Neidio i'r prif gynnwys

Yn bresennol

Philip Barlow (PB), Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Nigel Blewitt (NB), Archwilio Cymru

Lee Clarke (LC), Cyngor Sir Caerdydd

Rachael Clifford (RC), MEDR

Abigail Cole (AC), Cyngor Sir Caerfyrddin

Peter Davies (PD), Ymchwil y Senedd

Paul Dingle (PDi), Llywodraeth Cymru

Vicky Doyle (VD), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Janine Edwards (JE), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Lloyd Fisher (LF), Cyngor Bro Morgannwg

Eleri James (EJ), Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Bryn Jeffries (BJ), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Richard Jones (RJ), Cyngor Sir Fynwy

Steve King (SK), Cyngor Dinas Abertawe

Henry Knowles (HK), Cyfoeth Naturiol Cymru

Anja Knox (AK), Llywodraeth Cymru

Nia Lyle (NL), Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg

Jodi Massey (JM), Llywodraeth Cymru

Geraint Morgan (GM), Cyngor Sir Powys

Martin Parry (MP), Llywodraeth Cymru

Manon Fflur Pritchard (MFP), Cyngor Gwynedd

Johnathon Radcliffe (JR), Chwaraeon Cymru

Caitlin Theodorou (CT), Cyngor Sir Ceredigion

Cairan Williams (CW), Trafnidiaeth Cymru

Megan Williams (MW), Llywodraeth Cymru

Cymryd nodiadau

Luke Vincent (LV), Llywodraeth Cymru

Siaradwyr

Melanie Brown (MB), Llywodraeth Cymru

Richard Davies (RD), Llywodraeth Cymru

Ana Harries (AH), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Stephanie Harries (SHa), Llywodraeth Cymru

Lloyd Harris (LH), Llywodraeth Cymru

Steph Howarth (SH), Llywodraeth Cymru (Cadeirydd)

Brenna Organ (BO), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Will Parrott (WP), Llywodraeth Cymru

Rob Pascoe (RP), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Annie-Rose Pickup (ARP), Trafnidiaeth Cymru

Sam Willson (SW), Trafnidiaeth Cymru

Ymddiheuriadau

Gwyneth Ayers, Cyngor Sir Caerfyrddin

Leanne John, Cyngor Dinas Abertawe

Helen Jones, Ymchwil y Senedd

Kate Jones, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru

Neil Townsend, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Alwyn Williams, Cyngor Sir Ynys Môn

Andy Wilson (ANW), Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Nia Wyn Vaughan, Cyngor Gwynedd

Cyflwyniad

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod, gan nodi y byddai cyflwyniadau'n cael eu cyhoeddi lle'r oedd siaradwyr yn rhoi caniatâd. Hysbyswyd yr aelodau bod trawsgrifiad yn cael ei recordio i gefnogi cymryd nodiadau, ac y byddai'n cael ei ddileu unwaith y byddai'r cofnodion wedi'u cwblhau. Nid oedd cyfieithu ar y pryd ar gael gan nad oedd y trothwy cyfranogiad wedi'i gyrraedd.

Croesawodd y Cadeirydd fynychwyr newydd, gan gynnwys Nigel Blewitt o Archwilio Cymru, a fydd yn mynychu cyfarfodydd yn y dyfodol yn lle Kay Palmer.

Cofnodion a chamau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol

Ni chafwyd unrhyw sylwadau ynghylch cofnodion y cyfarfod blaenorol a chytunwyd ar y cofnodion hynny.

Darparwyd diweddariadau ar gamau gweithredu o gyfarfod mis Mehefin 2026:

  • Roedd y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â chasglu data Cymraeg wedi'u cwblhau.
  • Roedd diweddariad ar yr Archwiliad Data Llywodraeth Leol wedi'i gynnwys ar yr agenda.
  • Cadarnhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gynlluniau i sefydlu Grwpiau Cynghori ar y Cyfrifiad erbyn diwedd 2026.
  • Mae SYG yn parhau i ddatblygu gwaith sy'n ymwneud ag ystadegau incwm cartrefi gweinyddol, ac mae'n disgwyl darparu diweddariad pellach yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Mynegodd Janine Edwards bryder ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer datblygu Cyfrifiad 2031, a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod gofynion defnyddwyr a gwybodaeth sefydliadol yn parhau i lywio trefniadau cynllunio.

