Yn archwilio sut mae cyfrifoldebau dros ddatblygiad, ymddygiad, presenoldeb a llesiant plant yn cael eu rhannu rhwng teuluoedd, ysgolion a gwasanaethau ehangach.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd yr ymchwil hwn yn edrych ar sut mae rhieni a gofalwyr yn deall rolau a chyfrifoldebau priodol teuluoedd, ysgolion a gwasanaethau ehangach o ran cefnogi datblygiad, ymddygiad, presenoldeb a llesiant plant.
Defnyddiodd yr ymchwil ddulliau cymysg, gan gynnwys synthesis cyflym o’r dystiolaeth o 16 o gyhoeddiadau, wedi’i ategu gan drafodaethau fforwm agored gyda rhieni a gofalwyr plant oedran ysgol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau ac yn nodi meysydd i’w hystyried ymhellach, gan gynnwys disgwyliadau cliriach ynghylch cyfrifoldebau’r cartref a’r ysgol, cyfranogiad rhieni a gofalwyr, ac ymchwil bellach.
Adroddiadau
Archwilio disgwyliadau rhieni a gofalwyr o rôl ysgolion a’r cartref mewn datblygiad ac ymddygiad plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 785 KB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
