Neidio i'r prif gynnwys

Mae Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru yn helpu i ddarparu gwybodaeth a nwyddau mislif am ddim yng Ngŵyl Girls That Judo Caerdydd ar 14 a 15 Tachwedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gall athletwyr jiwdo benywaidd, hyfforddwyr a rhieni gael nwyddau mislif am ddim yng Ngŵyl Girls That Judo Caerdydd.
  • Mae cyllid Llywodraeth Cymru drwy Grant Urddas Mislif yn helpu Cyngor Caerdydd i ddarparu nwyddau hanfodol.
  • "Rydyn ni eisiau gweld tlodi mislif yn dod i ben a normaleiddio siarad am y mislif." y Dirprwy Brif Weinidog.

Mae'r grant yn helpu pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu nwyddau am ddim. Bydd Cyngor Caerdydd yn defnyddio'r grant i ddarparu nwyddau y gellir eu hailddefnyddio a nwyddau untro, ynghyd â gwybodaeth am iechyd mislif i ferched yr Ŵyl.

Gan ddod ag athletwyr jiwdo benywaidd, hyfforddwyr a rhieni ynghyd ar gyfer penwythnos o hyfforddiant ac addysg, bydd yr Ŵyl hefyd yn ymdrin ag iechyd mislif a maeth.

Dywedodd un athletwraig a ddaeth i'r Ŵyl, Eliora Folaranmi:

Dw i'n caru jiwdo â'm holl galon, ac mae wedi dysgu cymaint imi am gryfder, hyder a gwydnwch.

Fel i lawer o ferched, mae yna heriau sy'n dod yn sgil hyfforddiant a chystadlu, yn enwedig pan wyt ti ar dy fislif, pan wyt ti'n gallu teimlo wedi ymlâdd neu'n ddi-nerth.

Mae Girls That Judo wedi rhoi cymuned o ferched imi sy'n deall ac yn rhannu'r profiadau hyn. Mae'n help i oresgyn rhwystrau, annog sgyrsiau, a chreu amgylchedd mwy cynhwysol, lle mae merched yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynrychioli a'u grymuso i gyrraedd eu targedau mewn jiwdo.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

Ddylai neb golli cyfle i fanteisio ar chwaraeon, yr ysgol nac amser gyda ffrindiau am nad ydyn nhw'n gallu fforddio nwyddau mislif. Drwy Grant Urddas Mislif, mae cynghorau lleol fel Caerdydd yn sicrhau bod nwyddau ar gael am ddim. Rydyn ni eisiau gweld tlodi mislif yn dod i ben a normaleiddio siarad am y mislif.

Mae Cyngor Caerdydd wedi partneru â Grace and Green i ddarparu gwahanol nwyddau yn yr Ŵyl, gan gynnwys citiau mislif hylaw a nwyddau ecogyfeillgar tafladwy ac y gellir eu hailddefnyddio, fel dillad isaf a chwpanau mislif.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Cydlyniant a'r Digidol, y Cynghorydd Bethan Proctor: 

Rydyn ni eisiau i bob menyw a merch yng Nghaerdydd gymryd rhan mewn chwaraeon heb i'w mislif fod yn rhwystr.

Drwy ddarparu gwybodaeth a nwyddau mislif am ddim yng Ngŵyl Girls That Judo, a gweithio gyda Grace and Green, rydyn ni'n helpu menywod a merched i deimlo'n hyderus, eu bod yn cael eu cefnogi, a'u bod yn gallu dod o hyd i'r nwyddau sy'n gweithio orau iddyn nhw. Rydyn ni'n teimlo balchder o gael cefnogi'r fenter hon, sy'n helpu i fynd i'r afael â thlodi mislif a chreu amgylchedd mwy cynhwysol ledled Caerdydd.