Neidio i'r prif gynnwys

Eitem 1 ar yr agenda: cyflwyniad

Croesawodd y Cadeirydd aelodau i bedwerydd cyfarfod Fforwm Gweithlu’r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus (y Fforwm) gan nodi ymddiheuriadau a dirprwyon. Cyflwynwyd tri aelod newydd: Angie Feeney (Cymwysterau Cymru) i gymryd lle Alison Standfast, Neil Butler (NASUWT) yn lle Laura Doel, a Beth Rees-Godfrey (CLlLC) yn lle Alyson Watkins. 

Eitem 2 ar yr agenda: lleihau niwed i weithwyr y gellir ei osgoi (papur i’w drafod)

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau fod y Fforwm wedi mynegi ei gefnogaeth mewn egwyddor o’r blaen i ddull disgyblu newydd y GIG, a oedd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatrysiad cynnar ac anffurfiol lle bynnag y bo’n briodol Polisi Disgyblu GIG Cymru. Roedd yr aelodau wedi cytuno y dylid cynnwys y dull o fewn y Ganolfan Adnoddau ac roeddent hefyd wedi gofyn am gyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) a oedd wedi’i dreialu.

Amlinellodd Andrew Cooper (BIPAB) fanteision y dull i gyflogwyr a gweithwyr, gan dynnu sylw at welliannau yn niwylliant y gweithle, llesiant a chostau. Datblygwyd rhaglen ategol o hyfforddiant/coetsio i gynorthwyo gweithredu. Er bod y dull wedi’i dreialu y tu hwnt i’r GIG, yn enwedig mewn llywodraeth leol, roedd cyfleoedd pellach i ehangu’r defnydd ohono. Nododd AC hefyd gefnogaeth TUC Cymru, a oedd wedi datblygu hyfforddiant cyflenwol a gwahodd aelodau i awgrymu cynlluniau peilot yn y dyfodol. 

Dyma rai o’r pwyntiau allweddol a godwyd yn ystod y trafodaethau:

  • Adroddodd AD Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu hyfforddiant ar y dull newydd i 90 aelod o staff a’i fod wedi mynd yn dda. Bydd yn mabwysiadu’r dull i ategu polisïau presennol. 
  • Tynnodd undebau llafur sylw at nifer yr athrawon sydd wedi’u hatal o’u gwaith dros dro mewn ysgolion. Er eu bod yn cefnogi’r dull newydd, nodwyd bod ysgolion yn gyrff hunanlywodraethol ac nad oedd yn ofynnol iddynt ei fabwysiadu. Yn fwy eang, mynegwyd pryder hefyd am y ddibyniaeth barhaus ar brosesau disgyblu mewn proffesiynau sy’n cael eu llywodraethu gan safonau rheoleiddio.
  • Gofynnodd Andrew Cooper a ellid dewis ysgol addas i dreialu’r dull. 
  • Cytunodd Llywodraeth Leol a’r undebau llafur i godi treialu ysgol yn y Fforwm Partneriaeth Ysgolion a byddent hefyd yn archwilio unrhyw gyfleoedd i dreialu mewn awdurdodau lleol eraill. 
  • Gofynnodd cynrychiolwyr Llywodraeth Leol am fanylion yr awdurdodau lleol a fu’n rhan o gynlluniau peilot blaenorol ac fe ddywedon nhw y byddent hefyd yn trafod treialu gyda swyddogion addysg Llywodraeth Cymru. 
  • Er eu bod yn cefnogi proses ddisgyblu llai biwrocrataidd, nododd rhai aelodau bwysigrwydd sicrhau nad yw’r system yn mynd yn rhy lac a’r angen i gynnal safonau priodol.

Cam Gweithredu: Sharon Davies (CLlLC) a Neil Butler (NASUWT) i godi treialu’r dull disgyblu newydd gydag ysgol yn y Fforwm Partneriaeth Ysgolion. 

Cam gweithredu: Sharon Davies (CLlLC) a Neil Butler (NASUWT) i geisio nodi awdurdodau lleol eraill a allai fod yn fodlon cymryd rhan mewn cynlluniau peilot yn y dyfodol. 

Cam gweithredu: Andrew Cooper (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) i roi rhestr o’r awdurdodau lleol a fu’n rhan o gynlluniau peilot blaenorol i’r Ysgrifenyddiaeth, i’w rhannu gyda CLlLC. 

