Gofal Argyfwng ac Acíwt Cymru - Taith cleifion
Fframwaith i wella gofal argyfwng a gofal ysbyty yng Nghymru, gan helpu pobl i gael triniaeth yn brydlon a gwella'n ddiogel gartref.
Ar y dudalen hon
Taith cleifion
Mae'r 3 taith enghreifftiol ganlynol yn dangos yr hyn y dylai pobl allu ei ddisgwyl erbyn 2034, o'u cyswllt cyntaf â gwasanaethau, drwy'r cam asesu a thrin, i adferiad a chymorth parhaus gartref neu'n nes at y cartref.
Mae pob taith yn dangos sut y dylai gwasanaethau weithio gyda'i gilydd o amgylch y person i gynnig yr ymateb cywir ar yr adeg gywir, osgoi oedi diangen a chefnogi'r adferiad gorau posibl.
Taith 1: Imran, 49, yn cael strôc
Beth sy'n bwysig iddo
- dychwelyd adref at ei deulu
- adennill ei annibyniaeth a mynd yn ôl i'r gwaith
- hyder y bydd salwch difrifol yn cael ei gydnabod a'i drin yn gyflym
Cefndir
Mae Imran yn 49 oed ac yn byw yn Abertawe gyda'i wraig a'i 2 o blant.
Mae'n gweithio fel peiriannydd trydanol ac mae'n heini ac egnïol ar y cyfan, ond nid yw ei bwysedd gwaed uchel wedi cael ei fonitro'n agos bob amser.
Beth sy'n digwydd heddiw
Un noson, mae Imran yn deffro gyda gwendid yn ei fraich dde ond mae'n tybio ei fod wedi cysgu'n lletchwith.
Mae'r gwendid yn parhau y bore wedyn ac mae ochr dde ei wyneb yn teimlo'n anarferol. Mae Imran a'i wraig yn pryderu ond dydyn nhw ddim yn adnabod arwyddion strôc.
Ar ôl cael gwybod y gallai ambiwlans gymryd sawl awr, mae ei wraig yn mynd ag ef mewn car i'r adran argyfwng.
Tra bod Imran yn aros, mae ei wyneb yn dechrau disgyn ac mae'n cael trafferth siarad a symud un ochr i'w gorff.
Ar ôl sawl asesiad, mae delweddu'r ymennydd yn cadarnhau strôc ac mae triniaeth yn dechrau, ond mae amser gwerthfawr wedi'i golli.
Mae Imran yn treulio mwy na thair wythnos yn yr ysbyty.
Mae'r adsefydlu yn dechrau yn ystod ei gyfnod derbyn, ond mae'r cyfathrebu a'r cynllunio yn dameidiog ac mae ei deulu yn dal yn ansicr am ei adferiad a'r cymorth sydd ar gael ar ôl iddo gael dod o'r ysbyty.
Deuddeg mis yn ddiweddarach, nid yw Imran wedi dychwelyd i'r gwaith ac mae'r teulu'n cael trafferth gydag effeithiau ei strôc - o ran gofalu, ac yn ariannol ac emosiynol.
Maen nhw'n teimlo heb gefnogaeth ac yn ansicr ble i droi am help.
Yr heriau presennol
- collwyd cyfleoedd i adnabod a rheoli risg strôc Imran
- ni chafodd symptomau strôc eu hadnabod yn ddigon cyflym, ac fe wnaeth hunangludiant i'r ysbyty ohirio'r asesiad cyn-ysbyty
- fe wnaeth asesu a throsglwyddo dro ar ôl tro achosi oedi cyn triniaeth arbenigol
- nid oedd adsefydlu, cefnogaeth i deuluoedd ac adferiad tymor hwy wedi'u cydgysylltu'n dda
Beth ddylai Imran ei ddisgwyl erbyn 2034
Mae Imran a'i wraig yn adnabod symptomau strôc ar unwaith ac yn ffonio 999.
Mae'r alwad frys yn cael ei chefnogi gan arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi i adnabod strôc. Mae'r broses argyfwng strôc wedi dechrau cyn i'r ambiwlans gyrraedd hyd yn oed.
Gan ddefnyddio galwad fideo, mae parafeddygon yn cysylltu'n uniongyrchol ag arbenigwyr strôc i wneud asesiad.
Mae uned strôc yr ysbyty yn cael rhybudd bod Imran ar ei ffordd.
Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, mae Imran yn cael mynd i'r uned strôc yn syth.
Mae sganiau brys ac adolygiadau eraill yn digwydd ar unwaith. Mae'r driniaeth yn dechrau heb oedi diangen ac mae staff yn dechrau cynllunio ar gyfer adferiad Imran.
Mae Imran a'i deulu yn cael llawer o wybodaeth i'w helpu i ddeall beth sy'n digwydd, pa driniaeth sy'n cael ei rhoi a beth sy'n debygol o ddigwydd yn ystod y broses adfer.
Mae Imran yn cael ei gefnogi gan dimau iechyd a gofal, elusennau, grwpiau cymunedol a chymorth gan gymheiriaid ac mae'n teimlo bod help a chefnogaeth ar gael iddo drwy gydol ei adferiad.
Mae gwraig Imran a'r teulu ehangach yn cael cyngor a chefnogaeth ar wahân i ddeall eu rolau newydd yn gofalu am rywun sy'n gwella o strôc.
Yn dilyn cyfnod byr fel claf mewnol, caiff camau adsefydlu a chamau dilynol Imran eu cydgysylltu drwy wasanaethau cymunedol a chymorth digidol.
Ar ôl chwe mis, mae Imran yn dychwelyd i'r gwaith gan weithio oriau llai i ddechrau, ac mae ef a'i deulu'n teimlo'n obeithiol am y dyfodol.
Sut beth yw llwyddiant
- atal a rheoli'r risg o strôc yn well
- adnabod symptomau'n gyflymach, asesu arbenigol a thriniaeth
- gwell goroesi ac adferiad, gyda llai o anabledd y gellir ei osgoi
- adsefydlu cydgysylltiedig a chymorth i deuluoedd, gan alluogi mwy o bobl i wella gartref a dychwelyd i'r gwaith
Taith 2: Mair, 84, sy'n byw gydag eiddilwch a nifer o gyflyrau hirdymor
Beth sy'n bwysig iddi
- aros yn annibynnol
- byw'n ddiogel yn ei chartref ei hun
- cyfathrebu yn Gymraeg pan mae hi'n sâl
- osgoi amser diangen yn yr ysbyty
- cadw mewn cysylltiad â'i merch a'i chymuned leol
Cefndir
Mae Mair yn byw ar ei phen ei hun yng nghefn gwlad Gwynedd a'r Gymraeg yw ei hiaith gyntaf.
Mae hi'n byw gydag eiddilwch, COPD, methiant y galon, osteoarthritis ac amhariad gwybyddol ysgafn.
Mae ei merch yn byw gerllaw ac yn helpu gyda siopa, meddyginiaethau ac apwyntiadau.
Beth sy'n digwydd heddiw
Ar ôl sawl diwrnod o ddiffyg anadl, peswch a dryswch, mae Mair yn mynd yn sâl iawn. Mae ei merch yn ffonio 999.
Oherwydd bod y galw'n uchel, mae hi'n aros sawl awr am ymateb ambiwlans.
Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, mae oedi cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac mae Mair yn aros rhagor cyn cyrraedd man clinigol priodol.
Yn y pen draw, mae hi'n cael diagnosis o sepsis sy'n eilaidd i niwmonia.
Dros yr ychydig ddyddiau cyntaf mae hi'n symud rhwng sawl amgylchedd gofal.
Mae'r broses o asesu symudedd, gwybyddiaeth, amgylchiadau cymdeithasol ac anghenion rhyddhau Mair yn digwydd ar wahanol adegau a gan wahanol dimau.
Er bod yr haint yn gwella, mae'r arhosiad yn yr ysbyty yn effeithio ar ei symudedd a'i hyder.
Mae'r broses gynllunio i ryddhau yn dechrau'n hwyr ac mae oedi yn digwydd tra bod trefniadau cymorth yn cael eu cydgysylltu.
Mae Mair yn gadael yr ysbyty wedi'i gwella'n glinigol o'i haint ond yn llai annibynnol nag yr oedd hi gynt.
Yr heriau presennol
- oedi cyn i'r driniaeth ddechrau
- asesiad tameidiog
- trosglwyddo dro ar ôl tro
- risg o ddadgyflyru a deliriwm
- oedi wrth gynllunio rhyddhau
- colli annibyniaeth
Beth ddylai Mair ei ddisgwyl erbyn 2034
Mae merch Mair yn gofyn am help cyn gynted ag y bydd ei chyflwr yn gwaethygu.
