Neidio i'r prif gynnwys

Mae gwasanaeth golchi dillad teuluol yn anelu at ddod yn un o'r golchdai mwyaf effeithlon o ran ynni yn y DU gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Digwyddiadau cyfredol:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Cymorth gan Lywodraeth Cymru i helpu gwasanaeth golchi dillad i ehangu a datgarboneiddio.
  • Mae busnes yn barod i agor cyfleuster 'dim ffrwd' newydd a chreu 15 o swyddi.

Bydd Snow White Laundries Ltd, sy'n darparu gwasanaethau golchi dillad masnachol a domestig, yn defnyddio Cronfa Dyfodol yr Economi i ehangu a datgarboneiddio mewn cyfleuster newydd yn Noc Penfro, gan greu 15 o swyddi newydd.

Sefydlwyd y cwmni ym 1968 a bydd yn buddsoddi £1.69 miliwn yn yr offer a'r ehangu 'dim ffrwd', a fydd hefyd yn ei helpu i ddod yn un o'r cwmnïau golchi dillad annibynnol mwyaf yn y DU. Bydd y peiriannau newydd yn helpu i leihau'r defnydd o ddŵr yn sylweddol, a byddant yn defnyddio 40 y cant yn llai o nwy. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio systemau rheoli ansawdd a reolir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) i adennill ynni a fyddai fel arfer yn cael ei golli, gan helpu i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon drwy gydol y broses golchi dillad.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

Galluogi economi Cymru i ffynnu drwy sbarduno cynhyrchiant uwch a helpu busnesau bach a chanolig i dyfu yw ein cenhadaeth economaidd allweddol.

Heb ein cymorth, ni fyddai Snow White Laundries wedi gallu buddsoddi yn y dechnoleg hon am sawl blwyddyn.

Gallant nawr leihau eu hallyriadau a chynyddu effeithlonrwydd eu llinell gynhyrchu, gan greu swyddi o safon ar yr un pryd.

Dywedodd Leighton Milling, Cyfarwyddwr Snow White Laundries:

Fel busnes teuluol, rydym yn hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni gyda'n cyfleuster newydd gwerth £4 miliwn yn Noc Penfro. Rydym yn gweithio tuag at greu un o'r golchdai masnachol mwyaf effeithlon o ran ynni a mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol yn y DU.

Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn garreg filltir bwysig i Snow White Laundries ac yn dangos ein hymrwymiad i ddyfodol y busnes a'r economi leol. Rydym eisoes yn cyflogi 33 o bobl ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu ein gweithlu i 50 wrth inni barhau i ehangu.

Rydym yn hynod falch o fuddsoddi yn Sir Benfro, gan greu cyfleoedd gwaith lleol a dangos y gall busnes teuluol Cymreig sydd wedi'i hen sefydlu arwain y ffordd o ran arloesi, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.