Fe wnaeth Stephanie Howarth gydnabod y pryderon, a chadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro datblygiadau ac yn cynnwys diweddariad ynghylch y Cyfrifiad yn y dyfodol ar yr agenda.

Clywodd yr aelodau hefyd fod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi dechrau gwaith sy'n ymwneud â'i hasesiad o Gyfrifiad 2031, a'i bod yn ceisio sylwadau gan ddefnyddwyr gwybodus.

Darparwyd diweddariadau mewn perthynas ag ystadegau, gan gynnwys:

  • Penodiad Martin Parry fel Pennaeth Ystadegau Iechyd a Gofal.
  • Cyhoeddi Cynllun Gwaith Ystadegau yn y dyfodol agos.
  • Datganiadau ystadegol diweddar ar addysg.
  • Datblygiadau sy'n ymwneud â data digartrefedd.
  • Dadansoddiad diweddar Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Tynnodd Janine Edwards sylw at berthnasedd data digartrefedd i Asesiadau Anghenion Poblogaeth.

Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Rhoddodd Brenna Organ yr wybodaeth ddiweddaraf ar  weithgareddau CLlLC a'r Rhaglen Ddata Ehangach yn sgil cyfuno â Data Cymru.

Mae'r rhaglen yn ystyried sut y gallai cymorth i awdurdodau lleol esblygu, tra’n cynnal y gwasanaethau presennol ar yr un pryd, gan gynnwys arolygon, dangosfyrddau, adnoddau meincnodi, a chasgliadau data. Bydd gweithgarwch ymgysylltu pellach yn digwydd trwy'r Grŵp Cynghori Digidol, a thrafodaethau wyneb-yn-wyneb a gynhelir yn y dyfodol agos. 

Hefyd clywodd yr aelodau am adborth o Gynhadledd ddiweddar CLlLC, lle canolbwyntiodd y drafodaeth ar y defnydd o ddata a thystiolaeth mewn llywodraeth leol, a gofynion cymorth yn y dyfodol.

Darparwyd diweddariad ar yr Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr. Roedd saith cyngor yn cymryd rhan yn y cylch arolwg presennol, ac roedd paratoadau ar y gweill ar gyfer cynnal gweithgarwch arolwg sydd wedi'i alinio yn y dyfodol. Mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu modiwl Cymraeg pwrpasol a gwelliannau i ddangosfwrdd yr arolwg.

Cyflwynodd Ana Harries Fframwaith Canlyniadau Llywodraeth Leol Cymru. Nod y fframwaith yw darparu disgrifiad cliriach a mwy cyson o'r canlyniadau sy'n cael eu cyflawni gan lywodraeth leol, a sut y gellir mesur cynnydd.

Trafododd yr aelodau amserlenni, cysylltiadau ag asesiadau llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a phwysigrwydd data hygyrch ac amserol. Disgwylir i fframwaith cychwynnol ac adnoddau mewnwelediad cysylltiedig, sy'n seiliedig ar ddata presennol, gael eu datblygu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Canfyddiadau'r Archwiliad Data Llywodraeth Leol

Cyflwynodd Rob Pascoe ganfyddiadau'r Archwiliad Data Llywodraeth Leol, a gynhaliwyd gan CLlLC.

Roedd yr archwiliad wedi archwilio adrodd data gorfodol ar draws awdurdodau lleol Cymru, gan ganolbwyntio ar ofal cymdeithasol, addysg, a chynllunio. Casglwyd tystiolaeth oddi wrth 40 o gyfranogwyr ar draws 17 o gynghorau.

