Neidio i'r prif gynnwys

Mynychwyr

  • Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Cyd-gadeirydd 
  • Fran Targett, Cyd-gadeirydd Annibynnol 
  • Steffan Evans, Sefydliad Bevan 
  • Paul Lewis, Comisiynydd Plant 
  • Sion Evans, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 
  • Matthew Evans, Cadeirydd Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) 
  • Serretta Bebb, Trussell 
  • Claire Germain, Llywodraeth Cymru 
  • Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
  • Nigel Griffiths, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Alex Harrison, Anabledd Cymru 
  • Toby Jones, Cyngor ar Bopeth Cymru 
  • Heather Young, Cyngor Abertawe 
  • Jon Rae, CLlLC
  • Sean O’Neil, Plant yng Nghymru

Hefyd yn bresennol 

  • David Willis, Llywodraeth Cymru
  • Harriet Green, Llywodraeth Cymru 
  • Mel James, Llywodraeth Cymru 
  • Paul Neave, Llywodraeth Cymru 
  • Jo Olsen, Llywodraeth Cymru 
  • Danny Owen, Llywodraeth Cymru
  • Ben Gibbs, Llywodraeth Cymru
  • Shane Williams, Llywodraeth Cymru 
  • Emma Willis, CLlLC
  • Michelle Schutte, CLlLC 

Ymddiheuriadau 

  • Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru.

Croeso gan y Cadeirydd

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a nododd bod y Grŵp Llywio wedi ailddechrau o dan weinyddiaeth newydd Llywodraeth Cymru. Croesawyd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams AS, fel cyd-gadeirydd ynghyd â Fran Targett, a chyflwynwyd yr Aelodau newydd, Alex Harrison a Toby Jones. 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at bwysigrwydd parhaus gwneud budd-daliadau Cymru yn fwy hygyrch, a chadarnhaodd y byddai’r cyfarfod yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed ers mis Mawrth, y gwaith o weithredu argymhellion Cam Un, camau gweithredu blaenorol, a blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer Cam Dau. 

Anerchiad y Cyd-gadeirydd: Blaenoriaethau Gweinidogol

Amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb flaenoriaethau’r llywodraeth ar gyfer datblygu a chyflymu’r gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys; 

  • gwella mynediad at holl fudd-daliadau Cymru, gyda ffocws clir ar sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo
  • cynnal adolygiad o’r cynnydd tuag at ganlyniadau Cam Un, er mwyn deall pa Awdurdodau Lleol sy’n arwain y ffordd a pha rai allai fod angen mwy o gymorth neu amser
  • cynnal adolygiad o’r holl fudd-daliadau yng Nghymru er mwyn deall yr effaith ar unigolion
  • pwysigrwydd parhau â’r gwaith a ddechreuwyd yng Ngham Un a chynnal momentwm, yn barod i fabwysiadu dull mwy cyfarwyddol, sy’n cydnabod yr heriau sy’n bodoli
  • yr angen i symud o nodi materion i weithredu a chyflawni, gan sicrhau bod gwelliannau’n arwain at fudd gweladwy i ddinasyddion
  • rhoi cefnogaeth i ddull unigol, wedi’i symleiddio, o gael cymorth a budd-daliadau, gan wneud y system yn llai cymhleth i’r bobl sy’n ymdrin â hi
  • pwysigrwydd rhannu data a chydweithio rhwng sefydliadau fel modd o wella darpariaeth gwasanaethau a lleihau rhwystrau i dderbyn cymorth
  • yr angen i bob sefydliad perthnasol chwarae eu rhan wrth wella’r nifer sy’n manteisio ar y budd-daliadau a hygyrchedd, gan gydnabod bod angen ymdrech ar y cyd er mwyn sicrhau llwyddiant
  • sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai a allai fod fwyaf mewn perygl o golli allan, gan gynnwys pobl sy’n wynebu rhwystrau rhag ymgysylltu â’r systemau presennol
  • ei hymrwymiad i wella canlyniadau i bobl ledled Cymru drwy’r gwaith hwn, a rôl barhaus y Grŵp Llywio wrth wthio cynnydd yn ei flaen

Diolchodd y Dirprwy Brif Weinidog i Aelodau’r Grŵp Llywio am eu gwaith hyd yma. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd nad yw deddfwriaeth wedi’i diystyru, er mai’r dewis presennol yw monitro cynnydd gwirfoddol ac adolygu’r sefyllfa yn ôl yr angen. 

