Eitem 3 ar yr agenda: diweddariad ar drais ac aflonyddu yn y gweithle grŵp gorchwyl a gorffen
Papur cyfarfod o'r Fforwm Gweithlu Sector Cyhoeddus y Dyfodol ar 8 Medi 2026.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Pwrpas y papur hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar leihau Trais ac Aflonyddu yn y Gweithle.
Cynnydd hyd yma
Cynhaliwyd Gweithdy wyneb yn wyneb o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar 15 Mehefin yn swyddfeydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Pwrpas y gweithdy oedd clywed am dystiolaeth/data presennol mewn perthynas â thrais/aflonyddu yn y gweithle ac i’r Grŵp ddefnyddio’r dystiolaeth hon i nodi meysydd ffocws ac allbynnau posibl y gellid eu cyflawni.
Clywodd y Grŵp nifer o gyflwyniadau diddorol, gan gynnwys cyflwyniad am ‘Ymosodiadau ar Weithwyr Brys yng Nghymru’, un ar ‘Realiti’r Rheng Flaen ar gyfer Gwasanaethau Safonau Masnach’ a chyflwyniad o’r enw ‘Cadw Gweithwyr Trafnidiaeth yn Ddiogel’. Yna clywodd y Grŵp gan ddau siaradwr gwahanol am fesurau posibl i fynd i’r afael â’r materion hyn. Roedd y cyflwyniad cyntaf yn canolbwyntio ar y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith gyda’r teitl ‘Trais sy’n Gysylltiedig â Gwaith: Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a beth allwn ni ei wneud? ‘. Roedd yr ail gyflwyniad yn siarad am ddull Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu o fynd i’r afael ag ymosodiadau cŵn treisgar o’r enw ‘Gweithio mewn Partneriaethau i Leihau Risg Gymunedol i Weithwyr sy’n Wynebu’r Cyhoedd’.
Yn dilyn y cyflwyniadau, ystyriodd y Grŵp y ffocws ar gyfer eu gwaith a’r cynhyrchion posibl a’r dysgu y gellid eu rhannu.
Gwaith dilynol
Er mwyn cefnogi cam nesaf gwaith y Grŵp, gweithiodd Tîm Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru gyda’i Uwch Swyddog Ymchwil i ddatblygu arolwg dilynol byr, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf i fynychwyr y gweithdy. Nod yr arolwg yn bennaf oedd sicrhau bod y Tîm yn cofnodi unrhyw dystiolaeth, data neu enghreifftiau perthnasol y gallai sefydliadau eu rhannu ond hefyd i ofyn i’r cyfranogwyr flaenoriaethu’r materion a’r camau gweithredu allweddol y dylai’r Grŵp ganolbwyntio arnynt.
Mae adroddiad sy’n amlinellu canfyddiadau’r arolwg wedi’i rannu â’r Grŵp. Mae’r canfyddiadau yn atgyfnerthu’r safbwyntiau a fynegwyd yn y Gweithdy. Yn gryno:
- nodwyd tanriportio a bylchau data fel heriau allweddol
- gwella riportio a thystiolaeth oedd y flaenoriaeth uchaf ar gyfer gweithredu
- nodwyd y gall rhwystrau sefydliadol, cydweithio a thystiolaeth effeithio ar gyflawni
Disgrifiodd ymatebwyr lwyddiant yn nhermau:
- gwelliannau mewn riportio, casglu data a thystiolaeth
- cydweithredu cryfach a rhannu gwybodaeth ar draws sefydliadau
- mwy o ymwybyddiaeth a newid diwylliannol
- allbynnau ymarferol y gellir eu mabwysiadu ar draws sefydliadau
- gwelliannau pendant i weithwyr, gan gynnwys llai o drais ac aflonyddu
Y camau nesaf
Cyfarfu’r Ysgrifenyddiaeth â’r Cyd-gadeiryddion a Ceri Williams TUC ym mis Awst i drafod canfyddiadau’r arolwg a chytuno i weithio gyda’i gilydd i gynhyrchu papur sy’n nodi amserlenni a chynigion ar gyfer y camau nesaf. Bydd y papur yn cael ei rannu â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am sylwadau ym mis Medi gyda’r nod o drefnu cyfarfod o’r Grŵp ym mis Hydref.
Camau i’w cymryd
Nid oes angen unrhyw gamau; mae hwn yn bapur i’w nodi. Darperir diweddariad pellach ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.
