Neidio i'r prif gynnwys

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2027

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru annibynnol yn ceisio barn ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2027, sy'n cynnwys newidiadau i gyfraddau isafswm cyflog a lwfansau ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer gweithwyr amaethyddol (“Gweithiwr amaethyddol" yn unol â'r diffiniad o amaethyddiaeth a nodir yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014).

Agor: 05 Tachwedd 2026

Cau: 19 Tachwedd 2026

Cefndir

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ("y Panel") yn gorff annibynnol sy'n cynnig y cyfraddau tâl isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol, a'u hamodau gwaith. Hefyd, mae'n annog pobl i weithio yn y sector amaeth ac yn ceisio nodi unrhyw anghenion sgiliau a all fod gan y diwydiant. Hefyd, mae gan y Panel ddyletswydd i roi cyngor i Lywodraeth Cymru pan ofynnir amdano.

Mae'r Panel yn cynnwys aelodau o grwpiau gwahanol: Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru), Unite the Union a thri aelod annibynnol.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r cyfraddau tâl isaf a’r amodau gwaith ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gan gynnwys tâl salwch a lwfans goramser.

Wrth wneud penderfyniadau, mae'r Panel yn adolygu'r sefyllfa economaidd yn y sector amaethyddol yng Nghymru. Yn ogystal, mae effeithiau digwyddiadau ehangach yn cael eu hystyried, fel ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Brexit), pandemig Covid-19, a'r rhyfel yn Wcráin.

Mae Brexit wedi achosi ansicrwydd yn y byd ffermio oherwydd newidiadau i gytundebau masnach, rheolau a pholisïau mewnfudo. Oherwydd y newidiadau hyn, mae'n gallu bod yn anoddach dod o hyd i weithwyr tymhorol a medrus. Hefyd, mae’n bosibl bod busnesau amaethyddol yn pryderu am gymorth ariannol a chyfraddau taliadau yn y dyfodol, sy’n gallu gwneud cynllunio’n anodd.

Mae'r ansefydlogrwydd yn Wcráin a'r Dwyrain Canol ar hyn o bryd wedi cynyddu cost cyflenwadau ffermio ac wedi effeithio ar gyflenwad a phrisiau bwyd a bwyd anifeiliaid ledled y byd. Ar yr un pryd, mae costau byw wedi cynyddu'n sylweddol, sy'n anodd i weithwyr, yn enwedig y rhai ar incwm isel sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle mae pethau fel tai, trafnidiaeth, bwyd, gwres a gwasanaethau yn ddrutach.

Mae'r Panel yn ymgynghori ar ei gynigion cyn eu cyflwyno i gael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo, mae'r cynigion yn dod yn gyfraith yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2023, dangosodd arolwg (Arolwg o'r cyfrifiad amaethyddol a garddwrol: Mehefin 2023) fod 12,000 o bobl yn gweithio yn y sector amaeth yng Nghymru, cynnydd o 5% ers 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr rheolaidd (llawn amser a rhan-amser) a gweithwyr achlysurol. Mae rhai swyddi, fel cneifio a chynaeafu, yn cael eu gwneud gan gontractwyr nad ydynt yn cael eu cyfrif yn yr arolwg hwn oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar newidiadau arfaethedig y Panel i'r rheolau presennol, a fyddai'n dechrau ar 1 Ebrill 2027. Gwnaed y cynigion yng nghyfarfod y Panel ar 23 Hydref 2026.

Adran 1: cyfraddau tal isaf

Wrth baratoi’r cynigion hyn ar gyfer 2027, adolygodd y Panel y cyfraddau tâl isaf presennol ar gyfer gweithwyr amaethyddol ar bob gradd, gyda'r Undebau Ffermio ac Undeb Unite yn cyflwyno tystiolaeth fanwl i'r broses. Roedd cynigion dilynol y Panel ar gyfer 2027, a gyflwynir yma at ddibenion ymgynghori, yn destun pleidlais fwyafrif y Panel.

Dangosir y cyfraddau tâl isaf presennol ar gyfer graddau gwahanol o weithwyr amaethyddol yn Nhabl 1.

