Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl y Comisiwn Cenedlaethol dros Gymru.
Cynnwys
Diben
Bydd y Comisiwn Cenedlaethol yn darparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, er mwyn hybu trafodaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau gwybodus.
Statws a hyd
- Bydd y comisiwn yn gweithredu mewn rôl gynghori, anstatudol.
- Bydd yn gomisiwn sefydlog. Penodir yr aelodau am dymor o dair blynedd, gyda chyfle i estyn y cyfnod hyd at ail dymor os cytunir ar hynny ar y cyd rhwng Gweinidogion Cymru a’r aelod.
Cylch gwaith
1. Cynghori ar flaenoriaethau datganoli a’r agenda ehangach
- Darparu tystiolaeth a dadansoddiad i lywio gwaith ymgysylltu Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU ar ddatganoli Ystad y Goron, seilwaith rheilffyrdd, a chyfiawnder a phlismona.
- Monitro a darparu cyngor ar gynnydd ar draws yr agenda ddatganoli ehangach.
- Cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am drafod a chyflawni.
2. Hybu sgwrs genedlaethol
- Ymwneud â dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol barhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
- Ystyried cyngor arbenigol ar arferion gorau, gan gynnwys gwaith y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth.
- Hybu trafodaeth gyhoeddus gynhwysol ar sail gwybodaeth.
3. Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth
- Cynnal a chomisiynu ymchwil i gwestiynau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy’n berthnasol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
- Adeiladu ar waith comisiynau blaenorol a thystiolaeth bresennol.
4. Llywio gwaith yn y dyfodol o ran diwygio cyfansoddiadol
- Darparu tystiolaeth a chyngor i gefnogi’r gwaith o ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
- Nodi cwestiynau a thystiolaeth allweddol i lywio polisi yn y dyfodol, gan ddatblygu ymhellach waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a nododd atgyfnerthu datganoli, Cymru mewn DU ffederal, a Chymru annibynnol fel tri opsiwn cyfansoddiadol hyfyw hirdymor.
- Ystyried cydbwysedd cyfrifoldebau ar draws gwahanol lefelau o lywodraeth yng Nghymru, ac asesu’r cwmpas i drosglwyddo cyfrifoldebau pellach i lefelau rhanbarthol neu leol.
Ffyrdd o weithio
- Casglu tystiolaeth ac ymwneud â’r cyhoedd ar faterion cyfansoddiadol, gan fanteisio ar fewnbwn arbenigwyr a grwpiau arbenigol lle bo hynny’n briodol.
- Cyhoeddi allbynnau i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth y cyhoedd.
- Gweithredu’n annibynnol, o fewn cyllideb wedi’i dyrannu, ac yn unol â’i Gylch Gwaith, gyda chymorth ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru sy’n gweithio i gyfarwyddyd y cyd-gadeiryddion, a chynhyrchu adroddiadau a chyngor sy’n adlewyrchu barn y Comisiwn.
Allbynnau
- Adroddiadau, cyngor a thystiolaeth i hybu trafodaethau cyhoeddus, datblygu polisi, a diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol.
