Mae Llyr Gruffydd, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, yn mynd i Gynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP31, yn Türkiye yr wythnos hon i ddysgu o ymdrechion i atal tanau gwyllt yn rhyngwladol.
- Gweinidog y Cabinet yn teithio i COP31 yn Türkiye
- Mae'r gweithgareddau'n cynnwys ymweliad â Chanolfan Hyfforddi Coedwig Ryngwladol, gan ddod ag arbenigwyr o'r Cenhedloedd Unedig a Türkiye ynghyd
- Bydd gwersi yn llywio cynlluniau Cymru i atal tanau gwyllt y flwyddyn nesaf
Yno, bydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad gwydnwch tanau gwyllt a drefnir gan y Gyngrhair Dan2, rhwydwaith fyd-eang o lywodraethau y mae Cymru yn aelod sefydlu ohoni, ochr yn ochr â Llywodraeth Turkiye, a Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig.
Bydd y digwyddiad yn arddangos dulliau o atal tanau gwyllt, parodrwydd, ymateb ac adfer, gan rannu strategaethau ac arferion gorau o bob cwr o'r byd.
Mae'r ymweliad yn dilyn haf o wres, sychder, a thanau dinistriol a effeithiodd ar gymunedau ledled Cymru.
Fis diwethaf, daeth y Prif Weinidog â'r gwasanaethau tân, yr heddlu, llywodraeth leol, ffermwyr ac arbenigwyr hinsawdd ynghyd mewn uwchgynhadledd i gynllunio ar gyfer tymhorau tanau gwyllt yn y dyfodol, gyda phwyslais ar atal.
Cytunodd yr uwchgynhadledd ar gamau gan gynnwys dod ag arbenigedd rhyngwladol i hyfforddi gwasanaethau tân ac achub Cymru, adolygiad o sut y gall rheoli tir leihau'r risg o danau gwyllt, a bwrdd tanau gwyllt cenedlaethol cryfach.
Daw'r ymweliad hefyd wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'i hymrwymiad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur traws-lywodraethol, a fydd yn dwyn ynghyd gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac i amddiffyn cymunedau, cefnogi economïau gwledig ac arfordirol a pharatoi Cymru ar gyfer effeithiau hinsawdd sy'n newid.
Fel rhan o ymgysylltiad Cymru yn COP31, bydd y Gweinidog hefyd:
- yn clywed gan bartneriaid yn Gauteng a KwaZulu-Natal yn Ne Affrica am lifogydd, sychder, tanau gwyllt a gwres eithafol
- siarad mewn digwyddiadau ar wastraff bwyd a'n heconomi gylchol
- trafod sut y gall llywodraethau rhanbarthol gyflymu trydaneiddio glân
- trafod buddsoddiad ar gyfer prosiectau hinsawdd a natur
Dywedodd y Gweinidog Cabinet:
"Mae'r tanau gwyllt a brofwyd gennym yr haf hwn ledled Cymru yn rhybudd, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod. Rwy'n teithio i Turkiye i rannu profiadau Cymru, dysgu gan wledydd sy'n wynebu'r heriau hyn bob blwyddyn, a dod â mewnwelediadau gwerthfawr yn ôl i helpu i gryfhau ein dull gartref.
"Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ac mae angen i ni gryfhau ein gwydnwch wrth gymryd camau i amddiffyn ac adfer natur.
"Mae ein hymrwymiad i Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur newydd yn cydnabod bod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb a rennir ar draws y llywodraeth."
"Byddwn yn adeiladu'r Cynllun gyda'n cymunedau a'n partneriaid, fel y gallwn lunio dyfodol sy'n gweithio i bobl a'r blaned."
