Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru 2026 i 2030: cofnod asesiad effaith integredig
Cofnod asesiad effaith integredig ar gyfer 2il raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o’r cynnig
Dyma ail raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Drwy'r rhaglen, ein nod yw creu ‘llyfr statud’ modern, dwyieithog i Gymru.
Cwestiynau am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:
Y 5 ffordd o weithio
1. Sut mae’r pum ffordd o weithio wedi llywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r polisi hwn neu’r ddeddfwriaeth hon?
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu a bydd yn cael ei gweithreduyn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r pum ffordd o weithio.
Hirdymor
Mae'r rhaglen yn adlewyrchu ymrwymiad hirsefydlog i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae cydgrynhoi a chodio yn weithgareddau hirdymor yn eu hanfod, y bwriedir iddynt wella ansawdd, cydlyniant a defnyddioldeb cyfraith Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn hytrachna mynd i'r afael â materion tymor byr. Mae'r rhaglen hefyd yn cynorthwyo’r gwaith o barhau i gynnalCodau cyfraith Cymru a gwneud gwelliannau i’r seilwaith deddfwriaethol a fydd yn ymestyn y tu hwnt i oes tymor y Senedd hon.
Atal
Bwriad y rhaglen yw atal problemau sy'n deillio o gymhlethdod cyfreithiol, natur dameidiog y ddeddfwriaeth a’r anhawster o ran cael mynediad ati. Gwneir hyn drwy wella’r ffordd y mae cyfraith Cymru yn cael ei strwythuro a’i chyhoeddi a thrwy wella’r dealltwriaeth ohoni. Ei nod yw lleihau rhwystrau cyn iddynt greu canlyniadau negyddol i ddinasyddion, cyrff cyhoeddus, busnesau a defnyddwyreraill cyfraith Cymru.
Integreiddio
Mae’r gweithgareddau o fewn y rhaglen yn cyfrannu at amcanion lluosog ar yr un pryd, gan gynnwys hygyrchedd, sicrwydd cyfreithiol, dwyieithrwydd, dealltwriaeth y cyhoedd, gwell gwasanaethau digidol a llywodraethiant da. Mae prosiectau unigol yn aml yn cefnogi mwy nagun edefyn o'r rhaglen ac yn cyfrannu at sawl nod llesiant.
Cydweithio
Datblygwyd y rhaglen drwy gydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol, adrannau polisi, y Gwasanaethau Cyfreithiol, arbenigwyr y Gymraeg, arbenigwyrdigidol, timau cyhoeddi ac eraill sy'n gyfrifol am lunio a chyhoeddideddfwriaeth. Wrth i’r gwaith cyflawni fynd rhagddo, parheir i gydweithio â phartneriaid gan gynnwys yr Archifau Gwladol, Comisiwn y Gyfraith, Comisiwn y Senedd ac eraill.
Cynnwys
Mae'r rhaglen yn adeiladu ar brofiad o'r rhaglen hygyrchedd gyntaf a’r ymgysylltu parhaus â'r rhai sy'n llunio, yn cyhoeddi, yn dehongli ac yn defnyddio cyfraith Cymru. Bydd prosiectau unigol a gyflawnir o dan y rhaglen yn cynnwys ymgysylltu acymgynghori pellach pan fo hynny'n briodol, yn enwedig pan fyddant yn cynnwys diwygiadau polisi o sylwedd.
Cydweithio
2. Â phwy rydych chi wedi cydweithio a’u cynnwys wrth ddatblygu’r cynnig ac i ddeall ei effeithiau, gan gynnwys ar unigolion, aelwydydd, cyrff cyhoeddus, busnesau a’r trydydd sector (e.e. drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol neu drwy ymgynghori â’r cyhoedd)?
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu'n bennaf drwy gydweithio o fewn Llywodraeth Cymru (gweler uchod), ac mae'n tynnu ar waith ac arbenigedd cyrff a sefydliadau allanol gan gynnwys:
- Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr
- Yr Archifau Gwladol
- y Senedd a'i Phwyllgorau
- sefydliadau sy'n ymwneud â chyhoeddi deddfwriaeth, craffu arni a’i gweithredu, a
- defnyddwyr cyfraith Cymru yn fwy cyffredinol drwy ymgysylltu parhaus sy'n gysylltiedig â mentrau hygyrchedd deddfwriaethol.
Nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal ar y rhaglen yn ei chyfanrwydd. Ystyrir bod hyn yn gymesur oherwydd mai’r hyn yw’r rhaglen yn bennaf yw fframwaith statudol, technegol a galluogol sy'n ymwneud â hygyrchedd, trefniadaeth a chyhoeddi cyfraith Cymru yn hytrach na diwygiadau polisi o sylwedd. Bydd prosiectau unigol a gyflawnir o dan y rhaglen yn ymgymryd â gwaith priodol o ran ymgysylltu, ymgynghori ac asesu’r effaith pan fo angen.
Datblygu cynaliadwy a chanlyniadau lles hirdymor
3. Sut mae’r polisi yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac at ganlyniadau llesiant hirdymor?
Mae'r rhaglen yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy wella'r seilwaith cyfreithiol sy'n cefnogi atebolrwydd democrataidd, gweinyddiaeth gyhoeddus, mynediad at gyfiawnder a rheolaeth y gyfraith yng Nghymru.
Gall deddfwriaeth fwy hygyrch helpu unigolion, busnesau, cyrff cyhoeddus, cynghorwyr a sefydliadau'r trydydd sector i nodi hawliau a rhwymedigaethau, deall gofynion cyfreithiol ac ymgysylltu'n fwy effeithiol â sefydliadau cyhoeddus. Drwy leihau'r rhwystrau i ddeall cyfraith Cymru, mae'r rhaglen yn cefnogi llywodraethiant da, gwneud penderfyniadau gwybodus a mwy o hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus a phrosesau democrataidd.
Mae'r rhaglen hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad hirdymor cyfraith Cymru fel corff o gyfraith gydlynol a dwyieithog ac yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ym meysydd y gyfraith, llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus. Trwy gydgrynhoi, codio, cyhoeddi’n ddwyieithog a chefnogi seilwaith digidol, mae'n helpu i sicrhau bod cyfraith Cymru yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Er na ddisgwylir i'r rhaglen ei hun arwain at ganlyniadau amgylcheddol, economaidd na chymdeithasol mawr yn uniongyrchol, mae'n cefnogi'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer llywodraethiant effeithiol ar draws pob maes polisi ac mae felly'n cyfrannu'n anuniongyrchol at ganlyniadau llesiant hirdymor ledled Cymru.
Effeithiau allweddol
4. Beth yw’r effeithiau allweddol (cadarnhaol, negyddol, a chyfleoedd) ar draws pob un o’r saith nod llesiant?
| Nod Llesiant | Effeithiau allweddol |
|---|---|
| Cymru Lewyrchus | Effaith anuniongyrchol gadarnhaol drwy ddeddfwriaeth gliriach a mwy hygyrch, gan leihau cymhlethdod a chefnogi unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus i nodi gofynion cyfreithiol a chydymffurfio â hwy yn fwy effeithlon. |
| Cymru Gydnerth | Niwtral ar lefel rhaglen. Nid yw'r rhaglen yn effeithio'n uniongyrchol ar adnoddau naturiol na bioamrywiaeth ond gallai gefnogi llywodraethiant amgylcheddol yn y dyfodol yn anuniongyrchol drwy wella hygyrchedd deddfwriaeth bywyd gwyllt, coedwigaeth, amaethyddiaeth a chynllunio. |
| Cymru Iachach | Mae’r effaith gadarnhaol anuniongyrchol yn niwtral neu’n fach. Gallai gwell mynediad at wybodaeth gyfreithiol gefnogi dealltwriaeth o hawliau a gwasanaethau a lleihau ansicrwydd, er na fwriedir i’r rhaglen wella gwasanaethau iechyd na chanlyniadau iechyd yn uniongyrchol. |
| Cymru sy'n fwy Cyfartal | Effaith gadarnhaol drwy leihau rhwystrau rhag dod o hyd i gyfraith Cymru, ei deall a'i defnyddio, yn enwedig ar gyfer y rhai a allai wynebu rhwystrau oherwydd anabledd, iaith, anfantais economaidd-gymdeithasol neu lai o fynediad at gyngor cyfreithiol arbenigol. |
| Cymru o Gymunedau Cydlynus | Effaith gadarnhaol drwy well tryloywder, cyfranogiad democrataidd a dealltwriaeth o hawliau a rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gefnogi hyder mewn sefydliadau cyhoeddus. |
| Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Iaith Gymraeg yn Ffynnu | Effaith gadarnhaol gref. Mae'r rhaglen yn cefnogi deddfwriaeth ddwyieithog, terminoleg gyfreithiol Gymraeg, cyhoeddi testunau cyfreithiol Cymraeg, geirfâu dwyieithog a defnydd ehangach o'r Gymraeg fel iaith y gyfraith a gweinyddiaeth. |
| Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang | Effaith anuniongyrchol gadarnhaol drwy gryfhau llywodraethiant, tryloywder cyfreithiol a stiwardiaeth cyfraith Cymru. Mae'r rhaglen hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol digidol a gwasanaethau a alluogir gan AI yn cael eu datblygu'n gyfrifol ac yn gynaliadwy. |
Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol sylweddol ar lefel rhaglen. Bydd unrhyw effeithiau sylweddol sy'n deillio o brosiectau deddfwriaethol unigol yn cael eu hystyried ar wahân drwy brosesau asesu effaith ar lefel prosiect.
