Neidio i'r prif gynnwys

Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 o aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol, waeth beth yw incwm yr aelwyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno ledled Cymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n byw ar aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol.
  • Bydd pob awdurdod lleol yn rhoi prydau bwyd i ddysgwyr cymwys erbyn Ionawr 2027.
  • Dylai rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn gallu manteisio ar bryd o fwyd yn yr ysgol.

Bydd pob awdurdod lleol yn rhoi prydau bwyd i ddysgwyr cymwys erbyn Ionawr 2027, ac mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru eisoes yn darparu'r prydau hyn am ddim o dan y cynllun estynedig.

Dylai rhieni a gofalwyr sydd â phlant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol gofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim trwy eu hawdurdod lleol er mwyn sicrhau y gall eu plentyn gael pryd o fwyd yn yr ysgol.

Mae ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim yn ymrwymiad allweddol yn Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, dim ond os yw teulu’n cael Credyd Cynhwysol a bod incwm y cartref yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau, y mae disgyblion ysgol uwchradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Canfu gwerthusiad interim diweddar o'r Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bawb fod ymwybyddiaeth o'r cynllun a'r defnydd ohono yn uchel, a'i fod yn dod â manteision i ddysgwyr a theuluoedd, yn enwedig o ran lles ac arbedion ariannol. 

Yn ogystal, mae prydau ysgol gynradd bellach yn fwy maethlon. Ar 31 Hydref, daeth y rheoliadau newydd ar fwyta'n iach mewn ysgolion i rym. Mae'r rheoliadau hyn wedi newid y mathau o fwyd y gellir eu gweini mewn ysgolion, gan gynyddu'r ddarpariaeth o ffrwythau a llysiau a chyfyngu ar fwydydd sy'n uchel mewn siwgr a bwydydd wedi'u ffrio, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at ddeiet cytbwys a maethlon. Bydd bwyd ysgol hefyd yn faes ffocws allweddol yn ystod camau cynnar datblygu Strategaeth Bwyd newydd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan:

Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i estyn prydau ysgol am ddim i ragor o ddysgwyr ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Mae cael mynediad at fwyd maethlon yn gwella gallu rhywun i ganolbwyntio, yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol ac yn hybu iechyd yn gyffredinol. Rydyn ni eisoes wedi gweld trwy'r Rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bawb faint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i deuluoedd a dysgwyr. Rwy'n annog rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n gymwys i fynd ati i gofrestru gyda'u hawdurdod lleol er mwyn manteisio ar y cynnig hwn o brydau ysgol am ddim.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

Bydd ehangu'r hawl am brydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau bob dydd. Mae estyn yr hawl i gael prydau ysgol am ddim i ragor o deuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol yn gam pwysig yn ein hymdrechion ehangach i fynd i’r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.

Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a chynllun peilot Cynnal sy'n cynnig taliadau ar gyfer teuluoedd incwm isel, unwaith y byddwn wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd derbyn y taliad yn arwain at unrhyw anfantais i'r teuluoedd sy'n ei gael. Mae hyn i gyd yn cael ei ategu drwy ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant newydd gyda thargedau clir ac atebolrwydd cadarn.