Eitem 3 ar yr agenda: ffrwd waith 1 trais ac aflonyddu yn y gweithle (papur i’w drafod)

Nododd y Cadeirydd fod cynnydd wedi’i wneud yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Trais ac Aflonyddu yn y Gweithle, gan gynnwys gweithdy wyneb yn wyneb a gynhaliwyd ar 15 Mehefin. Gwahoddwyd Sharon Davies i roi’r wybodaeth ddiweddaraf a ganlyn:

  • Adolygodd y gweithdy dystiolaeth ar drais ac aflonyddu yn y gweithle i nodi meysydd ffocws ac allbynnau ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. 
  • Roedd cyflwyniadau yn y gweithdy yn ymdrin ag ymosodiadau ar weithwyr brys, staff safonau masnach, gweithwyr trafnidiaeth, cyfraith iechyd a diogelwch, a dulliau partneriaeth gymdeithasol o leihau risg. 
  • Er mwyn cefnogi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, rhoddwyd arolwg dilynol byr i fynychwyr y gweithdy. Tynnodd adroddiad ar yr arolwg a roddwyd i’r Grŵp sylw at danriportio a bylchau data fel heriau allweddol, gyda gwella adrodd a chasglu tystiolaeth wedi’i nodi fel y brif flaenoriaeth. Nodwyd y gallai rhwystrau sefydliadol, tystiolaeth a chydweithredol effeithio ar gyflawni.
  • Adroddodd ymatebwyr yr arolwg y byddai llwyddiant yn cael ei adlewyrchu mewn gwelliannau o ran riportio digwyddiadau, casglu data a thystiolaeth, cydweithredu traws-sefydliadol cryfach a datblygu offer ymarferol traws-sector i leihau’r broblem a sicrhau newid diwylliannol ar draws sefydliadau. 
  • Y cam nesaf fyddai datblygu papur cynigion i ymgynghori arno ym mis Medi, gyda chyfarfod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi’i gynllunio ar gyfer mis Hydref. 

Pwysleisiodd yr undebau llafur bwysigrwydd y gwaith hwn gan ddatgan eu hymrwymiad i’w gynnydd parhaus. 

Eitem 4 ar yr agenda: ffrwd waith 2 cydraddoldeb rhwystrau o ran recriwtio yn y sector cyhoeddus (papur i’w drafod)

Esboniodd y Cadeirydd fod cynnydd wedi’i wneud o dan y ffrwd waith hon hefyd, gan gynnwys gweithdy wyneb yn wyneb ar wahân a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf. Gwahoddwyd Dom Houlihan i roi’r wybodaeth ddiweddaraf fel a ganlyn:

  • Roedd y gweithdy yn cynnwys cyflwyniadau ar rwystrau ac arferion recriwtio o wahanol safbwyntiau gan gynnwys hil ac anabledd. 
  • Ystyriodd grwpiau trafod flaenoriaethau, allbynnau posibl, ac arferion da. Roedd themâu allweddol ar draws pob grŵp yn cynnwys yr angen i wella prosesau recriwtio, cynyddu allgymorth ac ymwybyddiaeth, cryfhau arferion cynhwysiant, cadw a chynnydd a gwella hyfforddiant ac arweinyddiaeth. 
  • Roedd yr argymhellion yn cynnwys datblygu hwb ar-lein canolog ar gyfer canllawiau, tystiolaeth ac arferion gorau, gwella cyfeirio at adnoddau presennol, creu storfa o astudiaethau achos, datblygu adnoddau hyfforddi ar gyfer ymgeiswyr, staff cyflogadwyedd, gweithwyr proffesiynol AD a rheolwyr hurio ac ystyried offeryn gwerthuso/hunanasesu ar gyfer sefydliadau.
  • Roedd rhai enghreifftiau cychwynnol o ganllawiau ac arferion gorau wedi’u casglu a byddent yn bwydo i waith yn y dyfodol. Yn ogystal, datblygwyd cais chwilio llyfrgell fel y cam cyntaf tuag at ddatblygu adolygiad llenyddiaeth mwy systematig i gefnogi gwaith y Grŵp. 
  • Byddai Cyd-gadeiryddion y Grŵp yn cyfarfod ar 15 Medi i gytuno ar y camau nesaf gyda’r bwriad o sefydlu gweithgor i fwrw ymlaen ag argymhellion allweddol o’r gweithdy. 

Gwnaeth yr undebau llafur y pwynt ei bod yn bwysig ystyried datblygiad gyrfa fel rhan o’r pryderon ynghylch arferion recriwtio.

Gofynnodd un o aelodau newydd y Fforwm am gael bod yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n edrych ar rwystrau i recriwtio yn y sector cyhoeddus. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i drefnu i Angie Feeney ddod yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhwystrau i Recriwtio yn y Sector Cyhoeddus.

Eitem 5 ar yr agenda: gwefan a’r ganolfan adnoddau (papur i’w gytuno)

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau eu bod wedi cytuno yn y cyfarfod diwethaf y byddai Canolfan Adnoddau’r Fforwm yn eitem sefydlog. Ychwanegwyd bod Siarter Gweithwyr Mudol Cyngor Dinas Caerdydd wedi’i chytuno i’w chynnwys yn y Ganolfan a bod yr ysgrifenyddiaeth yn mynd ar drywydd copi dwyieithog ohoni. 

