Neidio i'r prif gynnwys

A yw’r cynnig yn cysylltu’n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050 a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2021-2026?

Mae'r ail raglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cysylltu'n uniongyrchol ac yn sylweddol â Cymraeg 2050. Un o'r gweithgareddau y mae'n rhaid i bob rhaglen hygyrchedd ei gynnwys o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yw gweithgarwch sydd â'r bwriad o hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'r rhaglen felly yn trin y Gymraeg nid yn unig fel iaith y mae deunydd yn cael ei gyfieithu iddi, ond fel iaith fodern llywodraeth, y gyfraith a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Mae'r rhaglen yn cyfrannu'n arbennig at themâu Cymraeg 2050 o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chreu amodau ffafriol ar gyfer yr iaith. Bydd yn creu ac yn cryfhau cyfleoedd ymarferol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliadau cyfreithiol drwy wneud y canlynol:

  • cynhyrchu deddfwriaeth ddwyieithog newydd, fodern a chydlynol drwy gydgrynhoi a chodio
  • parhau i sefydlu terminoleg gyfreithiol Gymraeg awdurdodol a chyhoeddi geirfâu dwyieithog ar gyfer pob cod newydd o gyfraith Cymru
  • gwella mynediad at ddeddfwriaeth gyfredol a deunydd esboniadol yn y Gymraeg
  • datblygu cymorth yn y Gymraeg ar gyfer drafftio deddfwriaethol ac offer digidol
  • archwilio offer dwyieithog dibynadwy â chymorth AI
  • cefnogi'r defnydd ymarferol o'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru. 

Dylai'r gweithgareddau hyn gryfhau'r seilwaith ieithyddol sydd ei angen er mwyn i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n hyderus ar draws y system gyfiawnder, gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac ymarfer proffesiynol. Maent hefyd yn cefnogi'r amcan tymor hwy y gellir llunio, datblygu, drafftio, trafod a chymhwyso deddfwriaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na bod y Gymraeg yn cael ei hychwanegu ar ddiwedd proses Saesneg yn unig.

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg

Disgwylir i'r cynnig gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y Gymraeg. Bydd yn cynyddu nifer, cydlyniad, gwelededd a defnyddioldeb ymarferol cyfreithiau Cymraeg a'r wybodaeth gyfreithiol gysylltiedig Dylai fod o fudd i aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg, ymarferwyr, cyrff cyhoeddus, y farnwriaeth, defnyddwyr tribiwnlysoedd, myfyrwyr, ymchwilwyr, cyfieithwyr, drafftwyr deddfwriaethol a dysgwyr Cymraeg sydd â diddordeb yn y gyfraith a materion cyhoeddus.

Nid yw'r effaith gadarnhaol yn awtomatig. Gallai prosiectau digidol a phrosiectau wedi’u galluogi gan AI atgynhyrchu rhagosodiad Saesneg os nad yw gofynion Cymraeg yn cael eu hymgorffori o'r cychwyn cyntaf. Gall allbynnau AI Cymraeg hefyd fod yn llai dibynadwy pan fo data hyfforddi a therminoleg arbenigol yn fwy cyfyngedig. Mae risgiau posibl eraill yn cynnwys bod y fersiwn Saesneg yn haws i ddod o hyd iddi neu ei defnyddio, terminoleg anghyson, a systemau neu gyflenwyr trydydd parti sy'n darparu ymarferoldeb Cymraeg gwannach.

Bydd angen mynd i'r afael â'r risgiau hyn drwy ofynion dylunio a chaffael dwyieithog; profi teithiau defnyddwyr Cymraeg a Saesneg yn gyfartal; cyhoeddi terminoleg awdurdodol; defnyddio data deddfwriaethol dwyieithog strwythuredig, ailddefnyddiadwy; cynnwys defnyddwyr Cymraeg ac arbenigwyr cyfreithiol mewn modd priodol; a threfniadau llywodraethu sy'n gofyn am adolygiad dynol o destun Cymraeg a gynhyrchwyd gyda chymorth AI. Bydd allbynnau Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin fel rhai ac iddynt statws awdurdodol cyfartal, a bydd ymarferoldeb o ran y Gymraeg yn cael ei ystyried drwy gydol y gwaith darganfod, dylunio, datblygu, gweithredu a gwerthuso yn hytrach nag fel tasg gyfieithu derfynol.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu effeithiau andwyol)? Dylech gynnwys eich ymateb i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, a darparu unrhyw wybodaeth berthnasol arall

Dylai siaradwyr Cymraeg o bob oed elwa ar allu canfod, deall a defnyddio’r gyfraith yn Gymraeg yn haws. Mae'r manteision uniongyrchol yn debygol o fod fwyaf i oedolion sy'n dod ar draws cyfraith Cymru drwy eu gwaith, eu haddysg, eu cyfranogiad dinesig neu eu defnydd o wasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, gall gwybodaeth gyfreithiol a deunyddiau esboniadol cliriach ar-lein hefyd helpu pobl ifanc, teuluoedd ac addysgwyr i drafod hawliau a chyfrifoldebau drwy'r Gymraeg.

