Gwaith Ieuenctid: Ebrill 2025 i Fawrth 2026
Gwybodaeth am y sector gwaith ieuenctid statudol yng Nghymru, gan gynnwys aelodau cofrestredig, achrediad, prosiectau, y gweithlu a chyllid ar gyfer Ebrill 2025 i Fawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle y gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl a theimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Drwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, y bwriad yw bod gweithwyr ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Gall pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed fod yn aelodau cofrestredig o'r sector gwaith ieuenctid a chael y cyfle i ennill achrediadau cenedlaethol fel gwobr Dug Caeredin.
Prif bwyntiau
- Roedd 77,447 o aelodau cofrestredig o ddarpariaeth y sector gwaith ieuenctid statudol yn 2025 i 2026, cynnydd o 4% o 74,188 yn 2024 i 2025.
- Mae aelodaeth yn parhau i fod 6% yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Mae aelodau cofrestredig i lawr o 82,766 yn 2018 i 2019).
- Ym mis Mawrth 2026, roedd 734 o staff gwaith ieuenctid cyfwerth ag amser llawn yn gweithio mewn awdurdodau lleol, i lawr o 747 ym mis Mawrth 2025 (ond roedd hyn yn dal yn uwch nag yn y 4 blynedd cyn y pandemig).
- Y math mwyaf cyffredin o brosiect yn 2025 i 2026 oedd iechyd a lles (2,349) ac yna prosiectau un-i-un (2,214).
- Cyflawnwyd 43% o brosiectau yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn y Gymraeg yn 2025 i 2026, i fyny o 38% yn 2024 i 2025 (yn parhau â'r duedd i fyny dros y 4 blynedd diwethaf).
- Cyfanswm yr incwm ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn 2025 i 2026 oedd £48 miliwn, cynnydd o 3% o 2024 i 2025.
- Gostyngodd y gyllideb graidd 1% tra cynyddodd yr incwm ychwanegol 5% (o'i gymharu â 2024 i 2025).
- Cyfanswm y gwariant ar gyfer darpariaeth gwaith ieuenctid yn 2025 i 2026 oedd £46.3 miliwn, i fyny o £46.0 miliwn yn 2024 i 2025.
- Mae incwm a gwariant yr uchaf ers i'r casgliad data ddechrau yn 2010 i 2011.
Cwmpas data
Mae gwaith ieuenctid yn cael ei ddarparu drwy awdurdod lleol a hefyd drwy'r sector gwirfoddol. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd gan y sector gwaith ieuenctid statudol.
Cesglir y data yn yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru oddi wrth awdurdodau lleol mewn datganiad blynyddol cyfanredol.
Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â thablau manwl ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd, gweler yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Manylion cyswllt
Ystadegau Ysgol
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