Cadarnhaodd yr undebau llafur eu bod yn y broses o gael copi o’r Siarter Gweithwyr Mudol ac y byddent yn ei gyflenwi cyn bo hir. Fe wnaethant hefyd ofyn am i ddogfen arall gael ei chynnwys yn y Ganolfan Pecyn Cymorth Bwydo ar y Fron yn y Gweithle. 

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i gylchredeg dolen i Becyn Cymorth dwyieithog Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwydo ar y Fron yn y Gweithle i aelodau’r Fforwm, gan geisio eu cytundeb i’w gynnwys yn y Ganolfan Adnoddau. 

Eitem 6 ar yr agenda: fframwaith llywodraethu deallusrwydd artiffisial (AI) cenedlaethol (papur i’w drafod)

Eglurodd y Cadeirydd fod TUC Cymru wedi gofyn i’r Fframwaith Llywodraethu AI Cenedlaethol gael ei roi ar yr agenda. Rhoddodd arweinydd AI Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y Fframwaith. 

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod canllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) wedi’u lledaenu ar draws y sector cyhoeddus i hyrwyddo eu gweithredu. Mae gwaith arall wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r cymorth sydd ei angen ar sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddefnyddio AI. Un o’r canfyddiadau allweddol oedd yr angen am fwy o drylwyredd mewn perthynas ag atebolrwydd, llywodraethiant a rheoli risg. Er ei fod yn ehangach o ran cwmpas na chanllawiau’r WPC, roedd y Fframwaith wedi’i gynllunio i ategu’r gwaith hwnnw yn hytrach na’i ddisodli. Dros y misoedd diwethaf, datblygwyd y Fframwaith mewn cydweithrediad â phartneriaid cymdeithasol. Byddai’r fersiwn gyntaf nawr yn cael ei hadolygu gan arbenigwyr AI cyn cael ei chylchredeg am farn bellach. 

Cydnabu’r undebau llafur eu cyfranogiad yn y Fframwaith ac roeddent yn cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yn hyn, er eu bod yn teimlo y byddai’r ddogfen yn elwa o fwy o eglurder mewn rhai meysydd. Fe wnaethant nodi pa mor gyflym roedd y gwaith yn esblygu, a oedd weithiau wedi effeithio ar amser ymgynghori a gwnaethant ofyn pam nad oedd mwy o amlygrwydd wedi’i roi i effaith amgylcheddol AI. 

Cydnabu Llywodraeth Cymru bwysigrwydd ffactorau amgylcheddol sy’n ymwneud ag AI ac esboniodd y byddai’r rhain yn cael eu trin o dan bolisi ar wahân. Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod AI yn esblygu’n gyflym a nododd yr her o gydbwyso hyn yn erbyn darparu digon o amser i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol. 

Eitem 7 ar yr agenda: cofnodion a materion sy’n codi (i’w cytuno)

Amlinellodd y Cadeirydd faterion sy’n codi o gyfarfodydd blaenorol y Fforwm y cytunwyd arnynt gan aelodau. 

Eitem 8 ar yr agenda: unrhyw fater arall

Gofynnodd yr undebau llafur a ellid rhoi cynigion ar gyfer ffrydiau gwaith ar gyfer y dyfodol ar agenda’r Fforwm nesaf gan fod ganddynt rai syniadau i’w rhannu â’r aelodau.

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd sicrhau nad oedd gormod o ffrydiau gwaith yn gweithredu ar un adeg ond cytunodd â’r cynnig gyda’r aelodau. 

Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i sicrhau bod ffrydiau gwaith ar gyfer y dyfodol yn cael eu rhoi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm. 

Yn bresennol

  • Stephen Layne (Cadeirydd), Llywodraeth Cymru
  • Sharon West (Dirprwy), Llywodraeth Cymru
  • Martin Mansfield, Llywodraeth Cymru
  • Sharon Davies, CLlLC, Cyflogwr
  • Beth Rees-Godfrey, CLlLC, Cyflogwr
  • Dom Houlihan, Llywodraeth Cymru, Cyflogwr
  • Angie Feeney, Cyrff Noddedig, Cyflogwr
  • Tom Hoyles, GMB, Undeb Llafur
  • Sian Boyles, PCS, Undeb Llafur
  • Mark Turner, Unison, Undeb Llafur
  • Neil Butler, NASUWT, Undeb Llafur
  • Ceri Williams (Nicky Hughes Dirprwy), TUC Cymru, Undeb Llafur
  • Andrew Cooper, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyflogwr
  • Mike Thomas, Llywodraeth Cymru

Member absences

  • Nicky Hughes, RCN
  • Samantha Morgan, NHS
  • Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru
  • Helen Arthur, Llywodraeth Cymru
  • Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru
  • Mark Lewis, Llywodraeth Cymru
  • Catherine Evans, Llywodraeth Cymru
  • Kathleen Mulready, Llywodraeth Cymru