Drwy gydgrynhoi a chodeiddio, bydd deddfwriaeth sydd, yn hanesyddol, wedi bod yn dameidiog ac yn aml ar gael yn Saesneg yn unig yn cael ei dwyn ynghyd mewn Deddfau dwyieithog modern a fydd wedi’u trefnu'n gydlynol yn ôl pwnc. Dylai geirfâu dwyieithog, terminoleg gyson a dull cyflwyno digidol gwell leihau'r rhwystrau ymarferol rhag darllen a thrafod y gyfraith yn Gymraeg. Gall dysgwyr Cymraeg elwa o derminoleg ddibynadwy a thestunau cyfochrog yn Gymraeg a Saesneg, er bod yn rhaid i ddeunydd gael ei ysgrifennu a'i gyflwyno'n hygyrch fel nad yw'n gwasanaethu siaradwyr hyderus neu arbenigwyr cyfreithiol yn unig.

Ni ddisgwylir i unrhyw grŵp oedran brofi effaith andwyol uniongyrchol. Y brif risg drawsbynciol yw allgáu digidol: gallai dibynnu ar ddarpariaeth ar-lein neu ddarpariaeth wedi’i galluogi gan AI roi pobl sydd heb fynediad digidol, hyder neu dechnoleg gynorthwyol addas dan anfantais. Felly, dylai deunydd pwysig barhau i fod ar gael mewn fformatau hygyrch, a dylai darpariaeth ddigidol ategu yn hytrach na disodli'n ddiangen lwybrau priodol nad ydynt yn ddigidol.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg* (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

* Gall y rhain fod yn gymunedau clos yng nghefn gwlad, mewn rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn trefi ac mewn rhith-gymunedau nad ydynt yn cael eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth.

Mae'r rhaglen yn un genedlaethol ac yn ymwneud yn bennaf â seilwaith cyfreithiol a digidol Cymru, felly ni ddisgwylir iddi newid cynaliadwyedd demograffig unrhyw gymuned Gymraeg benodol yn uniongyrchol. Serch hynny, gall wneud cyfraniad cadarnhaol at gynaliadwyedd gweithredol cymunedau Cymraeg, gan gynnwys cymunedau sydd ar wasgar yn ddaearyddol a chymunedau rhithwir, drwy ehangu'r mannau lle gellir defnyddio'r Gymraeg.

Mae cymunedau Cymraeg yn dibynnu nid yn unig ar ddefnydd rhyngbersonol o'r iaith ond hefyd ar y gallu i gynnal gweithgarwch ffurfiol, proffesiynol a dinesig drwy'r Gymraeg. Bydd deddfwriaeth ddwyieithog hygyrch, terminoleg gyfreithiol, adnoddau esboniadol a gwasanaethau tribiwnlys yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith wrth ddelio ag awdurdodau cyhoeddus, deall eu hawliau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, astudio'r gyfraith a darparu gwasanaethau proffesiynol. Gall mynediad digidol fod yn arbennig o werthfawr i rwydweithiau gwasgaredig a phobl sy'n byw y tu allan i ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.

Mae'r effaith debygol yn gadarnhaol ond yn gymedrol ac yn anuniongyrchol.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar addysg Gymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?

Nid yw'r rhaglen yn newid polisi addysg nac argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg, felly ni ddisgwylir unrhyw effaith uniongyrchol ar ddarpariaeth ysgol neu ôl-16. Fodd bynnag, gall gryfhau'r adnoddau sydd ar gael i addysgu ac astudio'r gyfraith yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dylai deddfwriaeth ddwyieithog fodern, geirfâu awdurdodol a deunyddiau esboniadol cliriach fod o gymorth i ddysgwyr, athrawon, darlithwyr ac ymchwilwyr. Gallant helpu i ddatblygu addysg gyfreithiol cyfrwng Cymraeg a datblygiad proffesiynol parhaus drwy ddarparu terminoleg gydlynol ar gyfer pynciau penodol a deunyddiau sylfaenol dibynadwy. Dylai cyhoeddi geirfâu drwy TermCymru a BydTermCymru hefyd wneud geirfa arbenigol yn fwy hygyrch i ddysgwyr ac addysgwyr y tu hwnt i'r proffesiwn cyfreithiol.