Canlyniadau Cam Un

Cynhyrchodd Cam Un swm sylweddol o dystiolaeth, gan gynnwys arolwg o’r gweithlu, ymchwil ynglŷn â grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio, cyswllt â chwsmeriaid a dadansoddiad o gwynion, a mapio prosesau. Ni ellir cael rhai adroddiadau ar wefan CLlLC dros dro oherwydd gwaith ailgynllunio. 

Cam Gweithredu: Tîm craidd i anfon adroddiadau Cam Un at Aelodau eto, ac archwilio trefniadau dros dro ar gyfer eu lletya cyn gynted ag y bo modd. 

Cynnydd o ran argymhellion Cam Un 

Gwell defnydd o ddata a chofrestru awtomatig

Mae templedi rhannu data, a ddatblygwyd gan lywodraeth leol a’r Grŵp SRO, ar gael ac wedi ennyn diddordeb awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae rhannu data rhwng timau addysg a thimau cyllid/budd-daliadau yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. 

Cam Gweithredu: Pawb i hyrwyddo’r templedi. Tîm craidd i archwilio sut y gellir cryfhau arferion rhannu data rhwng timau addysg a thimau budd-daliadau. 

Un ffurflen gais

Mae Torfaen yn profi’r ffurflen gais unigol a ddatblygwyd yn ystod Cam Un. Mae angen profion defnyddwyr pellach ar y model cyn y gellir dysgu gwersi ehangach. 

Cam Gweithredu: Cyngor Torfaen i gwblhau profion defnyddwyr ac adrodd yn ôl. Tîm craidd ac awdurdodau lleol i ystyried gwersi ar gyfer gweithredu ehangach. 

Newid diwylliant o brosesu hawliadau i hyrwyddo’r hyn mae gan bobl hawl iddo

Cytunir y dylai gwasanaethau fod yn fwy rhagweithiol wrth gefnogi pobl i gael mynediad at yr hyn mae ganddynt hawl iddo. Mae capasiti, adnoddau, gwaith allgymorth a gallu TG yn amrywio ar draws awdurdodau lleol. 

Cam Gweithredu: Grŵp Llywio i barhau i archwilio dulliau allgymorth ar gyfer cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio. Llywodraeth Cymru i ystyried cefnogaeth ar gyfer systemau a phrosesau gwell lle bo angen. 

Lleihau cymhlethdod 

Nododd Cam Un gymhlethdod ar lefelau deddfwriaethol, gweithredol, a pholisi, gan gynnwys pwysau yn y galw tymhorol. Gellir lleihau rhywfaint o gymhlethdod drwy newidiadau i bolisïau, cyfathrebu mwy clir a phrosesau symlach.

Cam Gweithredu: Llywodraeth Cymru i adolygu canllawiau polisi ac i fonitro a yw cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim yn helpu i leihau cymhlethdod. 

Argymhellion ehangach

Cynhyrchodd Cam Un dros 40 o argymhellion a chamau gweithredu ychwanegol. Mae perygl y bydd gwelliannau llai yn cael eu hanwybyddu, oni bai eu bod yn cael eu hymgorffori mewn ffrydiau gwaith yn y dyfodol. 

Cam Gweithredu: Grŵp Llywio i sicrhau bod canfyddiadau Cam Un yn llywio gwaith cynllunio Cam Dau. 

Deall y defnydd llawn

Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud ynglŷn â faint o bobl sy’n manteisio ar Ostyngiad yn y Dreth Gyngor. Mae angen rhagor o dystiolaeth ynghylch y goblygiadau ariannol a goblygiadau cyflwyno’r ddarpariaeth os y manteisir yn llawn ar hawlio holl fudd-daliadau Cam Un. 

