Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, â Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru a Chadeirydd Menywod mewn Rheilffyrdd, yn gynharach y mis hwn, i glywed am y gwaith sy'n cael ei wneud i recriwtio a chadw menywod yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru.
- Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y sector yn gyffredinol – dim ond 20% o weithlu Cymru a dim ond 6.7% o yrwyr a gweithredwyr
- Mae'r sefyllfa wedi gwella – yn enwedig o ran recriwtio gyrwyr trên a phrentisiaid newydd gan Trafnidiaeth Cymru
- Chloe, prentis peirianneg rheilffyrdd, oedd y fenyw gyntaf i fod yn brentis yn nepo Treganna Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Daw'r cyfarfod wrth i ffigyrau barhau i ddangos bod menywod yn cael eu tangynrychioli yn y sector.
Mae ymchwil Trafnidiaeth Cymru wedi canfod mai dim ond 20% o weithlu Trafnidiaeth a Chyfathrebu Cymru sy'n fenywod, gan ostwng i ddim ond 6.7% o yrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a pheiriannau symudol, gyda chynrychiolaeth arbennig o isel ymhlith gyrwyr, peirianwyr a staff cynnal a chadw cerbydau.
Er hynny mae arwyddion o gynnydd. Cynyddodd nifer y menywod sy'n gyrru trenau i Trafnidiaeth Cymru o 54 i 76 rhwng 2022 a 2023, gan godi cynrychiolaeth menywod ymhlith gyrwyr o 7.4% i 9.3%, ac mae cyfran y menywod ymhlith prentisiaid newydd Trafnidiaeth Cymru wedi codi o 14.3% i 42.9% dros yr un cyfnod.
Ymunodd Chloe Thomas â Thrafnidiaeth Cymru dros 11 mlynedd yn ôl, gan ddechrau ei gyrfa fel prentis cynnal a chadw.
Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig, datblygodd Chloe o fod yn dechnegydd cynnal a chadw i fod yn beiriannydd cymorth fflyd, ac mae bellach yn gweithio fel Peiriannydd Sicrwydd.
Drwy gydol ei gyrfa, mae Chloe wedi arwain a chefnogi amrywiaeth o brosiectau sydd wedi cael effaith sylweddol, gan gynnwys arwain treial system signalau newydd ar Reilffordd Calon Cymru.
Mae Chloe hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno trenau newydd ar draws y rhwydwaith, gan ddarparu cymorth peirianneg a sicrwydd.
Yn 2022, enwyd Chloe yn Beiriannydd Rheilffyrdd y Flwyddyn yng Ngwobrau Staff y Rheilffyrdd, gan ychwanegu at daith a ddechreuodd pan ddaeth yn fenyw gyntaf erioed i weithio fel prentis yn nepo Treganna Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Yn fwy diweddar, sefydlodd Chloe y rhwydwaith Menywod yn y Fflyd, menter sydd â’r nod o ddod â menywod o bob rhan o’r sector fflyd ynghyd.
Dywedodd Chloe:
“Dros yr 11 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o newid aruthrol yn Nhrafnidiaeth Cymru. Mae’r newid hwnnw wedi bod yn amlwg yn natblygiad fy ngyrfa fy hun ac yn niwylliant y busnes.
“Ers sefydlu’r grŵp Menywod yn y Fflyd y llynedd yn unig, mae’r grŵp wedi tyfu i gynnwys mwy na 30 o fenywod. Rydym eisoes wedi helpu i drawsnewid y cyfleusterau yn Nepo Treganna ac mae gwaith i wella’r cyfleusterau i fenywod yn nepo Machynlleth ar y gweill hefyd.
“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r tîm polisi i adolygu a gwella sawl polisi yn y gweithle. Mae’n wych gweld yr hyn rydym wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y grŵp yn parhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gydweithwyr ar draws y busnes.
Mae rhagor o fenywod yn cael swyddi uwch ar draws y sector. Yn ogystal â bod yn Brif Swyddog Gweithredu Trafnidiaeth Cymru, mae Marie Daly yn cadeirio Menywod mewn Rheilffyrdd, sy'n gweithio i wella amrywiaeth yn niwydiant rheilffyrdd y DU.
Dywedodd:
"Roedd yn wych cwrdd â'r Dirprwy Weinidog i ddangos y gwaith rydyn ni'n ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth menywod ar draws ein gweithlu.
"Er ein bod yn gweld cynnydd gwirioneddol, dim ond 20% o weithlu trafnidiaeth a chyfathrebu Cymru sy'n fenywod.
"Yn Trafnidiaeth Cymru a thrwy Fenywod mewn Rheilffyrdd, rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i chwalu rhwystrau, ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, denu talent amrywiol a sicrhau bod menywod yn gweld trafnidiaeth fel gyrfa werth chweil a hirdymor."
Ymhlith y menywod eraill sy'n dal swyddi uwch yn y sector mae Natalie Britton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a Sarah West, Rheolwr Gyfarwyddwr Stena Line UK & Ireland Ports, a ddaeth y fenyw gyntaf i reoli llong ryfel fawr yn y DU yn ystod ei gyrfa 20 mlynedd yn y Llynges Frenhinol.
Meddai Natalie Britton:
"Yr hyn rwy'n ei werthfawrogi fwyaf am weithio yn y Porthladd yw amrywiaeth a chwmpas y rôl. Mae pob dydd yn dod â chyfleoedd newydd i gydweithio â gwahanol gwsmeriaid a thimau, datrys heriau cymhleth a chyfrannu at brosiectau sy'n cefnogi llwyddiant parhaus y sefydliad.
"Rwy'n arbennig o falch o'r effaith gadarnhaol y mae'r Porthladd yn ei chael ar y gymuned leol, gan gefnogi swyddi, busnesau a chyfleoedd yn y dyfodol ledled yr ardal. Mae bod yn rhan o sefydliad sy'n chwarae rôl mor bwysig yn nhwf a ffyniant yr ardal yn werth chweil ac yn ysbrydoliaeth."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Mark Hooper:
"Rwy'n falch o glywed am y cynnydd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud wrth recriwtio a chadw menywod mewn swyddi sy'n draddodiadol yn swyddi dynion. Rwy'n awyddus i ddeall beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r cynnydd hwnnw.
"Wrth inni barhau i ddatblygu a gwella trafnidiaeth ledled Cymru, rhaid i gynhwysiant, cyfleoedd a newid diwylliant fod yn rhan annatod o'r datblygiad hwnnw, ddim yn rhywbeth rydyn ni'n meddwl amdano fe wedyn."
Helpodd Llywodraeth Cymru i sefydlu Canolfan Menywod mewn Trafnidiaeth Cymru yn 2022 i gefnogi menywod sydd eisoes yn gweithio yn y sector, denu rhagor o fenywod i'r diwydiant, ac adeiladu rhwydwaith ar gyfer rhannu arferion da a datblygiad proffesiynol.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio gydag undebau llafur i gael ragor o fenywod i fod yn gyrwyr trenau a pheirianwyr, gan gynnal digwyddiadau recriwtio wedi'u teilwra i fenywod, cynnig secondiadau gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a gweithredwyr eraill a chymryd camau i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol.
