Neidio i'r prif gynnwys

Pwrpas

Ceisio cyflwyno dull sy’n canolbwyntio ar y person o gymhwyso polisi a phroses ddisgyblu ar draws gweithlu’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar edrych ar ôl unigolion sy’n ymwneud â’r broses yn ogystal â chymhwyso’r broses ei hun. 

Cefndir

Dros y degawd diwethaf, mae llawer o gyflogwyr y GIG wedi myfyrio ar eu harferion eu hunain wrth ymateb i ymchwiliadau yn y gweithle a chamau disgyblu. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi profi pwysau ariannol cynyddol, prinder staff, a galw cynyddol, ac mae’r rhain i gyd wedi effeithio ar lwythi gwaith a diwylliant.

Ym mis Gorffennaf 2022, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) y rhaglen ‘Gwella Ymchwiliadau Gweithwyr’ i wella comisiynu a chyflawni ei bolisïau disgyblu. Fe’i datblygwyd i fynd i’r afael â gorddefnydd o’r polisi a’r broses ddisgyblu o fewn y sefydliad a’r effaith ganlyniadol ar iechyd a lles gweithwyr, diwylliant sefydliadol a darparu gofal a gwasanaethau cleifion.

Yn dilyn gwerthusiad o’r rhaglen, adroddodd BIPAB effaith sylweddol: lleihad mewn ymchwiliadau diangen, gyda lefel uchel o ddiwrnodau salwch a chostau ariannol wedi’u hosgoi. O fis Ionawr 2023, gweithiodd BIPAB gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i gynnig y rhaglen i holl sefydliadau GIG Cymru drwy gyfleoedd hyfforddi cenedlaethol a chymorth wedi’i deilwra. Adroddodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre arbedion o dros £600,000 mewn absenoldeb oherwydd salwch a derbyniodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wobr ‘niwed i weithwyr y gellir ei osgoi‘ gyntaf HPMA yn hydref 2025.

Fe wnaeth y rhaglen hefyd lywio’r adolygiad o Bolisi a Phroses Disgyblu GIG Cymru (2026), gan bwysleisio y dylid mynd ar drywydd datrysiad anffurfiol lle bo hynny’n briodol, cyflwyno asesiad canfod ffeithiau safonol a sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y person. Gweithredwyd hyn o fis Ebrill 2026.

Mae’r gwaith wedi’i ategu gan raglen o ymchwil academaidd ac ymgysylltu â chyrff proffesiynol allweddol, gan gynnwys y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a’r Healthcare People Management Association (HPMA). Lansiodd yr HPMA ei rhaglen Osgoi Niwed yn y DU  ym mis Hydref 2024, yn seiliedig ar ymchwil a gwaith GIG Cymru. Cyhoeddwyd Under Investigation, llyfr sy’n dod â gwersi a dealltwriaeth o’r rhaglen at ei gilydd gan Wasg Prifysgol Bryste ym mis Tachwedd 2025.

Gan brofi’r cysyniad gyda sectorau y tu hwnt i ofal iechyd, cynhaliodd y CIPD yng Nghymru ddigwyddiad Rhwydwaith Proffesiynol Pobl Lefel Uwch ym mis Rhagfyr 2024, a awgrymodd fod y materion yn systemig, nid yn benodol i sector. Mae hyn wedi’i brofi ymhellach yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gyflwynodd y rhaglen ac sydd eisoes wedi adrodd manteision cadarnhaol. Cawsant ‘gymeradwyaeth uchel’ hefyd yng ngwobrau blynyddol Cymdeithas Rheolwyr Pobl Gwasanaethau Cyhoeddus (PPMA) am y gwaith yn y maes hwn. Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU bapur trafod yn nodi y dylid ystyried polisïau disgyblu a gymhwysir yn wael yn fater iechyd cyhoeddus.

Y sefyllfa bresennol

Mae’r dull newydd hwn wedi cael ei groesawu gan lawer o sefydliadau’r GIG yng Nghymru ac mae’n cael ei symud ymlaen drwy Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, sy’n cynnwys y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i gyflwyno’r dull hwn yn ehangach ar draws gweithleoedd sector cyhoeddus heblaw’r GIG. Mae "Employee Investigations: Looking after your people and the process" yn gwrs hyfforddi wedi’i dreialu a’i brofi, a ddatblygwyd gan BIPAB i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r broses a helpu i wreiddio’r newid diwylliant sydd ei angen i gefnogi’r ffordd hon o weithio. 

Manteision

Gallai manteision y ffordd hon o weithio fod yn bellgyrhaeddol a gallai gynnwys llesiant gweithwyr, sefydlogrwydd y gweithlu, buddion ariannol, diwylliant gwell, ac ymddiriedaeth sefydliadol well. Dylai’r ffordd hon o weithio gael ei chefnogi gan yr hyfforddiant perthnasol i gefnogi newid diwylliant mewn gweithleoedd. 

Y camau nesaf

  • Adrodd i Fforwm Gweithlu’r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus (Medi 2026). 
  • Nodi dau sefydliad peilot (o leiaf) y tu hwnt i GIG Cymru i brofi’r dull gweithredu. 
  • Er mwyn nodi elfennau mesuradwy i asesu’r effaith, gallai’r rhain gynnwys data ar nifer y gweithwyr sy’n mynd trwy broses ddisgyblu, trosiant staff, costau dan sylw. 
  • Y TUC i gynnal rhaglen o dair ‘sesiwn rhagflas’ hyfforddi rhanbarthol ledled Cymru.