Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru - Pam mae angen inni newid?
Fframwaith i wella gofal argyfwng a gofal ysbyty yng Nghymru, gan helpu pobl i gael triniaeth yn brydlon a gwella'n ddiogel gartref.
Ar y dudalen hon
Yr hyn a olygwn wrth ofal argyfwng ac acíwt
Mae gofal argyfwng ac acíwt yn cwmpasu'r gwasanaethau sy'n ymateb pan fydd plant, pobl ifanc ac oedolion yn profi salwch, anaf, dirywiad neu argyfwng iechyd sy'n gofyn am asesiad, diagnosis, triniaeth, monitro neu gymorth i adfer yn gyflym.
Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaethau ambiwlans argyfwng
- gwasanaethau nôl a chludo meddygol
- adrannau argyfwng
- gofal argyfwng ar yr un diwrnod
- meddygaeth acíwt
- gwasanaethau gofal acíwt a chritigol arbenigol
- gwasanaethau argyfwng iechyd meddwl
- gofal ysbyty i gleifion mewnol
- y trefniadau sy'n helpu i ryddhau cleifion o'r ysbyty yn ddiogel ynghyd ag adsefydlu a phontio tuag adref
Nid yw gofal argyfwng ac acíwt yn cael eu diffinio gan adeiladau na ffiniau sefydliadol yn unig.
Llwybr cysylltiedig ydyw, sy'n rhychwantu gwasanaethau cymunedol, ysbytai a chymorth i adfer, gyda llwyddiant yn dibynnu ar gydweithio effeithiol drwy'r system iechyd a gofal gyfan.
Er y gellir cefnogi llawer o bobl gartref neu'n nes at y cartref, mae ysbytai yn parhau i fod yn rhan sylfaenol o'r llwybr hwnnw, gan ddarparu asesiadau arbenigol, triniaeth a chamau monitro i bobl na ellir diwallu eu hanghenion yn ddiogel mewn man arall.
Gofal argyfwng
Gofal argyfwng yw'r ymateb i risg uniongyrchol neu risg lle mae amser yn dyngedfennol.
Caiff ei ddarparu i bobl y mae eu cyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl yn gofyn am asesiad, sefydlogi neu driniaeth gyflym i atal marwolaeth, niwed difrifol neu anabledd parhaol.
Mae'n cynnwys nodi, blaenoriaethu, asesu a thrin pobl â salwch difrifol, anaf neu ddirywiad, gan sicrhau mynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gan gynnwys gwasanaethau gofal argyfwng, acíwt a chritigol arbenigol lle bo angen.
Gofal acíwt
Gofal acíwt yw'r prosesau asesu, diagnosis, triniaeth, monitro a chymorth adfer a roddir i bobl na ellir rheoli eu salwch corfforol/salwch meddwl, eu hanaf neu eu dirywiad yn ddiogel drwy wasanaethau cymunedol arferol yn unig.
Gofal byrdymor yw gofal acíwt fel arfer, sy'n canolbwyntio ar driniaeth weithredol yn yr ysbyty, gwella iechyd a gweithrediad, cefnogi adferiad, a galluogi pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel cyn gynted ag y bo'n briodol yn glinigol.
Cwmpas
Mae'r Fframwaith hwn yn cwmpasu'r llwybr gofal argyfwng ac acíwt o'r adeg na ellir diwallu anghenion person yn ddiogel o fewn gwasanaethau cymunedol arferol mwyach, drwy ymateb mewn argyfwng, asesiad yn yr ysbyty, diagnosis, triniaeth a, lle bo angen, derbyn i'r ysbyty, i'r broses o bontio tuag adref yn ddiogel.
Mae'n cynnwys llwybrau argyfwng, acíwt, eiddilwch a diwedd oes, ynghyd â'r cyfnodau pontio sydd eu hangen i sicrhau mai dim ond cyhyd â bod angen clinigol y bydd pobl yn treulio amser oddi cartref.
Nid yw'n ceisio disodli strategaethau atal, gofal sylfaenol, gofal cymunedol, iechyd meddwl, gofal dewisol na gofal cymdeithasol ehangach, ond mae'n cyd-fynd â nhw lle maent yn cefnogi canlyniadau gofal argyfwng ac acíwt.
Pam mae angen newid
Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb staff GIG Cymru yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel o dan amgylchiadau eithriadol o heriol.
Fodd bynnag, mae gormod o bobl yn dal i wynebu amseroedd aros hir am asesiad, triniaeth, trosglwyddo neu ryddhau o'r ysbyty, sy'n effeithio ar eu canlyniadau, eu profiad, eu hurddas a'u diogelwch.