Tabl 1

Categori'r gweithiwrCyfradd Isafswm Cyflog Amaethyddol ar hyn o bryd
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16–17 oed)£8.00
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18–20 oed)£10.85
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21+ oed)£12.71
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16–17 oed)£8.00
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18–20 oed)£10.85
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21 oed a hŷn)£12.71
C – Gweithiwr amaethyddol uwch£13.48
D – Uwch-weithiwr amaethyddol£14.79
E – Rheolwr amaethyddol£16.23
Prentis Blwyddyn 1£8.00
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16–17 oed)£8.00
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18–20 oed)£10.85
Prentis Blwyddyn 2 ac wedi hynny (21+ oed)£12.71
Lwfans Ci (fesul ci yr wythnos)£11.18
Lwfans Gwaith Nos£2.12
Grant Geni a Mabwysiadu£87.85
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)£1.97
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)£6.31

Tabl 2: cyfraddau arfaethedig

Categori gweithiwr

Cyfraddau arfaethedig o fis Ebrill 2027
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)£8.31
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)£11.27
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21+ oed)£13.21
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16–17 oed)£8.31
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18–20 oed)£11.27
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21 oed a hŷn)£13.62
C – Gweithiwr amaethyddol uwch£14.03
D – Uwch-weithiwr amaethyddol£15.38
E – Rheolwr amaethyddol£16.89
Prentis Blwyddyn 1£8.31
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (16–17 oed)£8.31
Prentis Blwyddyn 2 a thu hwnt (18–20 oed)£11.27
Prentis Blwyddyn 2 ac wedi hynny (21+ oed)£13.21
Lwfans Ci (fesul ci yr wythnos)£11.62
Lwfans Gwaith Nos£2.20
Grant Geni a Mabwysiadu£91.28
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Tŷ) (yr wythnos)£2.05
Lwfans Gwrthbwyso Llety (Llety Arall) (y dydd)£6.56

Cwestiynau

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r cyfraddau tâl isaf a’r lwfansau a awgrymir ar gyfer gweithwyr amaethyddol i ddechrau ar 1 Ebrill 2027?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 2: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Section 2: tâl salwch amaethyddol

Erthygl 20: tâl salwch amaethyddol

Mae'r Gorchymyn yn darparu cynllun Tâl Salwch Amaethyddol (ASP) ar gyfer gweithwyr amaethyddol. I fod yn gymwys ar gyfer ASP, rhaid i weithiwr fod wedi cwblhau 52 wythnos o gyflogaeth barhaus.

Ar hyn o bryd nid yw ASP yn cael ei dalu am dri diwrnod cyntaf yr absenoldeb os bydd y salwch yn para am lai na 14 diwrnod. Mae unrhyw Dâl Salwch Statudol (SSP) a dderbynnir yn cael ei ddidynnu oddi wrth yr ASP.

Mae uchafswm cyfnod y Tâl Salwch Amaethyddol yn dibynnu ar hyd y gwasanaeth:

Hyd y GwasanaethUchafswm yr Hawl ASP
2il flwyddyn o gyflogaeth13 wythnos
3ydd flwyddyn o gyflogaeth16 wythnos
4ydd flwyddyn o gyflogaeth19 wythnos
5ed flwyddyn o gyflogaeth22 wythnos
6ed flwyddyn ac ymlaen 26 wythnos

Pam mae hyn yn cael ei adolygu?

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 wedi gwneud SSP yn daladwy o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb salwch, gan ddileu'r cyfnod aros tri diwrnod.

Mae geiriad presennol Erthygl 20 yn nodi nad yw ASP yn daladwy am dri diwrnod cyntaf yr absenoldeb salwch os bydd hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 diwrnod.

Mae'r Panel o'r farn y dylid diwygio Erthygl 20 fel bod ASP yn daladwy o ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb salwch, waeth beth yw hyd yr absenoldeb salwch, i alinio â'r hawl i SSP ar y diwrnod cyntaf.

