle does gan neb ond San Steffan, ar hyn o bryd, y pwerau i weithredu:
Seilwaith y grid. Masnach. Rheoleiddio diwydiannol. Buddsoddiadau strategol mawr.
Dyna rai enghreifftiau.
Ac mae’r rhain i gyd yn feysydd lle mae San Steffan yn tisian ac economi Cymru yn dal annwyd.
Dyna pam mae hi’n bwysig fod llywodraethau’n cydweithio’n effeithiol.
Oherwydd mae llawer o’r ysgogiadau sy’n sbarduno twf eisoes wedi’u datganoli.
Sgiliau. Cynllunio. Arloesi. Cymorth i fusnesau.
Mae llawer o ysgogiadau eraill yn dal wedi’u cadw’n ôl, ac wrth gwrs dwi am i ni symud i sefyllfa lle mae gennym ni yr holl ysgogiadau allweddol ar gyfer newid, yn ein dwylo ni, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd mae’r enillion mwyaf yn dod pan fydd y ddwy lywodraeth yn cysoni eu pwerau y tu ôl i amcan cyffredin.
Ac ar hyn o bryd, mae penderfyniad ar y cyd i weld twf go iawn.
Felly sut wnawn ni gyrraedd yno?
Yn ddiweddarach y mis yma, yn y Cyngor Economaidd Cenedlaethol, mi fydda’ i’n gwahodd y Prif Weinidog i gytuno ar bartneriaeth newydd ar gyfer twf, rhwng ein dwy lywodraeth.
Nid cronfa arall.
Nid rhaglen arall.
Nid haen arall o fiwrocratiaeth.
Ond cytundeb ymarferol ynglŷn â sut mae ein dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i ddatgloi potensial economaidd Cymru.
Cytundeb sy’n sicrhau bod parch yn llifo’r ddwy ffordd.
Cytundeb sy’n ymrwymo fy llywodraeth i weithio’n gadarnhaol ac yn adeiladol efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol er mwyn manteisio ar gyfleoedd i dyfu. Ac, yn gyfnewid am hynny, mae’n disgwyl iddi dderbyn mai Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i wneud hynny os ydi’r pwerau wedi’u datganoli.
Oherwydd nid cyrchfan ydi pwerau newydd a phartneriaethau newydd – ond llusernau i oleuo’r llwybr tuag at ffyniant a chynhyrchiant.
Mae’n hollbwysig sicrhau bod y pwerau sydd gan bob llywodraeth yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosib wrth geisio cyflawni’r nodau cyffredin hyn.
Oherwydd does gan fuddsoddwyr ddim diddordeb mewn damcaniaeth ffiniau cyfansoddiadol.
Dydi busnesau ddim yn treulio eu hamser yn meddwl pa bwerau sydd wedi’u cadw a pha rai sydd wedi’u datganoli.
Ond MAEN nhw eisiau llywodraeth effeithiol. Llywodraeth sy’n hyblyg. Sy’n ymatebol. Sy’n deall y sefyllfa fel mae hi. Sut i ddatblygu neu ddatgloi sgiliau lleol. Dyma resymau pam y byddwn i’n dadlau bod llywodraeth ddatganoledig - llywodraeth yng Nghymru, i Gymru, yn nes at bobl Cymru - yn golygu mantais gystadleuol!
Dyna sut mae busnesau eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud.
I rwystrau gael eu dileu.
I seilwaith gael ei gyflawni.
Ac i fanteision gael eu cymryd.
A dyna beth fyddai’r cytundeb hwn yn helpu i’w gyflawni.
Byddai’n seiliedig ar set o egwyddorion syml.
- Parch at ddatganoli.
- Ymrwymiad i sybsidiaredd.
- Meddwl yn y tymor hir yn hytrach na chylchoedd cyllido tymor byr.
- A ffocws diwyro ar ganlyniadau.
Byddai’n darparu fframwaith ar y cyd y gallai’r ddwy lywodraeth ei ddefnyddio i adnabod cyfleoedd economaidd mawr Cymru a chysoni eu pwerau eu hunain y tu ôl iddyn nhw.
Meddyliwch am rai o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
- Gwynt arnofiol ar y môr.
- Dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru.
- Datblygu ein porthladdoedd.
- Deallusrwydd artiffisial a’r diwydiannau digidol.
Mae pob un yn cynrychioli cyfle mawr am swyddi, buddsoddiad a thwf.
Ac mae pob un yn gofyn am weithredu gan y ddwy lywodraeth.
Mae llwyddiant yn dibynnu ar fath newydd o bartneriaeth – partneriaeth gyfartal.
Partneriaeth a fyddai’n creu mecanwaith ar gyfer nodi rhwystrau’n gynnar a’u datrys yn gyflym.
Byddai’n darparu goruchwyliaeth weinidogol, ffordd o ddatrys anghytundebau, a mwy o sicrwydd am ein cyd-flaenoriaethau.
Oherwydd mae sicrwydd yn bwysig.
Mae busnesau’n buddsoddi lle mae eglurder.
Mae buddsoddwyr yn buddsoddi lle mae hyder.
Ac mae hyder yn cynyddu pan fydd llywodraethau’n dangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd tuag at ddiben cyffredin.
Dim osgoi, dim tanseilio, dim pethau annisgwyl.
Felly, mi fydd fy neges i’r Prif Weinidog yn un syml.
Gadewch inni dreulio llai o amser yn cynllunio rhaglenni newydd a llai o amser yn dyblygu gweithgareddau.
Gadewch inni dreulio mwy o amser yn datgloi cyfleoedd.
Mwy o amser yn cefnogi buddsoddiadau.
A mwy o amser yn sicrhau’r twf rydyn ni’n dau eisiau ei weld ym mhob rhan o’n gwledydd.
Ein Hawdurdod Datblygu newydd, er enghraifft – corff sy’n cael ei sefydlu i roi anadl einioes newydd mewn hen wireb – sef mai ein hased mwyaf yng Nghymru ydi ein pobl.
Bydd yr Asiantaeth yn helpu i gefnogi datblygiad economaidd ym mhob rhan o’n gwlad. Mae’r ymrwymiad hwnnw i ledaenu ffyniant ledled Cymru yn rhan greiddiol o’n cenhadaeth.
Nid drwy ddisodli arweinyddiaeth leol neu ranbarthol.
Ac nid drwy greu haenau newydd o ddyblygu.
Ond drwy ddod â ffocws, arbenigedd a chapasiti i gefnogi twf ledled y wlad.
Bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â llywodraeth leol a phartneriaid rhanbarthol i ledaenu ffyniant a hybu cynhyrchiant.
A bydd fy llywodraeth yn gwneud mwy nag ehangu twf: bydd yn cynyddu ei raddfa hefyd.
Mae Sbardun, a gyhoeddwyd gan Weinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni fis diwethaf, yn fenter a ddatblygwyd ar y cyd gan Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru i helpu hyd at ugain o fusnesau uchelgeisiol yng Nghymru i gyflymu eu twf. Ar raddfa weddol fach ar hyn o bryd efallai, ond yn ddatganiad o fwriad.
A byddwn ni'n gwneud yn siŵr nad ydi’r ugain cwmni hynny mewn un ardal yn unig.
Mae hyn yn rhan o weledigaeth twf sy’n canolbwyntio ar Gymru ac na allai neb ond Llywodraeth Cymru ei harwain. Oherwydd nid Lloegr ydi Cymru, na rhanbarth ohoni.
Mae ein sefydliadau’n wahanol.
Mae ein cymunedau’n wahanol.
Mae ein daearyddiaeth yn wahanol.
Ac maen nhw’n wahanol o fewn Cymru hefyd.
O’r meysydd glo i’r arfordir, mae ein trefi, ein pentrefi a’n dinasoedd wedi cael eu siapio gan yr hyn sydd o’u cwmpas, a rhaid i ni adlewyrchu’r hanes hwnnw wrth i ni siapio eu dyfodol hefyd.
Dyna pam mai ein man cychwyn ydi egwyddor sybsidiaredd – gair trwsgl am gysyniad campus o syml.
Lle gall pŵer eistedd mor agos at y bobl y mae’n effeithio arnyn nhw, dylai hynny ddigwydd.
Cysyniad ac egwyddor a oedd yn rhan o DNA cyfansoddiadol Cymru ymhell cyn i slogan ‘datganoli dyfnach’ ddechrau britho areithiau a phenawdau mewn mannau eraill.
