Cyfarfod Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, 30 Mehefin 2026: cofnod o’r tasgau
Diweddariad ar gyfer tasgau’r cyfarfod 30 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn rhoi sicrwydd bod yr holl dasgau sy’n deillio o gyfarfod y Bwrdd Cynghori Allanol ar 30 Mehefin 2026 wedi cael sylw. Mae'n crynhoi’r holl dasgau y cytunwyd arnynt ac yn nodi tystiolaeth sy'n dangos bod y tasgau wedi’u cwblhau neu fod cynnydd wedi’i wneud.
Recriwtio ac aelodaeth
Tasg 1.1
Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol i ystyried sut i gryfhau cynrychiolaeth pobl anabl o fewn yr Bwrdd, er enghraifft gan gynnwys pobl dall a byddar a phobl anabl iau.
Arweinydd: Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol
Statws: ar y gweill
Diweddariad
- Mae Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol yn datblygu rhestr ddosbarthu o sefydliadau, elusennau a grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo swyddi gwag aelodau’r Bwrdd pan fydd y ffenestr recriwtio yn agor. Mae’r ysgrifennydd hefyd wedi cysylltu gydag aelodau’r Bwrdd Cynghori Allanol yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer ffyrdd o hysbysebu.
Tasg 1.2
Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol i gylchredeg gwybodaeth am recriwtio aelodau ychwanegol i’r Bwrdd, gan gynnwys gofynion aelodaeth, sgiliau, arbenigedd ac anghenion cynrychiolaeth.
Arweinydd: Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol.
Statws: ar y gweill
Diweddariad
- Er mwyn osgoi gorgyffwrdd â’r ymarfer recriwtio ar gyfer Bwrdd Cynghori BSL, mae’r ymarfer recriwtio’r Bwrdd Cynghori Allanol wedi’i aildrefnu. Bydd yr hysbyseb a’r pecyn recriwtio ar gyfer swyddi gwag y Bwrdd Cynghori Allanol sy’n weddill yn cael eu rhannu gydag aelodau’r Bwrdd er gwybodaeth.
Tasg 3.3
Codwyd cwestiwn ynglŷn â gwella cyfranogiad pobl ifanc anabl yn y Bwrdd Cynghori Allanol.
Arweinydd: Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol.
Diweddariad
- Mae Tîm Cynhwysiant Pobl Anabl wedi ymgysylltu â chydweithwyr Hawliau Plant ynglŷn â chyfranogiad plant a phobl ifanc anabl yn y Bwrdd Cynghori Allanol. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn ystyried opsiynau, a fydd yn cael eu rhannu gyda’r cyd-gadeiryddion i gael eu barn yn ystod y misoedd nesaf.
Polisi trafnidiaeth
Tasg 2.1
Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau gan aelodau yn ymwneud â thrafnidiaeth i’w darparu ar ôl y cyfarfod.
Arweinydd: Swyddogion Trafnidiaeth
Statws: ar y gweill (gweithredol)
Diweddariad
- Mae swyddogion yn paratoi ymatebion i’r cwestiynau’n ymwneud â thrafnidiaeth a’r adborth a godwyd yn y cyfarfod. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu gyda’r aelodau yn dilyn mewnbwn gan y Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth newydd, sy’n ymuno yng nghanol mis Medi, gyda’r bwriad o gwblhau’r gwaith hwn erbyn diwedd mis Medi.
Tasg 2.2
Trafodaethau dilynol i'w trefnu gydag aelodau a ofynnodd am gyfarfodydd pellach ar faterion trafnidiaeth.
Arweinydd: Swyddogion Trafnidiaeth
Statws: ar y gweill (gweithredol)
Diweddariad
- Mae ymgysylltu ag aelodau a ofynnodd am gyfarfodydd dilynol wedi’i gynllunio ar gyfer cyfnod diweddarach yn y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth newydd gwrdd â’r aelodau a thrafod y materion a godwyd yn fanylach.
Gwybodaeth a diweddariadau ar ôl y cyfarfod
Tasg 3.1
Diweddariad cynnydd ar gamau gweithredu’r Model Cymdeithasol o Anabledd i’w ddarparu yn ysgrifenedig, oherwydd amser cyfyngedig yng nghyfarfod y Bwrdd Cynghori Allanol.
Arweinydd: Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol
Statws: wedi’i gwblhau
Diweddariad
- Mae diweddariad cynnydd ysgrifenedig sy’n ymdrin â chamau gweithredu tymor byr y Model Cymdeithasol o Anabledd wedi’i gwblhau a’i gyhoeddi.
Tasg 3.2
Codwyd cwestiwn gan y Bwrdd ynglŷn ag adolygiad strategaeth VAWDASV ac a oedd profiad byw menywod anabl yn cael ei adlewyrchu yn y strategaeth.
Arweinydd: Ysgrifennydd y Bwrdd Cynghori Allanol.
Statws: wedi’i gwblhau
Diweddariad
- Mae diweddariad wedi’i ddarparu mewn ymateb i’r ymholiad hwn, ac mae swyddogion polisi wedi estyn cynnig i gwrdd â’r Bwrdd i drafod gwaith ymgysylltu yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â’r strategaeth.