Mae'n bosibl y bydd pobl yn:
- aros yn hwy nag sy'n glinigol briodol mewn adrannau argyfwng
- cael eu trosglwyddo yn yr ysbyty lle gellid bod wedi osgoi hynny
- aros yn yr ysbyty pan fyddant yn barod i adael
- cael gofal mewn amgylcheddau nad ydynt yn cyrraedd y safonau y dylai cleifion a staff allu eu disgwyl
Mae'r galw cynyddol, poblogaeth sy'n heneiddio, cymhlethdod cynyddol o ran anghenion a phwysau ar y gweithlu yn golygu nad yw parhau â'r sefyllfa fel y mae yn opsiwn.
Yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei awgrymu
Nododd tystiolaeth a gasglwyd drwy waith ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adolygiad llenyddiaeth nad rhywbeth sy'n codi mewn gwasanaethau unigol yn unig yw llawer o'r heriau y mae gofal argyfwng ac acíwt yn eu hwynebu.
Mae'r Adolygiad o'r GIG mewn 10 mlynedd a mwy yn nodi'r galw cynyddol, poblogaeth sy'n heneiddio, lefelau uwch o eiddilwch a chyflyrau hirdymor lluosog, pwysau ar y gweithlu ac oedi cyn pontio rhwng gofal fel pwysau mawr ar systemau iechyd a gofal.
Yn hollbwysig, mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau ddod yn fwy integredig ac ataliol ac yn rhai sy'n canolbwyntio'n well ar yr unigolyn mewn ymateb i'r heriau hyn.
Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i ystyried gofal argyfwng ac acíwt fel llwybr cysylltiedig yn hytrach na chyfres o wasanaethau ar wahân.
Yng Nghymru, daeth Gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG – system dan bwysau cyson, a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru, i'r casgliad bod pwysau ar draws gwasanaethau ambiwlans, adrannau argyfwng, gofal ysbyty a llwybrau rhyddhau o'r ysbyty yn rhyng-gysylltiedig i raddau helaeth.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffordd y gall oedi a chyfyngiadau mewn un rhan o'r system arwain at oblygiadau drwy'r llwybr gofal brys ac argyfwng ehangach, gan atgyfnerthu'r angen am ddull system gyfan o gynllunio, darparu a gwella.
Mae'r pwysau hyn hefyd yn effeithio ar lesiant a diogelwch y gweithlu.
Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng wedi tynnu sylw at orlenwi a llwythi gwaith cynyddol fel ffactorau sy'n cyfrannu at ddiffygiad ymhlith staff adrannau argyfwng.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd wedi cysylltu amseroedd aros hir mewn adrannau argyfwng a gofal mewn coridor â risg uwch o drais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff.
Mae'r dystiolaeth o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol yn dangos yn fwyfwy bod llif cleifion drwy'r system ysbytai a gofal cymunedol acíwt ehangach yn ffactor pwysig sy'n dylanwadu ar berfformiad adrannau argyfwng a'r profiad o ofal a roddir drwy 'ddrysau ffrynt' ysbytai.
Mae oedi wrth asesu, derbyn, trosglwyddo, trin, rhyddhau o'r ysbyty neu adfer yn cyfyngu ar fynediad amserol at ofal ac yn dwysáu'r pwysau ar adrannau argyfwng a gall effeithio'n andwyol ar ganlyniadau cleifion.
Mae gofal argyfwng ac acíwt o ansawdd uchel yn achub bywydau, yn adfer iechyd, yn cadw annibyniaeth ac yn rhoi mynediad at asesiadau a thriniaethau arbenigol.
Cefnogir y safbwynt hwn ymhellach gan ddadansoddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, a ddaeth i’r casgliad bod gwelliant cynaliadwy yn gofyn am reoli llif cleifion drwy'r system gyfan, arweinyddiaeth weithredol gryf, gwell defnydd o ddata a chymorth mwy effeithiol i bobl sy’n gadael yr ysbyty.
Felly, mae gwella gofal argyfwng ac acíwt yn gofyn am ffocws nid yn unig ar fynediad, ond ar alluogi pobl i symud yn ddiogel ac yn effeithlon drwy bob cam o'u taith, o'r cyswllt cyntaf a'r ymateb mewn argyfwng, drwy asesiad a thriniaeth arbenigol, i adferiad a dychwelyd adref.
