Neidio i'r prif gynnwys

Y Comisiwn i ddarparu cyngor annibynnol ar flaenoriaethau datganoli, ymgysylltu â phobl ledled Cymru a chryfhau'r sylfaen dystiolaeth i lywio'r gwaith diwygio yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd dau gyd-gadeirydd yn arwain cam nesaf y sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru drwy Gomisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru.

Bydd y Comisiwn yn gorff annibynnol a sefydlog, wedi’i sefydlu i roi cyngor, tystiolaeth a dadansoddiad ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Rôl gynghori fydd gan y Comisiwn a bydd yn darparu fforwm parhaol i hybu trafodaethau a dadleuon gwybodus yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd yn wahanol o ran ei natur i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a fu'n weithredol am gyfnod penodol. Bydd y Comisiwn Cenedlaethol newydd yn adeiladu ar waith blaenorol yn hytrach na'i ailadrodd.

Dan arweiniad y Cyd-gadeiryddion, y Fonesig Menna Rawlings a'r Athro Emyr Lewis, bydd gan y Comisiwn bedair swyddogaeth graidd, sef:

  • Darparu cyngor annibynnol ar flaenoriaethau datganoli, gan gynnwys meysydd fel Ystad y Goron, seilwaith rheilffyrdd, cyfiawnder a phlismona.
  • Cefnogi sgwrs genedlaethol barhaus am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan ymgysylltu â phobl ledled Cymru a chefnogi trafodaeth gyhoeddus gynhwysol a gwybodus.
  • Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynnal trafodaethau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol drwy ymchwil ar gwestiynau gwleidyddol, economaidd a democrataidd allweddol sy’n berthnasol i ddyfodol Cymru.
  • Helpu i lywio'r gwaith diwygio yn y dyfodol drwy ystyried y tri opsiwn ymarferol a nodwyd gan y Comisiwn Annibynnol, sef atgyfnerthu datganoli, Teyrnas Unedig ffederal, ac annibyniaeth.

Wrth gyhoeddi Cylch Gorchwyl y Comisiwn, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies y bydd yn adeiladu ar waith pwysig y mae Cymru eisoes wedi'i wneud gan nad yw'r ddadl gyfansoddiadol yn aros yn ei hunfan:

“Mae’r ffordd mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei strwythuro a’i llywodraethu o dan straen cynyddol, ac mae’r dadleuon am ddatganoli, atebolrwydd a ble dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn dod yn fwyfwy pwysig.

“Mae llywodraethu cyfrifol yn golygu sicrhau bod Cymru’n barod i lunio ei dyfodol ei hun, a hynny gyda’r dystiolaeth, y cyngor a’r gofod democrataidd sydd eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus. Nid dadl haniaethol yw hon. Mae’n ddadl sy’n ystyried a oes gan Gymru yr adnoddau, y pwerau a’r trefniadau democrataidd priodol i sicrhau canlyniadau gwell i’n pobl.

“Dyw’r gwaith paratoi hwnnw ddim yn gallu bod yn waith i’r Llywodraeth yn unig. Mae’n gofyn am drafodaeth eang, agored ac adeiladol ar draws y Senedd hon ac ar draws Cymru.

“Fe ddylai datblygiad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol gael ei siapio gyda phobl ledled Cymru, nid dim ond cael ei gyflwyno iddyn nhw.

“Gyda’n gilydd, mae gennym ni gyfle i helpu i lunio dyfodol hyderus, democrataidd ac uchelgeisiol i Gymru.”