Neidio i'r prif gynnwys

Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu i Gymru. Mae'r ymgynghoriad yn nodi sut y gallai hawl statudol newydd roi cyfle ystyrlon i grwpiau cymunedol cymwys brynu asedau penodol pan fydd perchennog yn penderfynu gwerthu.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ddeddfu ar gyfer Hawl y Gymuned i Brynu. Bwriedir i'r cynigion roi cyfle ystyrlon i grwpiau lleol ddod ag asedau gwerthfawr dan berchnogaeth gymunedol.

Mae cymunedau eisoes yn gallu ceisio caffael asedau drwy lwybrau fel Trosglwyddo Asedau Cymunedol neu bryniant gwirfoddol. Fodd bynnag, pan fydd ased yn cael ei rhoi ar y farchnad, mae'n bosibl na fydd gan gymunedau lawer o amser i drefnu, ystyried a yw'r caffaeliad yn ymarferol a sicrhau cyllid. Mae'r ymgynghoriad felly yn cynnig yr hawl i gael y cynnig cyntaf a chyfnod gwarchodedig i roi amser i grŵp cymunedol cymwys ddatblygu ei gynllun a pharatoi i fynd ati i brynu.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch sut y dylai'r cynllun weithio yn ymarferol, gan gynnwys ei gwmpas a'i gymhwysedd, y broses ar gyfer enwebu a chaffael, mesurau diogelu i berchnogion, trefniadau cyflawni a'r cymorth y gallai fod ei angen ar gymunedau.

Mae'r cynigion yn seiliedig ar waith ymgysylltu cynnar â sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol, perchnogion asedau, busnesau a rhanddeiliaid eraill. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle ehangach i bobl a sefydliadau ledled Cymru helpu i lunio manylion y cynllun.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 4 Ionawr 2027. Rwy'n annog cymunedau, perchnogion asedau, awdurdodau lleol, busnesau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn perchnogaeth gymunedol i rannu eu barn. Bydd yr ymatebion yn helpu i lywio'r polisi terfynol a'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth.