Prosiect peilot datgarboneiddio Tai Clyd
Rhif cyfeirnod y cymhorthdal: SC11628 - bydd y cynllun yn profi ac yn datblygu dulliau o ddatgarboneiddio domestig yng Nghymru ar sail ardaloedd, sy'n niwtral o ran deiliadaeth.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Prosiect Peilot Datgarboneiddio Tai Clyd
3. Y sail gyfreithiol
- Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adrannau 126-128)
- Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Bydd y cynllun yn profi ac yn datblygu dulliau o ddatgarboneiddio domestig yng Nghymru ar sail ardaloedd, sy'n niwtral o ran deiliadaeth. Ei amcanion yw lleihau biliau ynni cartrefi, tlodi tanwydd ac allyriadau carbon, gwella cysur thermol a pherfformiad ynni eiddo, cefnogi swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi lleol, a chynhyrchu tystiolaeth i lywio polisïau ôl-osod ar sail ardaloedd yn y dyfodol.
5. Diben y cynllun
Bydd y cynllun peilot yn ariannu prosiectau ar sail ardaloedd a fydd yn darparu asesiadau ôl-osod o'r tŷ cyfan, cyngor a mesurau effeithlonrwydd ynni priodol.
Bydd aelwydydd sy'n bodloni gofynion cymhwystra tlodi tanwydd presennol cynllun Nyth Llywodraeth Cymru yn derbyn mesurau wedi'u hariannu'n llawn, a bydd gan aelwydydd eraill fynediad at lwybr i gartrefi sy'n gallu talu a chymorth perthnasol wedi'i ariannu gan y Llywodraeth pan fo hynny ar gael.
Bydd y cynlluniau peilot yn cynnwys ymgysylltu â phreswylwyr, sicrhau ansawdd, ôl-ofal, ymdrin â chwynion, ailasesu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) a gwerthuso canlyniadau technegol a chanlyniadau aelwydydd ar ôl cwblhau gwaith gosod.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categorïau o fentrau cymwys
Bydd y cymhorthdal yn cefnogi landlordiaid preifat cymwys pan fydd eu tenantiaid yn bodloni meini prawf cymhwystra cynllun Nyth Llywodraeth Cymru.
Er y gall perchen-feddianwyr a thenantiaid preifat elwa o gymorth a ddarperir drwy'r cynllun peilot hefyd, yn gyffredinol ni fyddant yn cael eu hystyried yn fentrau at ddibenion rheoli cymorthdaliadau oni bai eu bod yn ymgymryd â gweithgarwch economaidd.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Adeiladu
- Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
9. Hyd cyfnod y cynllun
28 Hydref 2026 i 31 Mawrth 2027.
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£4,000,000
11. Ffurf y cymorth
Mae'r holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd cymorth yn cael ei roi drwy brosiectau peilot cymeradwy ar sail ardaloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol cymwys a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru. Rhaid i asesiad o'r tŷ cyfan gael ei gwblhau gan asesydd ôl-osod cymwys yn achos pob cartref sy'n rhan o'r cynllun; bydd yr asesiad a'r cyngor cychwynnol hwn yn cael eu hariannu'n llawn ni waeth beth fo lefel incwm y cartref.
Bydd mesurau ôl-osod wedi'u hariannu'n llawn yn cael eu cyfyngu i aelwydydd sy'n bodloni meini prawf cymhwystra tlodi tanwydd presennol cynllun Nyth Llywodraeth Cymru. Bydd mesurau cymwys yn cael eu pennu gan yr asesiad, a chaiff y prosiect a gymeradwyir gynnwys lwfans cyfyngedig ar gyfer gwaith adfer angenrheidiol. Rhaid i'r prosiect hefyd fodloni gofynion perthnasol yn ymwneud â gosod a sicrhau ansawdd, megis PAS 2035 neu safon gyfatebol a bod wedi'i gofrestru â chorff priodol fel TrustMark.
Ni chaiff landlordiaid preifat dderbyn cymorth ar gyfer mwy na thri eiddo a rhaid iddynt ddatgan na fydd gwelliannau wedi'u hariannu yn arwain at gynnydd mewn rhent.
Gall aelwydydd nad ydynt yn gymwys i gael mesurau wedi'u hariannu yn llawn gael mynediad at lwybr i gartrefi sy'n gallu talu a chymorth perthnasol pan fo hynny ar gael, ond byddant yn talu am y gosodiadau a ddewisir ganddynt yn uniongyrchol.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bydd lefelau cymorthdaliadau yn seiliedig ar y mesurau a nodwyd drwy asesiad ôl-osod o'r tŷ cyfan ac wedi'u cyfyngu i'r costau sy'n angenrheidiol i gyflawni amcanion y cynllun. Yn achos aelwydydd sy'n bodloni gofynion cymhwystra tlodi tanwydd cynllun Nyth, disgwylir i gyllid gan Lywodraeth Cymru dalu am 100% o gostau'r prosiectau a gymeradwyir, gan gynnwys gosod ynghyd â lwfans o hyd at 5% ar gyfer gwaith adfer y mae ei angen i osod y mesurau. Ar gyfartaledd, disgwylir i'r cymorth fod oddeutu £20,000–£30,000 fesul cartref.
Bydd costau'n cael eu hasesu drwy eu cymharu â'r costau o dan gontract Nyth a'u rheoli drwy gyllidebau prosiectau, telerau grant, caffael, proffiliau gwariant, tystiolaeth o gyflawni a gofynion gwerthuso cymeradwy. Bydd aelwydydd ar y llwybr i gartrefi sy'n gallu talu yn talu am y mesurau a ddewisir ganddynt yn uniongyrchol, a gallant wneud cais am gymorth perthnasol wedi'i ariannu gan y Llywodraeth pan fo hynny ar gael.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£30,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: FuelPovertyAndEnergyEfficiency@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