Canfu'r archwiliad:

  • fod gweithgarwch casglu ac adrodd ar ddata yn parhau i fod yn werthfawr
  • bod baich sylweddol yn bodoli o fewn y prosesau presennol
  • bod prosesu â llaw a dyblygu yn parhau i fod yn gyffredin
  • y gall prosesau dilysu ac adborth fod yn araf
  • bod arferion da yn bodoli ar draws llywodraeth leol ac y gellid eu rhannu'n ehangach.

Roedd yr argymhellion yn cynnwys gwella cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau, rhesymoli gofynion adrodd, gwella cysondeb a phrydlondeb, a chryfhau rhwydweithiau cymorth.

Trafododd yr aelodau gysylltiadau â Fframwaith Canlyniadau Llywodraeth Leol Cymru, cyfleoedd i leihau dyblygu, a heriau sy'n gysylltiedig ag echdynnu data o systemau gweithredol.

Hefyd trafodwyd gwerth posibl rhannu'r Catalog Dychwelyd Data arfaethedig gyda phartneriaid sector cyhoeddus ehangach.

Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Rhoddodd Sam Willson ac Annie-Rose Pickup ddiweddariad ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru.

Clywodd yr aelodau sut yr oedd yr arolwg wedi cael ei ddatblygu i roi sylw i'r bwlch tystiolaeth a grëwyd ar ôl i Gymru dynnu'n ôl o Arolwg Teithio Cenedlaethol Adran Drafnidiaeth y DU yn 2012.

Amlinellodd y cyflwynwyr fethodoleg yr arolwg, y broses ddatblygu, a'r canfyddiadau rhagarweiniol.

Ymysg y prif ganfyddiadau roedd y canlynol:

  • mae teithio mewn car yn parhau i fod y dull trafnidiaeth mwyaf cyffredin
  • mae teithio llesol oddeutu un rhan o bump o'r teithiau
  • mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynrychioli cyfran gymharol fach o deithiau
  • bydd allbynnau a dadansoddiad pellach yn cael eu cyhoeddi ar ôl cwblhau'r flwyddyn arolwg lawn gyntaf

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar:

  • seilwaith ar gyfer cerbydau trydan
  • hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus
  • heriau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng nghymunedau'r Cymoedd
  • effeithiau gwaith presennol Metro De Cymru
  • cyfleoedd ar gyfer dadansoddi ar lefelau daearyddol a demograffig yn y dyfodol

Croesawodd yr aelodau fod set data trafnidiaeth newydd  a phwysig wedi ei chreu, gan bwysleisio ei gwerth ar gyfer y dyfodol.

Adroddiad Llesiant Cymru ac Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol

Cyflwynodd Melanie Brown drosolwg o'r adroddiad diweddaraf ar Lesiant Cymru.

Mae'r cynnydd cyffredinol a welir yn parhau i fod yn gymysg. Nodwyd datblygiadau cadarnhaol mewn meysydd sy'n cynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr, ailgylchu, a chanlyniadau addysgol. Mae heriau sylweddol yn parhau mewn perthynas â thlodi, disgwyliad oes iach, anghydraddoldebau iechyd, a bioamrywiaeth.

O'r ugain asesiad carreg filltir a gynhaliwyd, dywedwyd wrth yr aelodau:

  • bod 10 yn gwella
  • bod 5 yn gwaethygu
  • nad oedd 5 wedi dangos unrhyw newid sylweddol

Yna, rhoddodd Lloyd Harris ddiweddariad ar Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol.

Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2027, a bydd yn ystyried tueddiadau dadansoddol yn y dyfodol ar draws y Nodau Llesiant. Bydd yn cynnwys tystiolaeth sy'n ymwneud ag amrywiaeth o heriau a chyfleoedd hirdymor sy'n wynebu Cymru, ochr yn ochr â chanfyddiadau gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Hysbyswyd yr aelodau y byddai pecyn data o dan embargo yn cael ei rannu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod hydref 2026 i gefnogi'r gwaith o asesu llesiant cyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2027.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar argaeledd data lleol, hygyrchedd gwybodaeth, cyfleoedd ar gyfer awtomeiddio, ac amserlenni cyhoeddi adroddiadau.