Ffeithiau allweddol
Roedd 1400 o bobl yn aros am fwy na 48 awr i adael yr ysbyty er eu bod yn barod yn glinigol i gael eu rhyddhau (2025 i 2026: Archwilio Cymru).
Yn 2025 i 2026, arweiniodd oedi y tu hwnt i 48 awr ar gyfer pontio tuag adref at golli 345,000 o ddiwrnodau gwely yng Nghymru (Archwilio Cymru).
Costiodd hyn tua £172 miliwn: gallai gostyngiad o 15% ryddhau £26 miliwn o adnoddau.
33%: anelu at wireddu'r targed ynglŷn â rhyddhau cleifion o'r ysbyty erbyn hanner dydd. 18%: perfformiad yng Nghymru ym mis Mawrth 2026.
2 awr 24 munud: perfformiad 'galwad i'r drws' cyfartalog dwy flynedd ar gyfer strôc yng Nghymru (ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru).
184,850: oriau ambiwlans a gollwyd a nodwyd yn 2025 i 2026 (ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru).
7 awr 13 munud: hyd cyfartalog yr amser a dreulir mewn adran argyfwng cyn derbyn neu ryddhau unigolyn ymhlith pobl dros 85 oed (Mawrth 2026).
Mae pob awr o oedi y gellid ei osgoi mewn gofal argyfwng yn cynyddu'r risg o niwed ac yn gwaethygu canlyniadau i gleifion. Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.
15%: canran y cleifion a dreuliodd 12 awr neu fwy mewn adran argyfwng o gyrraedd hyd at eu rhyddhau o'r ysbyty, eu derbyn i'r ysbyty neu eu trosglwyddo yn 2025 i 2026. Ffynhonnell: Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.
£500 i £600 y dydd: amcangyfrif o gost ddyddiol pob gwely ysbyty a lenwir gan rywun sy'n barod yn glinigol i adael ac nad yw ar gael i glaf arall y mae angen gofal argyfwng neu ofal a gynlluniwyd arno.
Y gwely ysbyty drutaf yw'r un sydd wedi'i lenwi pan nad oes angen gofal ysbyty ar glaf mwyach. Mae lleihau diwrnodau gwely y gellid eu hosgoi yn gwella canlyniadau cleifion, yn rhyddhau capasiti, ac yn gwneud gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus. Ffynhonnell: King's Fund.
62,346: nifer y bobl y nodwyd eu bod wedi cael eu derbyn fel argyfwng a oedd mewn ysbyty acíwt neu gymunedol o hyd dros 21 diwrnod ar ôl eu derbyn 2025 i 2026. Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Yr hyn sy'n bwysig i gleifion
Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod am i ofal argyfwng ac acíwt fod ar gael pan fydd ei angen arnynt, gydag amseroedd aros byrrach a mynediad amserol at y gofal cywir, yn y lle cywir.
Maent am i wasanaethau weithio gyda'i gilydd o’u cwmpas, yn enwedig pan fo eu hanghenion yn gymhleth, ac i fod yn rhan o benderfyniadau am eu gofal, gan gael gwybodaeth glir am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn sy’n dod nesaf.
Mae pobl hefyd am sicrhau mai dim ond cyhyd ag sydd ei angen iddynt fod yn yr ysbyty y byddant yn ei dreulio yno, gyda'r cymorth cywir i wella'n ddiogel gartref, a mynediad teg at ofal o ansawdd uchel, ni waeth pwy ydynt na ble maent yn byw.
Yr un mor bwysig, mae pobl am gael cyngor, gofal sylfaenol a chymunedol a chymorth amserol i reoli eu hiechyd fel y gallant, lle bynnag y bo'n bosibl, gadw'n iach ac aros yn annibynnol ac osgoi sefyllfa lle mae angen gofal argyfwng neu ofal yn yr ysbyty arnynt.
Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Gofal mewn Argyfwng ac Acíwt Beaufort 2026 ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn ei adolygiad cenedlaethol o brofiadau gofal argyfwng, a glywodd yn uniongyrchol gan fwy na 700 o bobl ledled Cymru, nododd Llais bryderon yn ymwneud ag amseroedd aros hir mewn ambiwlansys, amseroedd aros hir mewn adrannau argyfwng, cyfathrebu, cysur, urddas, cydgysylltu gofal a threfniadau rhyddhau o'r ysbyty.