Gall dysgwyr Cymraeg o bob oed elwa ar ddulliau llywio dwyieithog a thestunau ar-lein wedi’u cyflwyno’n well. Bydd angen bod yn ofalus i wahaniaethu rhwng testunau cyfreithiol awdurdodol a chynnwys esboniadol neu gynnwys a gynhyrchir gan AI, ac i sicrhau bod modd i bobl â gwahanol lefelau o ruglder ddefnyddio'r adnoddau.

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wasanaethau* sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? (e.e. iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)

* Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu'r ystod o wasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a chynyddu'r defnydd o wasanaethau Cymraeg.

Dylai'r rhaglen gael effaith gadarnhaol ar wasanaethau cyfreithiol a digidol yn y Gymraeg. Bydd yn gwella'r wybodaeth gyfreithiol sylfaenol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, tribiwnlysoedd a chyrff cyhoeddus eraill, a dylai ei gwneud hi'n haws i'r cyrff hynny a'u defnyddwyr ddod o hyd i'r gyfraith yn Gymraeg, a'i chymhwyso. Mae'r rhyngwyneb Cymraeg arfaethedig ar gyfer meddalwedd drafftio deddfwriaethol, gwell mynediad ar-lein at ddeddfwriaeth Gymraeg, geirfâu dwyieithog a threfniadau mwy cadarn ar gyfer cyhoeddi penderfyniadau tribiwnlysoedd yn arbennig o berthnasol.

Er nad yw'r rhaglen ei hun yn ailgynllunio gwasanaethau megis iechyd, tai neu drafnidiaeth, gall deddfwriaeth ddwyieithog gliriach a mwy hygyrch yn gyffredinol helpu swyddogion a darparwyr gwasanaethau i weinyddu'r gwasanaethau hynny drwy'r Gymraeg a helpu pobl i ddeall eu hawliau a'u rhwymedigaethau yn Gymraeg.

Sut y bydd y cynnig yn cyfrannu at gynaliadwyedd a ffyniant y Gymraeg mewn meysydd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uchel?

Nid oes gan y rhaglen unrhyw elfen defnydd tir, tai na datblygu economaidd ac felly mae'n annhebygol o effeithio'n uniongyrchol ar gydbwysedd y boblogaeth na chynaliadwyedd economaidd ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Yn hytrach, mae ei chyfraniad yn swyddogaethol a chenedlaethol: bydd yn cryfhau'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gyfraith, gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg a bywyd proffesiynol lle bynnag y mae siaradwyr Cymraeg yn byw neu'n gweithio.

Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol mewn ardaloedd lle y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n rheolaidd mewn llywodraeth leol, sefydliadau cymunedol, amaethyddiaeth, cynllunio a gweithgareddau rheoleiddiedig eraill. Bydd cydgrynhoi a chodeiddio pynciau fel cynllunio, amaethyddiaeth, coedwigaeth, rheoli bywyd gwyllt a rhandiroedd yn cynhyrchu cyfraith a therminoleg ddwyieithog fodern sy'n berthnasol i'r cymunedau hynny. Gall argaeledd digidol hefyd gysylltu arbenigedd lleol â rhwydweithiau proffesiynol a rhithwir ehangach sy'n siarad Cymraeg.

Sut y byddwch yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a’u bod yn gallu cael mynediad atynt a’u defnyddio mor rhwydd â gwasanaethau Saesneg?

Pa dystiolaeth / data y gwnaethoch eu defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau â diddordeb yn y Gymraeg?

Bydd gwybodaeth gyfreithiol a gwasanaethau digidol yn y Gymraeg yn cael eu gwneud yn weladwy ac yn hygyrch drwy gyhoeddi dwyieithog, dulliau llywio Cymraeg a Saesneg yr un mor amlwg, metadata cyson, optimeiddio chwilio yn y ddwy iaith a chyfeirio clir rhwng fersiynau cyfatebol.

