Neidio i'r prif gynnwys

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o’r Senedd am wybod ein bod yn cydsynio i’r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Gwneir y Rheoliadau o dan adrannau 36 a 51 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ac Erthyglau 27 a 28 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1005/2008.

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, cafodd Rheoliad Pysgota Anghyfreithlon Heb eu adrodd a Heb eu Rheoleiddio (IUU) (1005/2008) ei gadw a'i gymhathu i gyfraith y DU. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu diwygio'r Rheoliad Pysgota IUU a'r dogfennau cysylltiedig sy'n ofynnol i gyd-fynd â llwythi o bysgod a chynhyrchion pysgodfeydd a fewnforir i'r DU. Bydd hyn yn sicrhau y gall allforwyr y DU ddarparu'r holl wybodaeth angenrheidiol i fewnforwyr yr UE ar gyfer ail-allforio i'r UE.

Pwrpas y gwelliant hwn yw cryfhau cyfundrefn fewnforio y DU ac atal bwyd môr a ddaliwyd o ffynonellau IUU rhag dod i mewn i gadwyn gyflenwi'r DU. Yn ogystal â hynny, bydd yn gorfodi mewnforwyr y DU i ddefnyddio systemau digidol y DU er mwyn cynyddu tryloywder a'r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd môr sy'n dod i mewn i'r DU.

Mae'r gwelliant hefyd yn cynnwys darpariaeth i ddiweddaru'r Rhestr Cychod IUU sy'n nodi cychod sydd wedi cymryd rhan mewn pysgota IUU. Bydd hyn yn cryfhau rheolaethau'r ffin ac yn sicrhau y gall y DU gynnal ei hymrwymiadau rhyngwladol i'r Cytundeb ar Fesurau Gwladwriaeth Porthladd a chynnwys yr holl gychod a restrir gan Sefydliadau Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol ar restr y DU. Bydd hyn yn cynnwys 51 o gychod ac yn dileu 4 cwch.

Gofynnwyd am gytundeb gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Farwnes Hayman o Ullock, i wneud Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2026 ('y Rheoliadau'). Mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud yng Nghymru, y tro hwn ystyrir ei bod yn briodol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar lefel y DU. 

Mae angen y newidiadau angenrheidiol yn dilyn cytundeb rhwng y DU a'r UE, ac o ganlyniad mae'r gweithredu yn rhwymedigaeth ryngwladol. Byddai Offeryn Statudol y DU yn caniatáu i'r DU fodloni ei rhwymedigaethau i weithredu'r newidiadau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae dull ledled y DU yn sicrhau gweithredu amserol a pharhad polisi, gan ddarparu tegwch i bysgotwyr ledled y DU. 

Mae'r Rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, ac fe'u gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 29 Hydref 2026. Nid oes gwahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn, ac mae'r Rheoliadau'n diwygio deddfwriaeth a gymathwyd na chafodd ei gwneud yn ddwyieithog. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.