Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o 31 argymhelliad adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o 31 argymhelliad adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
- Fe wnaeth yr adroddiad, Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg, edrych ar y Gymraeg mewn ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg.
- Bydd yr ymateb hwn, ynghyd â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, yn helpu i lunio strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i argymhellion adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan roi pwyslais ar greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn bywyd bob dydd.
Mae’r Llywodraeth wedi derbyn pob un o 31 argymhelliad y Comisiwn naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar gryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg, a byddant yn helpu i lunio'r strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:
"Mae'r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan. Mae’n perthyn i ni i gyd, waeth pwy ydyn ni, lle ydyn ni’n byw neu faint bynnag o Gymraeg sy gyda ni.
"Rydyn ni am fynd â'r Gymraeg at bobl lle maen nhw eisoes, a'i gwneud yn rhan o'r pethau maen nhw'n eu gwneud bob dydd, mewn clybiau a gweithgareddau lleol, ar y cae chwarae, drwy ddiwylliant, yn y gwaith ac ar-lein.”
"Mae cefnogaeth eang i'r Gymraeg ledled Cymru. Drwy weithio ar draws y Llywodraeth ac ar y cyd â'n partneriaid, ein huchelgais yw troi'r gefnogaeth honno yn fwy o ddefnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd, a bod yr iaith yn cael ei chlywed a'i defnyddio'n amlach mewn cymunedau ledled Cymru, gan greu mwy o gyfleoedd i’w defnyddio mewn ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg."
I gyd-fynd â chyhoeddi'r ymateb, ymwelodd y Gweinidog â chlwb pêl-rwyd Cymric yng Nghaerdydd, lle mae'r Gymraeg yn rhan o bob agwedd ar fywyd y clwb, o'r hyfforddi a'r gemau i'w weithgareddau cymdeithasol.
Dywedodd hyfforddwraig y clwb, Megan Price:
"Pan sefydlon ni glwb pêl-rwyd Cymric ddeng mlynedd yn ôl, ein nod oedd creu cyfle i fenywod gymdeithasu drwy'r Gymraeg wrth wneud rhywbeth roedden nhw'n ei fwynhau.
"Mae rhai o'n haelodau yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd, tra nad oedd eraill wedi'i defnyddio rhyw lawer ers gadael yr ysgol. Drwy'r clwb, rydyn ni wedi gweld pobl yn magu hyder yn y Gymraeg, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn gweld gwerth yr iaith mewn ffordd newydd."
Ynghyd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn dilyn cam cyntaf y Comisiwn ar gymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg, bydd ymateb heddiw yn helpu i lunio strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a'r gwaith ehangach i gynyddu cyfleoedd i glywed, a defnyddio'r Gymraeg ledled Cymru.
