Mae teuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn cael cymorth ychwanegol ar unwaith i ddelio â'r costau byw cynyddol.
- Taliad o £100 i aelwydydd ym mandiau treth gyngor A-D ac estyn y taliad i bawb sy’n derbyn o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, waeth beth fo'u band
- Cronfa gwerth £8m i awdurdodau lleol i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi ond nad yw cynlluniau eraill wedi’u targedu ar eu cyfer
- £5m ar gyfer costau tanwydd oddi ar y grid a £7m o gymorth ar gyfer teithio ar fysiau
Wrth i'r gaeaf agosáu a'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau, bydd y misoedd nesaf yn gyfnod heriol i lawer.
Yn ogystal â nifer o fesurau sydd eisoes ar waith, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn gwerth £130m i ddarparu cymorth pellach i'r rhai y mae costau byw yn effeithio'n sylweddol arnynt.
Mae'r pecyn yn cynnwys y taliad ynni o £100 i aelwydydd ym mandiau treth gyngor A-D, gyda'r taliad yn cael ei estyn i bawb sy'n derbyn o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, waeth beth fo'u band.
Bydd £8m ychwanegol ar gael i gynghorau lleol i estyn y taliad o £100 i aelwydydd nad yw cynlluniau eraill wedi'u targedu ar eu cyfer ond sy'n wynebu caledi ariannol. Bydd canllawiau llawn ar y cynllun hwn ar gael i gynghorau cyn bo hir.
Mae £5m yn cael ei ddarparu i helpu gyda chostau tanwydd oddi ar y grid. Bydd taliad o £250 ar gael i aelwydydd sy'n gymwys i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar sail eu hincwm ac sy'n ddibynnol ar olew gwresogi neu LPG.
Mae £7m ar gael i gefnogi gweithredwyr bysiau gyda'u costau tanwydd uchel, gan ddefnyddio strwythur cynllun grant bysiau presennol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol na darpariaeth cludiant i ddysgwyr yn cael eu colli, ynghyd â diogelu teithwyr rhag cynnydd mewn prisiau.
Bydd yr ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi yn cael hwb i sicrhau bod rhagor o bobl yn gwybod beth y mae ganddyn nhw hawl iddo a lle i gael cymorth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
“Mae cefnogi teuluoedd gyda chostau byw yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol i lawer o aelwydydd ledled Cymru a heddiw rwy'n cyhoeddi pecyn arall o gymorth uniongyrchol.
“Gyda'i gilydd, mae hyn yn fuddsoddiad ychwanegol gwerth £130m, gan ddarparu rhyddhad uniongyrchol i aelwydydd y gaeaf hwn. Er ein bod yn cymryd camau cadarn pan fo modd, mae angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan.
“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, i gynyddu Lwfans Tai Lleol ac i gyflwyno tariffau cymdeithasol. Mae ein galwadau ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn ei gwneud yn glir bod angen y rhain i ddarparu rhyddhad hirdymor i aelwydydd mewn angen.
“Mae'r pecyn hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yng nghymunedau Cymru ac yn adlewyrchu ein penderfyniad i sefyll ochr yn ochr ag aelwydydd yn ystod cyfnod heriol.”