Cam Gweithredu: Llywodraeth Leol i asesu beth fyddai’r goblygiadau pe bai defnydd llawn yn digwydd, gan gynnwys goblygiadau o ran eu cyllido a’u darparu. 

Diweddariad gan y Grŵp SRO

Canolbwyntiodd diweddariad y Grŵp SRO ar weithgarwch gweithredu o fewn llywodraeth leol, y rhwystrau i symleiddio budd-daliadau, a chyfleoedd ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Mae awdurdodau lleol yn symud ymlaen ar gyfraddau gwahanol oherwydd gwahaniaethau mewn strwythurau, systemau, a phrosesau. Cytunwyd y byddai adolygiad cynnydd yn ddefnyddiol er mwyn deall sefyllfa bresennol ALlau o ran cynnydd. 

Ers mis Mawrth, mae cynghorau wedi adolygu prosesau ac wedi dechrau gweithredu gwelliannau. Mae pob un o’r 22 cyngor bellach yn defnyddio’r system rhannu data ar gyfer Credyd Cynhwysol, sy’n golygu bod modd asesu hawl i Ostyngiad yn y Dreth Gyngor yn awtomatig, os yw’r hawlwyr yn rhoi eu caniatâd. Rhannu data sy’n parhau i fod y rhwystr mwyaf oherwydd ansicrwydd, gwahanol ddehongliadau o ofynion diogelu data, a lefelau amrywiol o barodrwydd i dderbyn risg. 

Nododd yr Aelodau y dylai symleiddio yn y dyfodol wneud gwell defnydd o’r data presennol a lleihau’r ddibyniaeth ar lenwi ffurflenni cais dro ar ôl tro. Mae cyfyngiadau deddfwriaethol, polisi, a systemau yn parhau, gan gynnwys anghysondeb rhwng rheolau Credyd Cynhwysol, rheolau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, a phrosesau awdurdodau lleol.

Cam Gweithredu: Grŵp Llywio i gynnal adolygiad cyflym ar draws awdurdodau lleol er mwyn sefydlu beth sydd wedi’i roi ar waith, beth sydd heb ei wneud eto, ble mae gwahaniaethau rhwng cynghorau, a pha gymorth ymarferol a allai fod ei angen ar gyfer Cam Dau. 

Defnydd llawn a goblygiadau cost 

Cytunodd yr Aelodau y dylai dadansoddiad yn y dyfodol o’r nifer sy’n manteisio’n llawn ar y budd-dalidau ystyried y costau ariannol a’r arbedion posibl, gan gynnwys y manteision ataliol, cymdeithasol a gweinyddol ehangach a fyddai’n deillio o gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y budd-daliadau. Bydd modelu blaenorol gan Sefydliad Bevan a’i bartneriaid yn cael ei rannu gyda’r Grŵp Llywio. Cytunodd y grŵp y dylid ystyried budd-daliadau fel buddsoddiad, nid yn unig fel gwariant. 

Cam Gweithredu: Grŵp Llywio i ystyried y goblygiadau ariannol a fyddai’n deillio o fwy o bobl yn manteisio, ynghyd ag arbedion posibl a’r buddion ehangach ar gyfer cynllunio Cam Dau.

Cam Gweithredu: Steffan Evans i rannu’r modelu blaenorol ynghylch costau hawlio’r budd-daliadau a’r methodoleg, cyn trafodaeth nesaf y Grŵp Llywio. 

Cam Gweithredu: Matthew Evans / Grŵp SRO i ystyried cynrychiolaeth awdurdodau lleol ar y Grŵp SRO wrth i’r gwaith ehangu ar gyfer Cam Dau. 

Diweddariad ar ehangu prydau ysgol am ddim

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob dysgwr mewn ysgolion uwchradd sy’n byw mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, heb unrhyw drothwy incwm, o fis Medi 2026 ymlaen. Mae’r ehangiad yn berthnasol i Brydau Ysgol Am Ddim yn unig, ac nid yw’n rhoi hawl yn awtomatig i Grant Hanfodion Ysgol na chymorth sy’n gysylltiedig â’r Grant Datblygu Disgyblion. 