Nododd Llais fod pobl am i ofal argyfwng ac acíwt deimlo'n ddiogel, yn ddigyffro, yn urddasol ac yn gydgysylltiedig, lle mae gofal wedi'i deilwra at anghenion unigol a lle ceir cyfathrebu rheolaidd ar hyd eu taith.
Pwysleisiodd pobl hefyd bwysigrwydd gwasanaethau cydgysylltiedig, gwell pontio rhwng sefydliadau, gwell trefniadau rhyddhau o'r ysbyty ac y dylid lleihau'r angen i ddarparu'r un wybodaeth dro ar ôl tro.
Mae arolwg barn a gynhaliwyd ar ran y Sefydliad Iechyd ar ganfyddiadau am iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cefnogi ein ffocws ar ofal argyfwng ac acíwt.
Canfu mai Cymru oedd yr unig wlad yn arolwg y DU lle yr ystyriwyd mai amseroedd ymateb ambiwlansys oedd y flaenoriaeth uchaf gyffredinol.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hyn, mynegodd pobl eu gwerthfawrogiad yn gyson am yr ymroddiad, y proffesiynoldeb a'r tosturi a ddangoswyd gan staff y GIG sy'n gweithio mewn amgylchiadau anodd.
Yr hyn y mae staff rheng flaen wedi'i ddweud wrthym
Mae adborth gan staff rheng flaen yn atgyfnerthu bod llawer o'r pwysau a brofir mewn adrannau argyfwng, gwasanaethau ambiwlans ac ysbytai acíwt yn symptomau sy'n gysylltiedig â phwysau ar y system ehangach.
Mae oedi wrth asesu, trin, trosglwyddo a rhyddhau cleifion yn cyfyngu ar lif cleifion, yn cyfrannu at orlenwi a gofal mewn coridor, ac yn effeithio'n andwyol ar brofiadau a chanlyniadau cleifion a staff.
Nododd staff yn gyson bum blaenoriaeth ar gyfer gwella:
- gwell llif drwy ysbytai, wedi’i ategu gan ryddhau cleifion yn gynharach a gwaith i gynllunio prosesau adfer
- mwy o fynediad at ofal yn nes at y cartref a chymorth i adfer yn y gymuned
- gweithlu cynaliadwy a gefnogir sy'n gallu rhoi gofal diogel
- gwasanaethau, llwybrau a phrosesau rhannu gwybodaeth mwy integredig
- gwell diogelwch, urddas a gofal wedi'i bersonoli, yn enwedig i bobl sy'n byw gydag eiddilwch, dementia, anghenion iechyd meddwl ac anghenion eraill sy'n eu gwneud yn agored i niwed
Mae'r blaenoriaethau hyn wedi cael dylanwad uniongyrchol ar y canlyniadau, y conglfeini a'r galluogwyr cyflawni a nodir yn y Fframwaith hwn.
Yr hyn y mae rhanddeiliaid eraill wedi'i ddweud wrthym
Nododd adborth gan fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, cyrff proffesiynol, partneriaid yn y trydydd sector a chyrff gwella cenedlaethol gonsensws cadarn y dylid deall gofal argyfwng ac acíwt fel un llwybr yn hytrach na chasgliad o wasanaethau ar wahân.
Dywedodd rhanddeiliaid yn gyson fod achosion o oedi, gorlenwi a gofal mewn coridor yn symptomau gweladwy o bwysau ehangach sy'n effeithio ar atal, llif ysbytai, rhyddhau o'r ysbyty, adfer a chymorth cymunedol.
Pwysleisiodd rhanddeiliaid hefyd bwysigrwydd gwella prosesau cyfathrebu, cydgysylltu a rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau sefydliadol.
Disgrifiodd llawer yr angen i ofal deimlo'n fwy cydgysylltiedig, gyda llai o asesiadau ailadroddus, pontio mwy didrafferth rhwng gwasanaethau a defnydd gwell o wybodaeth a rennir i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a pharhad gofal.
Roedd cefnogaeth eang i fwy o ffocws ar ganlyniadau, diogelwch, urddas, annibyniaeth ac adfer, ochr yn ochr â mynediad amserol at ofal.
Tynnodd rhanddeiliaid sylw yn gyson at bwysigrwydd blaenoriaethau clir, cerrig milltir gweladwy, atebolrwydd cryfach a phrosesau i ledaenu arferion profedig mewn ffordd fwy cyson ledled Cymru.
Mae'r themâu hyn wedi cael dylanwad uniongyrchol ar ffocws y Fframwaith ar lif system gyfan, canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, llwybrau integredig a chyflawni drwy gerrig milltir mesuradwy.