Mae clinigwyr yn gallu cael mynediad at gofnod a rennir Mair, gan gynnwys ei hasesiad eiddilwch, meddyginiaethau, dewisiadau gofal, anghenion iaith a derbyniadau blaenorol.
Mae Mair yn cael asesiad clinigol brys, gan gynnwys ystyried a allai gofal cymunedol gwell ddiwallu ei hanghenion yn ddiogel gartref.
Mae hi'n dangos arwyddion o salwch difrifol ac mae angen ei throsglwyddo ar frys ar gyfer asesiad a thriniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r timau acíwt ac eiddilwch sy'n derbyn cleifion yn cael rhybudd cyn iddi gyrraedd.
Mae'r asesiad yn ystyried yr haint a amheuir, ochr yn ochr ag eiddilwch, gwybyddiaeth, symudedd, annibyniaeth a rhwydwaith cymorth Mair.
Mae diagnosteg a thriniaeth yn dechrau heb oedi diangen, gyda chefnogaeth Asesiad Geriatreg Cynhwysfawr cynnar sy'n ei dilyn trwy gydol y llwybr.
Mae'r staff yn gwybod mai'r Gymraeg yw dewis iaith Mair, gan ei galluogi hi a'i merch i ddeall y cynllun a chymryd rhan mewn penderfyniadau.
Mae ei merch yn cael ei chydnabod fel partner yn ei gofal a'i hadferiad.
Mae cynnal symudedd, hyder ac annibyniaeth yn cael ei drin fel rhan hanfodol o'i gofal, ac mae cynllunio ar gyfer adferiad a phontio tuag adref yn dechrau yn syth ar ôl ei derbyn.
Pan na fydd angen triniaeth ysbyty acíwt mwyach, mae Mair yn dychwelyd adref gyda phroses gydgysylltiedig o drefnu meddyginiaethau, adsefydlu a dilyniant cymunedol, a threfniadau clir ar gyfer cymorth pellach os bydd ei chyflwr yn gwaethygu.
Sut beth yw llwyddiant
- adnabod a thrin sepsis a amheuir yn gynnar, a derbyn claf i'r ysbyty dim ond pan fo angen clinigol
- Asesiad Geriatreg Cynhwysfawr Cynnar a gofal cydgysylltiedig drwy gydol y llwybr
- llai o ddeliriwm, dadgyflyru, symud y gellir ei osgoi a cholli annibyniaeth
- adferiad cynharach yn y cartref, gyda gofal sy'n adlewyrchu iaith, dewisiadau ac anghenion unigol Mair
Taith 3: Ffion, 16, yn profi cetoasidosis diabetig
Beth sy'n bwysig iddi
- teimlo'n ddiogel a deall beth sy'n digwydd
- bod yn rhan o benderfyniadau am ei gofal
- dychwelyd at addysg, ffrindiau a bywyd normal
- cael cefnogaeth sy'n cydnabod ei hannibyniaeth gynyddol heb eithrio ei theulu
Cefndir
Mae Ffion yn 16 oed ac mae ganddi ddiabetes math 1.
Mae hi'n symud o wasanaethau diabetes pediatrig i wasanaethau oedolion ac yn dod yn fwy annibynnol wrth reoli ei chyflwr, gyda chefnogaeth ei rhieni.
Yn dilyn salwch feirol, mae Ffion yn dioddef syched, chwydu a blinder cynyddol.
Dros nos, mae hi'n mynd yn ddryslyd ac yn anodd ei deffro.
Beth sy'n digwydd heddiw
Mae rhieni Ffion yn sylweddoli ei bod hi'n ddifrifol wael ac yn ffonio 999.
Yn yr adran argyfwng, mae hi'n cael diagnosis o cetoasidosis diabetig dwys sy'n effeithio ar ei lefel ymwybyddiaeth.
Mae triniaeth frys ac adfywio yn dechrau, a gofynnir am gymorth gofal critigol oedolion.
Mae timau argyfwng, meddygaeth gyffredinol, diabetes a gofal critigol yn adolygu Ffion ar wahanol adegau.
Mae oedi a throsglwyddiadau lluosog yn golygu ei bod hi'n aros yn hirach yn yr adran argyfwng cyn ei throsglwyddo i ofal critigol.