Ond er fy mod i’n glir na ddylem ni fyth dybio y bydd yr hyn sy’n gweithio i Loegr yn gweithio i Gymru, ac fel arall – a dwi’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cydnabod hyn – dwi’n gwybod nad ydi’n trefniadau presennol ninnau ddim yn berffaith chwaith.
Dwi’n argyhoeddedig y dylai Cymru, dros amser, symud tuag at system lywodraethu leol a rhanbarthol sy’n fwy cydlynol a symlach.
Ond does dim modd gorfodi’r weledigaeth honno.
Does dim modd ei dylunio yng Nghaerdydd a’i chyflwyno i bawb arall, fel y ceisiwyd gwneud yn y gorffennol, heb lwyddiant.
Rhaid ei ddatblygu gyda’n gilydd.
- Gyda llywodraeth leol.
- Gyda phartneriaid rhanbarthol.
- Gyda gwasanaethau cyhoeddus.
A gyda phobl Cymru eu hunain.
Mi fyddwn ni’n cael sgwrs gyda’n partneriaid a’n cydweithwyr am ba bwerau sy’n gweithio orau ymhle.
Mae’r sgwrs honno’n dechrau gyda chymuned.
Mae’n parchu ein hawdurdodau lleol, a’r cynghorau cymuned a thref hanfodol hynny, fel blociau adeiladu democratiaeth – fel amddiffynwyr lleoedd, fel sylfaen i’n sofraniaeth Gymreig ddatblygol.
Oherwydd mae hynny’n gred sy’n mynd at wraidd y llywodraeth hon. Un genedl Gymreig yn cynnwys cymunedau unigryw a balch.
Rydyn ni'n croesawu’r cyfle i godi ein cymunedau i’r lefel ranbarthol lle mae’n gwneud synnwyr, a lle bydd yn arwain at ganlyniadau gwell. Ond mater o gydweithredu ydi mapio sut mae hynny’n gweithio orau a sut i gyrraedd yno.
Mae’n golygu adeiladu’r ffordd gyda’n gilydd.
Ac un o fy ymrwymiadau i heno ydi darparu llwybr ymlaen y gallwn ni ei ddilyn gyda’n gilydd, i ganfod ein llwybr ein hunain yng Nghymru.
Yr hyn sy’n ein tywys ydi’r maniffesto sy’n sail i raglen y llywodraeth hon.
Yr ymrwymiad hwnnw ydi cytuno ar ddull o gydweithredu rhanbarthol dan arweiniad cynghorau, gan arwain at fap rhanbarthol newydd a chynllun i’w roi ar waith.
Ond dim ond ar y cyd â’n partneriaid cyfartal mewn cynghorau a chymunedau y gallwn ni symud.
Hynny ydi - gorfodi dim, ond gwahodd popeth.
Llywodraeth fel arweinydd.
A’r arweinydd - yn ôl yn chwedloniaeth Cymru ydi’r bont - A fo ben bid bont! Dyna’r ysbrydoliaeth rydyn ni’n ei chael gan Bendigeidfran yn y Mabinogi.
Siapio llwybr cyfansoddiadol, yn ysbryd partneriaeth.
Erbyn diwedd tymor y Senedd hon, dwi’n gobeithio’n fawr y gallwn ni fod mewn sefyllfa dda i feddwl am y pethau sy’n gweithio a lle mae angen newid.
Ond rhaid i’r sgwrs am y newidiadau ddechrau cyn hynny, os ydyn ni am fapio’r ffordd Gymreig ymlaen.
Bydd y ffordd honno o symud ymlaen yn cynnwys ymarfer ystyrlon manwl i bwyso a mesur lle dylai pwerau a chymwyseddau penodol fod, sut mae gweithio rhanbarthol yn gweithio orau, a sut beth ydi cydweithredu effeithiol, a sicrhau bob amser fod cymunedau’n cael eu grymuso, ac nad ydyn nhw ddim yn teimlo’n bell oddi wrth bŵer, cyfoeth a dylanwad yn ein gwlad.
Dim ond drwy sgwrs gydweithredol ac ystyrlon gyda’n partneriaid a’n cydweithwyr mewn llywodraeth leol ac yn ein Senedd y gellir gwneud hyn.
Er mwyn i ni yng Nghymru benderfynu sut mae ein gwlad yn cael ei llywodraethu.
