Neidio i'r prif gynnwys

Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n croesawu cyhoeddi canlyniadau blynyddol cyntaf Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru.

Mae hon yn garreg filltir bwysig i drafnidiaeth yng Nghymru. Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, mae gan Gymru arolwg teithio cenedlaethol pwrpasol sy'n cynnig darlun cynhwysfawr o'r ffyrdd y mae pobl yn teithio ledled y wlad. Mae'r arolwg, a ddatblygwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, yn casglu gwybodaeth penodol i Gymru am ymddygiadau ac agweddau teithio.

Mae penderfyniadau da yn dibynnu ar dystiolaeth gadarn. Er mwyn datblygu system drafnidiaeth sy'n diwallu anghenion pobl, cymunedau a busnesau ym mhob cwr o Gymru, mae'n hanfodol deall y ffyrdd y mae pobl yn teithio yn eu bywydau pob dydd. Mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn darparu ffynhonnell newydd werthfawr o dystiolaeth i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn arwyddocaol am ei fod yn darparu'r flwyddyn lawn gyntaf o ganlyniadau'r arolwg, gan adeiladu ar y canfyddiadau rhagarweiniol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Wrth i setiau data blynyddol pellach ddod ar gael, bydd yr arolwg yn rhoi darlun fwyfwy cyflawn o'r ffyrdd y mae pobl yn teithio ledled Cymru a sut y mae patrymau teithio yn newid dros amser.

Cyhoeddir y canlyniadau yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad, sy'n adlewyrchu'r ffaith bod hwn yn arolwg newydd ac y bydd ei allbynnau yn parhau i gael eu mireinio dros amser. Ein nod yw i'r arolwg a'i ganlyniadau ennill statws Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Mae eu cyfranogiad yn helpu i greu adnodd cenedlaethol gwerthfawr a fydd yn sicrhau polisi trafnidiaeth a phenderfyniadau mwy deallus am flynyddoedd i ddod.