Wrth i Ffion wella, mae oedi hefyd cyn ei throsglwyddo i ward feddygol.
Mae adsefydlu, addysg diabetes a chynllunio rhyddhau yn dechrau yn hwyrach nag y dylent, gan ymestyn ei gofal critigol a'i harhosiad yn yr ysbyty.
Nid yw gwybodaeth o gynllun gofal a phontio diabetes pediatrig Ffion ar gael yn rhwydd i bob tîm.
Mae Ffion a'i rhieni yn esbonio ei hanes dro ar ôl tro ac yn parhau i fod yn ansicr ynghylch pwy sy'n cydgysylltu ei gofal a beth fydd yn digwydd nesaf.
Yr heriau presennol
- roedd oedi yng nghyfraniad y timau diabetes oedolion, gofal meddygol a gofal critigol ac roedd wedi’i gydgysylltu’n wael
- trosglwyddiadau lluosog ac oedi rhwng lleoliadau argyfwng, gofal critigol a wardiau
- mae cynllunio adferiad, addysg a rhyddhau yn dechrau'n rhy hwyr
- dilyniant gwael o ran gwybodaeth yn ystod pontio o ofal diabetes pediatrig i oedolion
- ansicrwydd i Ffion a'i theulu ynglŷn â'r cyfrifoldeb a'r camau nesaf
Beth ddylai Ffion ei ddisgwyl erbyn 2034
Sylweddolir ar unwaith pa mor ddifrifol yw salwch Ffion.
Mae triniaeth argyfwng yn dechrau heb oedi ac mae'r timau diabetes oedolion, meddygol a gofal critigol yn gweithio ar sail un cynllun y cytunwyd arno.
Mae hi'n cael ei throsglwyddo'n brydlon i ofal critigol ar gyfer y monitro a'r driniaeth sydd eu hangen oherwydd ei lefel ymwybyddiaeth isel a'i salwch difrifol.
Mae ei chofnod clinigol a rennir yn cynnwys gwybodaeth berthnasol o wasanaethau diabetes pediatrig a'i chynllun pontio.
Gall timau oedolion weld ei chynllun rheoli diabetes arferol, ei gofal blaenorol a'r anghenion cymorth y cytunwyd arnynt, heb ofyn i Ffion na'i theulu ailadrodd yr un wybodaeth.
Mae Ffion yn cael ei thrin fel person ifanc sy'n mynd i ofal oedolion.
Mae’n cael bod yn rhan o benderfyniadau cyn gynted ag y mae hi'n abl i wneud hynny, tra bod ei rhieni yn parhau i gael eu hysbysu a'u cynnwys yn unol â'i dymuniadau.
Mae ei chyflwr corfforol, ei llesiant emosiynol, ei haddysg a'i hamgylchiadau teuluol yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.
Mae nyrsys diabetes arbenigol, dietetegwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn cyfrannu'n gynnar.
Mae cynllunio adferiad, addysg a rhyddhau yn dechrau pan mae'n cael ei derbyn, yn hytrach nag ar ôl cwblhau triniaeth gofal critigol.
Wrth i Ffion wella, mae'r cyfrifoldeb yn trosglwyddo'n esmwyth o ofal critigol i ofal ward arbenigol ac yna i ddilyniant cymunedol.
Cyn cael ei rhyddhau, mae Ffion a'i rhieni yn deall beth gyfrannodd at y DKA, sut i adnabod dirywiad, sut i reoli salwch yn ddiogel a ble i ofyn am gymorth brys.
Mae gofal parhaus yn cael ei gydgysylltu drwy wasanaethau diabetes oedolion, gyda chymorth pontio parhaus o wasanaethau pediatrig lle bo angen.
Sut beth yw llwyddiant
- adnabod salwch ar unwaith a thriniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- trosglwyddo amserol i mewn ac allan o ofal critigol oedolion, heb oedi y gellir ei osgoi
- cydgysylltu gofal argyfwng, critigol, meddygol ac arbenigol ar gyfer diabetes
- dechrau cynllunio adferiad, addysg a rhyddhau yn syth ar ôl derbyn y claf
- gwybodaeth glinigol a chynlluniau gofal sy'n trosglwyddo'n esmwyth o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion
- adferiad diogel, arhosiad byrrach yn yr ysbyty a dychwelyd i addysg a bywyd arferol