Cwestiynau

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylid alinio Tâl Salwch Amaethyddol â Thâl Salwch Statudol drwy ddileu'r cyfnod aros tri diwrnod

Adran 3: absenoldeb profedigaeth a thâl profedigaeth

Erthyglau 40 - 42: Absenoldeb Profedigaeth a Thâl Profedigaeth

Ar hyn o bryd mae'r Gorchymyn yn darparu tâl absenoldeb profedigaeth a thâl i weithwyr amaethyddol pan fydd rhai aelodau o'r teulu'n marw. Mae'r hawl i dâl absenoldeb profedigaeth yn cael ei phennu gan berthynas y gweithiwr amaethyddol â'r unigolyn sydd wedi marw:

Categori

Pwy sydd wedi'i gynnwys

Yr hawl i absenoldeb

Yr hawl i dâl

APlentyn y Gweithiwr AmaethyddolPythefnos o absenoldeb

4 diwrnod o absenoldeb â thâl (wedi'i gyfrifo yn yr un modd â thâl gwyliau blynyddol).

Efallai y bydd Tâl Profedigaeth Rhiant Statudol yn cael ei dalu ar gyfer y cyfnod sy'n weddill os yw'r gweithiwr yn gymwys.

B

Rhiant.

Priod neu bartner sifil.

Person mae'r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef/hi fel pe baen nhw'n briod neu'n bartneriaid sifil.

4 diwrnod ar gyfer gweithwyr sydd fel arfer yn gweithio 5 diwrnod neu fwy yr wythnos.

Ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio 4 diwrnod neu lai bob wythnos, cyfrifir yr hawl ar sail pro-rata.

4 diwrnod o absenoldeb â thâl

C

Brawd neu chwaer.

Tad-cu/taid neu fam-gu/nain.

Ŵyr neu wyres.

2 diwrnod ar gyfer gweithwyr sydd fel arfer yn gweithio 5 diwrnod neu fwy yr wythnos.

Ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio 4 diwrnod neu lai bob wythnos, cyfrifir yr hawl ar sail pro-rata.

2 diwrnod o absenoldeb â thâl

Pam mae hyn yn cael ei adolygu?

Bydd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cyflwyno hawl diwrnod cyntaf newydd i o leiaf wythnos o absenoldeb profedigaeth di-dâl, gan gynnwys absenoldeb ar ôl colli beichiogrwydd cyn 24 wythnos.

Felly, bydd angen newidiadau i'r darpariaethau ar gyfer absenoldeb profedigaeth er mwyn sicrhau bod y Gorchymyn yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth newydd, yn enwedig mewn perthynas â hyd yr absenoldeb sydd ar gael; a'r categorïau o bobl ac amgylchiadau wedi'u cynnwys.

Cwestiynau

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno â'r diwygiadau i absenoldeb profedigaeth fel yr amlinellir uchod?

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r cyfraddau tâl isaf a’r lwfansau a awgrymir ar gyfer gweithwyr amaethyddol i ddechrau ar 1 Ebrill 2027?

Os nad ydych yn cytuno, esboniwch pam a nodwch beth fyddai'n well yn eich barn chi.

Cwestiwn 2: Yn eich barn chi, beth fydd yr effeithiau ar fusnesau, gweithwyr, a'r diwydiant ffermio yn gyffredinol (da a drwg)?

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylid alinio Tâl Salwch Amaethyddol â Thâl Salwch Statudol drwy ddileu'r cyfnod aros tri diwrnod?

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno â'r diwygiadau i absenoldeb profedigaeth fel yr amlinellir uchod?

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau ar y cynigion hyn erbyn 15 Tachwedd 2024 er mwyn i'r Panel allu cyflwyno cyngor i'r Gweinidogion fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Dylech gyflwyno’ch ymateb drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol:

Rheolwr y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Eich hawliau

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion sy'n ymwneud â'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu â'r Panel hefyd, a lle mae Llywodraeth Cymru neu'r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gall y gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae’n debygol y bydd ymatebion i ymgynghoriadau’n cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd neu mewn adroddiad. Pe bai’n well gennych aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan y staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru’n cael eu cadw am ddim mwy na tair blynedd.