Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiadau Ysgrifenedig dyddiedig 18 Gorffennaf a 9 Medi 2013, cyhoeddais fy mwriad i ymgynghori ymhellach ar y mater hwn a dod i benderfyniad arno ddechrau’r flwyddyn hon. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Rhagfyr 2013, a chafwyd 914 o ymatebion iddo.

Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ddwys i’r amrywiaeth eang o faterion a godwyd yn yr ymatebion hynny, yn enwedig o ran sicrhau cydraddoldeb wrth reoleiddio cychod pysgota sy’n gweithredu yng Nghymru, ac rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i gael gwared ar yr Hawliau Mynediad Hanesyddol yn y dyfroedd sydd 0-6mf o’r lan cyn gynted ag y bo modd.

Fe wnaf i gyflwyno’r Gorchymyn Drafft angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd. Yna, bydd angen hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd ohono yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol (Cyfarwyddeb 98/34/CE), a bydd angen cynnal cyfnod segur o dri mis cyn y gall y Gorchymyn ddod i rym.