Bydd cyfathrebu am ddeddfwriaeth newydd, Codau cyfraith Cymru, geirfâu a swyddogaethau digidol yn ddwyieithog a dylai ddefnyddio sianeli sy'n cyrraedd gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, cyrff cyhoeddus, sefydliadau cymunedol, addysgwyr, dysgwyr a'r cyhoedd ehangach sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r dystiolaeth a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad drafft hwn yn cynnwys y rhaglen ei hun; y gofyniad statudol bod rhaglenni hygyrchedd yn cynnwys gweithgareddau y bwriedir iddynt hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg; Cymraeg 2050; canllawiau Llywodraeth Cymru ar Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg a safonau llunio polisïau; profiad o'r rhaglen hygyrchedd gyntaf; a chanllawiau mewnol presennol ar ddefnyddio technoleg ac AI yn ddwyieithog. Mae'r rhaglen yn cofnodi gwerth ymarferol cydgrynhoi dwyieithog, terminoleg awdurdodol, offer digidol Cymraeg a gwasanaeth tribiwnlysoedd Cymru. Mae hefyd yn cydnabod yr angen am dechnoleg ddibynadwy a goruchwyliaeth ddynol.

Dyma asesiad cychwynnol ar lefel rhaglen.

Pa dystiolaeth arall fyddai’n eich helpu i gynnal asesiad gwell?

Byddai'r asesiad yn cael ei gryfhau gan dystiolaeth sylfaenol a chymharol ar y canlynol: defnyddio fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddeddfwriaeth a chanllawiau cyfreithiol; ymddygiad chwilio yn Gymraeg a chyfraddau cwblhau; profiad defnyddwyr legislation.gov.uk a llyw.cymru; a chywirdeb a defnyddioldeb allbynnau Cymraeg o offer digidol neu AI arfaethedig.

Byddai ymchwil ansoddol hefyd yn helpu i nodi’r rhwystrau y gall dadansoddeg yn unig eu colli, yn enwedig ar gyfer ymarferwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr, y cyhoedd heb arbenigedd cyfreithiol, pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol, a defnyddwyr mewn cymunedau Cymraeg dwysedd uchel ac ar wasgar.

Dylid ystyried hyn os cynhelir asesiadau pellach o'r effaith ar y Gymraeg ar gyfer gweithgareddau unigol o fewn y rhaglen.

Sut y byddwch yn gwybod a yw eich polisi yn llwyddiant?

Bydd llwyddiant yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei hymgorffori fel iaith waith gyfartal drwy gydol y rhaglen, gyda gwelliannau amlwg o ran argaeledd, cysondeb, darganfyddadwyedd a defnydd ymarferol cyfraith cyfrwng Cymraeg.

Mae mesurau llwyddiant dangosol yn cynnwys:

  • cyfraith gyfunol ac wedi'i hailddatgan (sy'n ymwneud â rhandiroedd, bywyd gwyllt, coedwigaeth ac amaethyddiaeth) sydd ar gael yn ddwyieithog
  • cyhoeddi geirfa ddwyieithog ar gyfer pob cod newydd o gyfraith Cymru a'i hymgorffori mewn adnoddau terminoleg awdurdodol
  • swyddogaethau chwilio, llywio, drafftio a swyddogaethau digidol eraill yn cael eu profi gyda defnyddwyr ac yn perfformio'n effeithiol
  • tystiolaeth bod deddfwriaeth, geirfâu ac adnoddau esboniadol yn y Gymraeg yn cael eu canfod a'u defnyddio
  • adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr sy'n siarad Cymraeg, gan gynnwys ymarferwyr, dysgwyr a phobl nad ydynt yn arbenigwyr
  • diffygion, gwahaniaethau neu faterion terminoleg yn cael eu cywiro'n brydlon
  • cynnwys Cymraeg â chymorth AI neu a gynhyrchwyd gan beiriant yn destun adolygiad dynol a phrosesau sicrhau ansawdd priodol
  • prosiectau unigol sy'n cofnodi sut y newidiodd tystiolaeth Gymraeg ac adborth defnyddwyr eu dyluniad neu eu dull cyflawni.

Dylai mesurau fod yn gymesur â phob gweithgaredd a dylent gymharu canlyniadau Cymraeg a Saesneg pan fo'n ystyrlon. Dylid ailedrych ar yr asesiad pan fo’r prif benderfyniadau prosiect yn cael eu gwneud, pan fydd tystiolaeth defnyddwyr ar gael, ac os yw monitro yn nodi profiad gwael neu lai o ddefnydd yn y Gymraeg.