Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Mae gofal cymdeithasol yn cefnogi miloedd o bobl, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru bob dydd. Mae comisiynu effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n gynaliadwy, o safon uchel ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl. Felly, mae cryfhau comisiynu yn rhan bwysig o'n gwaith ehangach i gryfhau gofal cymdeithasol a symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.
Wrth i'r galw am ofal barhau i gynyddu, mae angen newid parhaol arnom sy'n cryfhau gwasanaethau, yn cefnogi'r gweithlu ac yn gwella gofal i bobl. Drwy'r newid parhaol hwn gall pobl ddisgwyl yr un safonau uchel o ran gofal a cymorth gan system iechyd a gofal sy'n cofleidio unigolion a'u gofalwyr di-dâl, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru.
Mae'r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni hynny yn ystod tymor y Senedd hon.
Yn gam cyntaf i gyflawni'r rhaglen hon, rwy'n lansio heddiw ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth: Cod Ymarfer. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 9 Tachwedd 2026 a 1 Chwefror 2027.
Daeth y Cod i rym ym mis Medi 2024, ac mae'n nodi'r egwyddorion a'r safonau sy'n sail i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru. Mae'n hyrwyddo dull cyson a thryloyw sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac mae llesiant a'r hyn sy'n bwysig i bobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys oedolion, plant a gofalwyr di-dâl, yn rhan greiddiol ohono.
Ers i'r Cod gael ei gyflwyno, mae'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth wedi gwrando ar gomisiynwyr, darparwyr, sefydliadau cynrychioladol, rheoleiddwyr, undebau llafur, pobl â phrofiad bywyd, gofalwyr di-dâl a gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae eu hadborth, ynghyd â datblygiadau polisi a deddfwriaethol ehangach, yn sail i'r diwygiadau arfaethedig.
Mae'r diwygiadau arfaethedig yn adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd wrth weithredu'r Cod ac yn ceisio sicrhau ei fod yn dal i gefnogi gwaith comisiynu o safon uchel yng nghyd-destun polisïau a gwasanaethau sy'n esblygu.
Bwriedir i'r diwygiadau gryfhau arferion comisiynu ledled Cymru, cefnogi mwy o gysondeb ac atebolrwydd, gwella integreiddio a chydweithredu rhwng y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, a sicrhau bod penderfyniadau comisiynu yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth, profiad bywyd a ffocws ar ganlyniadau. Mae'r diwygiadau hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i waith teg, cydraddoldeb, hawliau dynol, y Gymraeg a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Y nod yn y pen draw yw cefnogi canlyniadau gwell i bobl, teuluoedd a chymunedau drwy waith comisiynu mwy cyson, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y diwygiadau arfaethedig, ac ar y ffordd y byddant yn effeithio ar bobl a’r sefydliadau comisiynu eu hunain, yn ymarferol ac yn ariannol. Bydd ymatebion yn helpu i lywio'r fersiwn derfynol o'r Cod, yr asesiadau effaith cysylltiedig a'n cynlluniau parhaus ar gyfer buddsoddi mewn capasiti a gallu comisiynu. Bydd ymatebion hefyd yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ar gyfer penderfyniadau cyllido a gwariant, er mwyn sicrhau gofal cymdeithasol tecach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad ar y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth a'r dogfennau ategol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn Gymraeg a Saesneg. Mae fersiynau hygyrch a fformatau eraill ar gael hefyd.
Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn gwasanaethau gofal a chymorth i ymateb. Rwy'n gwrando, ac rwyf am i'r Cod diwygiedig adlewyrchu profiad a thystiolaeth y rhai sy'n comisiynu ac yn darparu gofal a chymorth ledled Cymru, a'r rhai sy'n dibynnu ar y gofal a'r cymorth hwnnw. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 1 Chwefror 2027.
Diolch