Camau gweithredu: 

  • Llywodraeth Cymru i adolygu cyfleoedd i ddiweddaru a rhannu adnoddau sy'n cefnogi mynediad at ddata dangosyddion llesiant.

Amcangyfrifon poblogaeth ac amcangyfrifon o'r angen ar gyfer tai ychwanegol

Rhoddodd Stephanie Harries ddiweddariad ar yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf.

Amcangyfrifwyd bod poblogaeth Cymru oddeutu 3.18 miliwn yn 2025, sy'n ostyngiad bach o'i gymharu â 2024. Roedd y gostyngiad yn adlewyrchu newid naturiol negyddol parhaus ochr yn ochr â mudo rhyngwladol is.

Hefyd clywodd yr aelodau am gynlluniau yn y dyfodol sy'n ymwneud ag amcanestyniadau poblogaeth, amcanestyniadau Parc Cenedlaethol, ac amcangyfrifon aelwydydd.

Cyflwynodd Will Parrott ddiweddariad ar amcangyfrifon o'r angen ar gyfer tai ychwanegol.

Clywodd yr Aelodau:

  • mai 9,400 o unedau tai oedd yr amcangyfrif ar gyfer yr angen presennol sydd heb ei ddiwallu
  • yr amcangyfrifwyd bod yr angen newydd sy’n codi yn dangos y bydd angen oddeutu 8,700 o unedau bob blwyddyn yn ystod pum mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad
  • bod amrywiadau amcanestyniadau, sydd wedi'u diweddaru, wedi cael eu hymgorffori yn dilyn diwygiadau diweddar i amcanestyniadau aelwydydd

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar oblygiadau gostyngiad yn y boblogaeth, argaeledd gweithlu, a rhagdybiaethau cynllunio hirdymor.

Pwysleisiodd Janine Edwards bwysigrwydd paratoi ar gyfer newid demograffig ac ystyried goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio.

Map Ffordd StatsCymru

Cyflwynodd Richard Davies ganfyddiadau o waith ymgysylltu â defnyddwyr a gynhaliwyd yn ddiweddar sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad StatsCymru yn y dyfodol.

Roedd yr adborth wedi'i drefnu o dan 4 thema, sef yr angen i:

  • ddod o hyd i ddata yn haws
  • deall cyd-destun
  • gweithio gyda data yn hyderus
  • cyrchu data mewn modd hyblyg

Clywodd yr aelodau am waith arfaethedig sy'n ymwneud â:

  • gwelliannau i sut y gellir canfod ffordd a chwilio
  • gwelliannau metadata
  • gwelliannau lawrlwytho ac API
  • cysondeb daearyddol ar draws setiau data
  • gweithgarwch ymgysylltu â defnyddwyr yn y dyfodol

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sut yr hoffai defnyddwyr gael diweddariadau yn y dyfodol, a chroesawodd aelodau yr ymgysylltu parhaus trwy Bwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.

Unrhyw fater arall

Diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol i Janine Edwards am ei chyfraniad hir i ystadegau Cymru, dadansoddiadau llywodraeth leol, a Phwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.

Roedd yr aelodau’n cydnabod ei harbenigedd sylweddol, ei heriau adeiladol, a'i chefnogaeth dros nifer o flynyddoedd, ac roeddent yn dymuno ymddeoliad hir a hapus iddi.

Gwahoddwyd yr aelodau i awgrymu eitemau agenda yn y dyfodol drwy'r Ysgrifenyddiaeth.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 4 Chwefror 2027.

Pwyntiau gweithredu

  1. Llywodraeth Cymru i gynnwys diweddariad ar y Cyfrifiad mewn cyfarfod yn y dyfodol
  2. Llywodraeth Cymru i drafod cynnydd o ran y Grwpiau Cynghori ar y Cyfrifiad gyda'r SYG 
  3. Llywodraeth Cymru i adolygu cyfleoedd i ddiweddaru a rhannu adnoddau sy'n cefnogi mynediad at ddata dangosyddion llesiant