Yn ystod y 4 blynedd nesaf, bydd hyd at 10 hwb llawfeddygol yn agor ledled Cymru.
- yn ystod y 4 blynedd nesaf, bydd hyd at 10 hwb llawfeddygol yn agor ledled Cymru
- bydd yr hybiau yn cadw llawdriniaethau a gynlluniwyd ar wahân i ofal brys gan olygu y bydd modd i gleifion gael eu gweld yn gynt
- dyma ran o’r ymdrechion i leihau’r arosiadau hiraf a lleihau cyfanswm y nifer ar y rhestr aros
Bydd hybiau llawfeddygol yn lleihau amseroedd aros drwy sicrhau na chaiff llawdriniaethau arferol eu canslo pan fo achosion brys yn codi yn ogystal â sicrhau y caiff cleifion sydd angen triniaeth eu gweld yn gynt.
Mae pob hwb yn ofod penodol ar gyfer llawdriniaethau a gynlluniwyd, fel:
- gosod cluniau a phen-gliniau newydd
- llawdriniaethau cataract
- trwsio torgesti
Gyda’u staff, eu theatrau a’u gwelyau eu hunain, disgwylir i’r hybiau leihau nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu canslo a’u gohirio.
Byddant hefyd yn darparu cyfleoedd hanfodol i raddedigion meddygol ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd, yn ogystal â chryfhau’r capasiti lleol i reoli’r galw yn y dyfodol.
Heddiw, cafodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, y cyfle i ymweld â’r hwb llawfeddygol yn Ysbyty Llandochau i weld cynnydd drosto’i hun. Disgwylir i’r hwb gael achrediad llawn yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cynlluniau ar gyfer hyd at 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru dros y 4 blynedd nesaf, ac mae arbenigwyr clinigol wrthi’n nodi’r mannau lle mae eu hangen a sut y gallant weithio ar draws byrddau iechyd.
Daw hyn wrth i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru ddangos:
- bod yr amseroedd aros hiraf am driniaeth yng Nghymru wedi disgyn i lai na 5,000 o lwybrau
- bod cyfanswm y nifer ar y rhestr aros bron 70,000 yn is na’r cyfanswm ym mis Medi y llynedd
- bod nifer y llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng
Daw hyn ar ôl buddsoddi cyllid gwerth £145 miliwn i fynd i’r afael ag amseroedd aros, yn arbennig y rhai hiraf, a bydd cynlluniau dan arweiniad clinigol yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar sail hirdymor a chynaliadwy.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:
Fe fydd yr hybiau llawfeddygol hyn yn helpu i gynyddu nifer y llawdriniaethau, lleihau amseroedd aros a gwneud llawdriniaeth sydd wedi’i gynllunio yn fwy dibynadwy.
Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth. Fe fydd yr hybiau yn hanfodol i leihau’r arosiadau ry’n ni wedi’u hetifeddu a’u cadw i lawr yn y tymor hir.
Mi oedd hi’n bleser gweld y ffordd mae Ysbyty Llandochau yn mynd i’r afael â rhestrau aros llawfeddygol, gyda theatrau a gwelyau pwrpasol eu hunain sy’n golygu bod modd gweld mwy o bobl yn gynt.
Wrth sôn am y cyhoeddiad heddiw ynglŷn ag amseroedd aros diweddaraf GIG Cymru, dywedodd:
Ry’n ni’n dechrau gweld arwyddion o welliant ac mae’n galonogol ein bod ni ar y trywydd iawn, ond dy’n ni ddim wedi gweld effaith lawn y buddsoddiad eto.
Ry’n ni wedi bod yn glir gyda’r byrddau iechyd ynghylch yr hyn ry’n ni’n ei ddisgwyl, ry’n ni’n monitro eu cynnydd bob wythnos ac ry’n ni hefyd yn mynnu eu bod nhw’n cymryd camau pan fo targedau yn cael eu methu.
Ry’n ni wedi bod yn disgwyl am aeaf heriol ac ry’n ni wedi rhoi cynlluniau parodrwydd ar waith yn gynt nag erioed. Mae staff iechyd a gofal GIG Cymru yn gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod y system yn gallu ymdopi â’r galw disgwyliedig, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion yn ystod yr amseroedd anodd hyn.
Mae data perfformiad diweddaraf GIG Cymru yn dangos bod gwasanaethau gofal brys yn parhau i wynebu lefelau uchel o bwysau.
Mae’r Fframwaith Polisi Gofal Argyfwng ac Acíwt newydd, a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn canolbwyntio ar lif y system gyfan, mynediad cyflym a mynd i’r afael â’r oedi wrth ryddhau cleifion, a hynny er mwyn sicrhau bod achosion o oedi a gofal mewn coridorau yn dod i lawr, ochr yn ochr â phrosesau adrodd mwy tryloyw.
Mae newidiadau i’r ffordd y caiff eithriadau clinigol eu mesur yn golygu na ellir cymharu ffigurau heddiw ar gyfer adrannau achosion brys yn uniongyrchol â chofnodion hanesyddol.
Yn flaenorol, roedd y cloc yn stopio pan ddaeth y driniaeth weithredol i ben, hyd yn oed os oedd claf yn aros yn yr adran am resymau yn ymwneud ag arsylwi, adfer neu gludiant ysbyty. Ond bellach, mae’r eithriadau clinigol hyn wedi’u dileu.
Mae dod â’r polisi i ben yn gosod un safon glir ar gyfer pob adran achosion brys, felly gellir cymharu perfformiad yn deg.
Ar gyfer pobl a brofodd ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty a lle defnyddiwyd dulliau adfywio cardiopwlmonaidd, roedd 28% wedi dychwelyd i gylchrediad digymell (ROSC) wrth gyrraedd yr ysbyty.
Mae hyn yn welliant o gymharu â mis Medi a’r ffigur uchaf ers cyflwyno’r mesur hwn.
Ym mis Medi, dechreuodd ychydig dros 2,060 o bobl driniaeth ar gyfer canser, sy’n welliant o gymharu â’r mis blaenorol.
Mae mwy na 15,200 o bobl wedi cael y newyddion da nad oes canser arnynt.