Bydd ei gyflwyno yn gofyn am brosesau ar gyfer gwneud cais, gwirio cymhwysedd, a chofnodi gan yr ysgolion. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion ar wahanol gamau o ran parodrwydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyflenwyr y system i gefnogi’r gwaith o gyflawni. Y bwriad ar hyn o bryd yw bod awdurdodau lleol yn dechrau derbyn ceisiadau a gwirio cymhwysedd o fis Medi 2026 ymlaen, gyda phrydau bwyd yn cael eu cynnig cyn gynted â phosibl, ac erbyn mis Ionawr 2027 fan bellaf. 

Cododd yr Aelodau’r risg y gallai’r cyhoedd ddrysu rhwng Prydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, a’r posibilrwydd y ceir negeseuon croes os bydd y darpariaethau yn dechrau ar adegau gwahanol. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu a bod eglurhad pellach yn cael ei ddarparu. 

Cam Gweithredu: Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfathrebiadau cyhoeddus clir yn cadarnhau nad yw ehangu Prydau Ysgol Am Ddim yn golygu hawl i Grant Hanfodion Ysgol yn awtomatig, cyn ei gyflwyno’n gyhoeddus. 

Cam Gweithredu: Llywodraeth Cymru i annog cynnydd tuag at brosesau ymgeisio un waith ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol drwy amodau grant, fel rhan o’r broses weithredu.  

Cam Gweithredu: Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gryfhau’r defnydd o rannu data er mwyn nodi aelwydydd cymwys a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cymorth. Parhaus.

Cam Gweithredu: Llywodraeth Cymru i ystyried gofynion mwy ffurfiol ar gyfer symleiddio mewn rowndiau grantiau yn y dyfodol, unwaith y bydd y broses weithredu wedi’i sefydlu. 

Camau nesaf ar gyfer y Grŵp Llywio

Cytunodd y grŵp y dylai Cam Dau ganolbwyntio ar weithredu, newid mesuradwy, a gwelliannau ymarferol i brofiad pobl. Bydd adolygiad cyflym yn nodi’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers Cam Un, yr hyn sydd heb ei gwblhau eto, ble mae rhwystrau’n parhau, a ble mae angen cymorth. 

Bydd y grŵp craidd presennol yn ailymgynnull, gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, CLlLC, Grŵp SRO, a phartneriaid y trydydd sector, er mwyn datblygu drafft o drywydd Cam Dau ar gyfer cyfarfod y Grŵp Llywio yn yr hydref. Bydd y trywydd yn adeiladu ar fframwaith Cam Un yn hytrach na dechrau o’r newydd, gyda ffocws cryfach ar gyflawni, amserlenni a chamau gweithredu sy’n cael effaith sylweddol. 

Cytunodd yr Aelodau y dylai gwaith yn y dyfodol barhau i atgyfnerthu’r cynnydd a wnaed o ran Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, yn ogystal ag ystyried sut y gellir cymhwyso’r hyn a ddysgwyd yng Ngham Un i fudd-daliadau ehangach Llywodraeth Cymru. 

Blaenoriaethau y Cytunwyd Arnynt ar gyfer Cam Dau 

  • Cwblhau adolygiad cyflym a sefydlu llinell sylfaen glir ar gyfer cyflawni. 
  • Ailwampio’r trywydd gan ddefnyddio’r fframwaith Cam Un presennol. 
  • Canolbwyntio ar weithredu ymarferol, rhannu data, ac annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau. 
  • Defnyddio arbenigedd digidol a data gan CLlLC, Data Cymru, a phartneriaid perthnasol. 
  • Ystyried sut y gall yr hyn a ddysgir o Gam Un gefnogi budd-daliadau ehangach Llywodraeth Cymru. 
  • Adrodd canfyddiadau’r adolygiad cyflym a’r trywydd arfaethedig i gyfarfod y Grŵp Llywio yn yr hydref. 

Unrhyw faterion eraill a chloi

Cytunwyd bod y cofnodion a’r camau gweithredu o gyfarfod blaenorol y Grŵp Llywio yn gofnod cywir. Diolchodd Fran i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Aelodau am eu cyfraniadau.