Er mwyn i’n llywodraethiant mewnol fod yn seiliedig ar gydsyniad ein cymunedau ni, adlewyrchu ein cenedligrwydd democrataidd ni, heb ddibynnu ar newidiadau yn Lloegr nac unrhyw wlad arall.
Bydd hyn yn arwain at ddatblygu Papur Gwyrdd y byddwn ni yn ei gyhoeddi cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac yna’r opsiwn i fwrw ymlaen â deddfwriaeth sylfaenol fel Llywodraeth nesaf Cymru.
Mi wnes i ddechrau heno hefo dau gwestiwn.
- Sut ydan ni'n arfogi Cymru hefo’r grymoedd a'r atebolrwydd sydd ei angen arni i wynebu heriau'r blynyddoedd i ddod?
- A sut i ddefnyddio'r pwerau hynny yn effeithiol, gan gynnwys sefydlu partneriaethau newydd a gwella partneriaethau presennol i sicrhau bod y grym sydd gennym yn elwa ein holl gymunedau?
Mae'r cwestiynau hynny wedi siapio popeth dwi wedi siarad amdano heno.
Achos nid ymarferiad haniaethol ydi diwygio cyfansoddiadol.
Nid achos o gronni pwerau er mwyn cronni pwerau.
Mae'n fater o sicrhau bod gan y rhai sy'n gyfrifol am weithredu newid y pwerau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.
Nid am fod y pwerau hyn yn symbolau.
Ond am eu bod nhw’n offer ymarferol a fyddai'n caniatáu i Gymru fynd i'r afael â'i heriau'n fwy effeithiol a manteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol i ffyniant economaidd a thwf economaidd.
Os ydi llywodraethau i fod yn atebol am dyfu'r economi, rhaid iddyn nhw gael y gallu i siapio'r amodau sy'n cefnogi twf.
Mae hynny'n golygu parchu'r setliad datganoli.
Lleihau dyblygu.
Dod â mwy o eglurder i'r dirwedd fuddsoddi.
A chanolbwyntio'n ddi-baid ar gyflawni.
Dyna pam mae sicrhau partneriaeth rhynglywodraethol newydd ar dwf mor bwysig.
Fframwaith ymarferol y gall llywodraethau alinio eu hymdrechion y tu ôl i flaenoriaethau cyffredin.
O wynt y môr a'n porthladdoedd i ddyfodol gweithgynhyrchu dur Cymru a diwydiannau yfory.
Fframwaith sy'n canolbwyntio nid ar fiwrocratiaeth, ond ar gyfleoedd.
Nid ar broses, ond ar ganlyniadau.
Ac ar barch.
Oherwydd nid fy uchelgais yw Cymru rymusol yn unig.
Mae ar gyfer Cymru sy'n llywodraethu ei hun yn fwy effeithiol.
Cymru lle mae'r cyfrifoldeb yn gliriach.
Cymru lle mae sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd yn fwy llwyddiannus.
A Chymru lle mae pŵer, atebolrwydd a chyflawni wedi'u halinio'n agosach.
Drwy gydol ein hanes, dydi Cymru erioed wedi sefyll yn ei hunfan.
Doedd y cenedlaethau o’n blaenau ddim wedi jest derbyn y trefniadau a etifeddwyd.
Roedden nhw wedi trefnu.
Roedden nhw wedi perswadio.
Ac roedden nhw wedi sicrhau newid.
Mae datganoli ei hun yn dyst i’r traddodiad hwnnw.
Nid mynd drwy hen ddadleuon ydi ein tasg ni rŵan.
Ond sicrhau bod ein trefniadau cyfansoddiadol yn cyfateb i heriau ein hoes.
Adeiladu Cymru sydd mewn sefyllfa well i dyfu ei heconomi.
Sy’n well am gryfhau gwasanaethau cyhoeddus.
Ac yn well am siapio ei dyfodol ei hun.
Dylai pŵer eistedd lle gall sicrhau’r budd mwyaf.
Dylai cyfrifoldeb gael ei gyfateb gan y gallu i weithredu.
A dylai atebolrwydd fod yn glir i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Dyna’r gwaith sydd o’n blaenau.
Dyna’r cyfle sydd o’n blaenau.
Ac mae’n dasg dwi’n benderfynol y byddwn ni’n bwrw ymlaen â hi gyda’n gilydd fel cenhadaeth genedlaethol.
Diolch yn fawr.