Tystiolaeth a lywiodd y polisi
5. Pa dystiolaeth, gan gynnwys adroddiadau o dan y Ddeddf, sydd wedi llywio’r polisi, a sut bydd hyn yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol?
Mae’r rhaglen wedi’i llywio gan y canlynol:
- Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 a'r gofyniad statudol i lunio rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru
- y profiad a gafwyd o roi’r rhaglen gyntaf i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar waith;
- adrodd blynyddol a gynhaliwyd o dan y rhaglen gyntaf
- argymhellion ac adroddiadau blaenorol gan Gomisiwn y Gyfraith ynglŷn â chyfraith Cymru a chodio
- craffu gan bwyllgorau'r Senedd (yn enwedig Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Chweched Senedd), gan gynnwys gwaith yn ymwneud â chodio a hygyrchedd deddfwriaethol
- profiad gweithredol o baratoi, cyhoeddi, cynnal ac adolygu deddfwriaeth Cymru
- cydweithio â'r Archifau Gwladol a phartneriaid eraill sy'n ymwneud â chyhoeddi deddfwriaethol a gwasanaethau digidol, a
- thystiolaeth a gasglwyd drwy broses ddatblygu'r rhaglen ac asesiadau effaith cysylltiedig.
Wrth i’r rhaglen fynd rhagddi, bydd y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei chefnogi drwy adroddiadau blynyddol i'r Senedd, ymgysylltu parhaus â phartneriaid cyflawni, a monitro’r gwaith o weithredu a gwerthuso prosiectau unigol a gyflawnir o dan y rhaglen. Bydd y mecanweithiau hyn yn caniatáu i dystiolaeth a phrofiad lywio’r gwaith o flaenoriaethu a datblygu mentrau hygyrchedd cyfraith Cymru yn y dyfodol.
Crynodeb o’r Asesiadau Effaith ar gyfer y cynnig hwn
Cyhoeddi gorfodol (os oes angen yr asesiad effaith)
Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
Cwblhawyd: Nid oedd angen asesiad llawn, ond cyhoeddwyd asesiad cychwynnol
Asesiad o’r effaith ar hawliau plant
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Cyhoeddwyd: Asesiad sgrinio yn unig
Asesiad o’r effaith ar iechyd
Cwblhawyd: Naddo
Cyhoeddwyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiadau effaith eraill
Asesiad o’r effaith ar y Gymraeg
Cwblhawyd: Do
Gwaith sgrinio ar gyfer yr asesiad o’r effaith ar ddiogelu data
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad o’r effaith ar fioamrywiaeth
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad o’r effaith ar adnoddau naturiol
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad effaith prawfesur gwledig
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad effaith rheoli tir yn gynaliadwy
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad effaith carbon
Cwblhawyd: Dim ond gwaith sgrinio sy’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad effaith dyletswydd ansawdd (iechyd)
Cwblhawyd: Nid yw’n ofynnol ar gyfer y cynnig hwn
Asesiad dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Cwblhawyd: Do
