Cyfarfod y Cabinet: 21 Medi 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 21 Medi 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llyr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
- Cefin Campbell AS
- Nerys Evans AS
- Mark Hooper AS
- Delyth Jewell AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jo Salway, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Cabinet
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Busnes y Cabinet a’r Senedd
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Lewis Owen, Cynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Nia Lewis, Swyddfa’r Cabinet
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- James Oxenham, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol (eitem 3)
Eitem 1: Eitemau’r Prif Weinidog
Y Rhaglen Lywodraethu
1.1 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Gweinidogion y byddai’r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei chyhoeddi y diwrnod canlynol, yn dilyn trafodaethau’r Cabinet a gynhaliwyd yr wythnos flaenorol. Nododd y byddai’n gwneud datganiad llafar i’r Senedd y prynhawn hwnnw.
1.2 Yn rhan o’r trefniadau cyfathrebu ynghylch cyhoeddi’r Rhaglen Lywodraethu, nodwyd bod y Prif Weinidog wedi ymweld ag ysgol yn Aberdâr yn gynharach y diwrnod hwnnw. Yn ogystal, nodwyd y byddai’r Prif Weinidog, ynghyd â’r Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, yn ymweld ag Abertawe ddydd Mercher i lansio’r rhaglen gwersi nofio am ddim i blant yng Nghymru.
Ymweliad y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth ag Iwerddon
1.3 Nododd y Cabinet fod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi ymweld ag Iwerddon yn gynharach y mis hwnnw ac wedi cyfarfod â’r Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd â Phorthladd Ewro Rosslare, Porthladd Dulyn, Irish Ferries, Dixon International Logistics, a Swyddfa Datblygu Morol Iwerddon. Yn ystod yr ymweliad, atgyfnerthodd y Dirprwy Weinidog yr ymrwymiad a rennir i gryfhau cysylltedd a gwydnwch ar draws Môr Iwerddon.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Nododd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn ar gyfer yr wythnos honno.
Eitem 3: Cryfhau’r Gyfundrefn Ddiogelu ar gyfer Cymru Fwy Diogel
3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod y papur a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno i sefydlu Cryfhau’r Gyfundrefn Ddiogelu ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn rhaglen trosfwaol y Llywodraeth ar gyfer diwygio diogelu.
3.2 Roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i gryfhau’r gyfundrefn ddiogelu ledled Cymru er mwyn sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sy’n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn siapio’r gwasanaethau y maent wedi’u cynllunio i’w hamddiffyn.
3.3 Byddai’r rhaglen arfaethedig yn dwyn ynghyd ymrwymiadau diogelu o dan un fframwaith cydlynol a byddai’n brif gyfrwng cyflawni wrth hefyd ddarparu naratif strategol clir ar gyfer diwygio diogelu yng Nghymru.
3.4 Byddai’r gwaith yn cael ei wreiddio yng nghanfyddiadau’r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu a arweiniwyd gan yr ymgynghorydd annibynnol ar ddiogelu, Jan Pickles. Er bod yr adolygiad wedi nodi bod gan Gymru sylfeini deddfwriaethol cryf a threfniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol, daeth i’r casgliad bod trefniadau llywodraethiant diogelu wedi dod yn dameidiog, gyda goruchwyliaeth genedlaethol gyfyngedig, trefniadau anghyson o ran trin gwybodaeth a’r angen am atebolrwydd cliriach.
3.5 Roedd y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion Cam 1 yr adolygiad, a’r rhaglen fyddai’r ymateb swyddogol.
3.6 Datblygwyd y rhaglen o amgylch pedair thema: arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryfach; gweithdrefnau diogelu clir a chyson ledled Cymru; system a oedd yn dysgu ac yn gwella; a hynny wrth wrando ar blant ac oedolion a gweithredu’n gynt.
3.7 Gellid rhoi rhai newidiadau ar waith ar unwaith, lle y byddai angen ar elfennau eraill waith datblygu polisi a gwaith ymgynghori pellach.
3.8 Yn bwysig, roedd y gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiadau i sicrhau y caiff lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sy’n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr eu clywed ac y gweithredir arnynt.
3.9 Byddai cyflwyno’r rhaglen yn digwydd fesul cam drwy gydol tymor y Senedd bresennol. Roedd hyn yn cynnwys creu’r sylfeini ar gyfer ystyried yn y dyfodol brosesau gorfodol o ran adrodd am gam-drin, a chynigion yn ymwneud ag Awdurdod Diogelu Oedolion a Phlant Cymru. Roedd trefniadau diogelu cenedlaethol cryfach, gan gynnwys Awdurdod Amddiffyn Plant, wedi’u cynnwys yn argymhellion gwaith y Farwnes Casey yn dilyn yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
3.10 Yn y pen draw, byddai’r diwygiadau hyn yn hybu system ddiogelu fwy cydweithredol, tryloyw ac ymatebol, gan ddarparu gwell amddiffyniad, cymorth a chanlyniadau i blant ac oedolion sy’n wynebu risg ledled Cymru.
3.11 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur a nodwyd y byddai’r Dirprwy Weinidog yn gwneud datganiad llafar ynghylch y cynigion ar 6 Hydref.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2026
