Neidio i'r prif gynnwys

Heledd Fychan AS, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref, ymwelais â Pharis i gryfhau cysylltiadau Cymru â phartneriaid rhyngwladol allweddol, hybu iaith a diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, a chefnogi'r paratoadau ar gyfer Tour de France Grand Départ Grande-Bretagne 2027. Bu'r ymweliad yn gyfle i drafod ar yr un pryd â chynrychiolwyr o UNESCO, partneriaid diwylliannol a diplomyddol, a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chynnal un o ddigwyddiadau chwaraeon pwysicaf y byd.

Fin nos ar 21 Hydref, siaradais mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Lysgenhadaeth Prydain ym Mharis i nodi lansiad Grand Départ Grande-Bretagne 2027. Fe wnaeth y digwyddiad ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o'r Tour de France, llywodraethau, sefydliadau chwaraeon, busnesau a chyrchfannau sy'n cynnal gwahanol gymalau, gan ddarparu llwyfan gwerthfawr i ddangos bod Cymru yn gyrchfan ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol mawr, i hybu ein hiaith a'n diwylliant i randdeiliaid allweddol, ac i gryfhau'r partneriaethau a fydd yn hanfodol i sicrhau Grand Départ llwyddiannus yn 2027.

Ar 22 Hydref, fe wnes i gynrychioli Cymru yn lansiad swyddogol llwybrau y Tour de France a'r Tour de France Femmes. Roedd mwy na 4,000 o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol Ffrainc, y cyfryngau a'r byd chwaraeon yn bresennol yn y digwyddiad. Fe'i darlledwyd yn fyw yn rhyngwladol hefyd. Roedd y cyhoeddiad yn gam sylweddol tuag at groesawu'r byd i Gymru yn 2027 ac yn tynnu sylw at faint y cyfle sydd o'n blaenau. Fel rhan o Flwyddyn Beicio Croeso Cymru, bydd cynnal y Tour yn helpu i arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang, yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac yn sicrhau manteision parhaol i'n heconomi, ein cymunedau a'n proffil rhyngwladol. 

Er mwyn trafod sut y gallwn droi'r cyfle hwn yn waddol beicio parhaol, cefais gyfarfod â chynrychiolwyr o Cycle Champs, sef cwmni beiciau cydbwysedd o Gymru sydd wedi'i gontractio i ddarparu rhaglen seiclo i blant y Tour de France, a Caroline Spanton, Prif Weithredwr Beicio Cymru. Trafodwyd sut y gall Cymru ddefnyddio Grand Départ Tour de France 2027 i greu gwaddol barhaol drwy annog mwy o bobl, yn enwedig menywod, merched a phobl ifanc, i gymryd rhan mewn beicio a byw bywydau mwy egnïol.

Gan fod pencadlys UNESCO ym Mharis, fe wnes i allu defnyddio rhan o fy ymweliad i gryfhau perthynas Cymru â'r sefydliad ac edrych am gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol. Yn ystod cyfarfodydd ag uwch-swyddogion UNESCO, tynnais sylw at rôl arweiniol Cymru mewn meysydd sy'n cynnwys amrywiaeth ieithyddol, cydraddoldeb rhywedd, diwylliant a datblygu cynaliadwy. Trafodais sut y gall ein profiadau lywio sgyrsiau rhyngwladol ar gefnogi ieithoedd lleiafrifol a gwasanaethau digidol cynhwysol, a sut y gallwn ddysgu o waith UNESCO i gefnogi'r gwaith o lunio polisïau a sicrhau canlyniadau gwell i bobl yng Nghymru. Fe wnes i hefyd gyfarfod â Chynrychiolydd Parhaol Iwerddon i UNESCO a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i edrych am gyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon drwy rwydweithiau UNESCO, gan adeiladu ar ein diddordebau cyffredin mewn diwylliant, iaith, treftadaeth ac addysg. Dangosodd y trafodaethau hyn sut y gall Cymru barhau i gyfrannu'n rhyngwladol drwy rannu arbenigedd a datblygu partneriaethau gyda sefydliadau a chenhedloedd sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n huchelgais.

Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i gyfarfod â British Council France a phartneriaid eraill i archwilio cam nesaf y cydweithredu diwylliannol rhwng Cymru a Ffrainc. Gan ehangu ar lwyddiant Cymru yn Ffrainc, canolbwyntiodd y trafodaethau ar gryfhau cysylltiadau ym meysydd diwylliant, addysg, treftadaeth a gwaith ymgysylltu â phobl ifanc, gan nodi cyfleoedd i gydweithio cyn Blwyddyn Ewropeaidd y Normaniaid yn 2027.

Mae ein gwaith ymgysylltu rhyngwladol wedi'i gynllunio i gefnogi a chryfhau'r broses o gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Atgyfnerthodd yr ymweliad enw da Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan a dangosodd werth partneriaethau rhyngwladol cryf. Bydd y cysylltiadau a gryfhawyd ym Mharis yn helpu i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd, yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd yn sgil cynnal Tour de France Grand Départ Grande-Bretagne 2027 ac yn cefnogi ein gwaith ymgysylltu ag UNESCO.