Rydym yn croesawu cyngor Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg a’i alwad am newid sylweddol yng nghyflymder y gwaith o ddileu TB ac yn y ffordd y caiff y gwaith hwnnw ei gyflawni.
Dogfennau
Newid sylweddol wrth fynd i’r afael â TB Gwartheg yng Nghymru: gwartheg, pobl a bywyd gwyllt: ein hymateb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 245 KB
PDF
245 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Mae’r rhaglen wedi esblygu wrth i’r dystiolaeth a’n dealltwriaeth o’r clefyd ddatblygu. Mae wedi rhoi mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth. Mae cyngor y Bwrdd yn rhoi cyfle pwysig inni adeiladu ar y sylfeini hyn. Rydym yn cefnogi’r cyfeiriad canlynol:
- dull cyfannol sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac yn cael ei lywio gan dystiolaeth, sy’n cwmpasu gwartheg, pobl a bywyd gwyllt, ac sy’n cyfuno mesurau rheoli cenedlaethol effeithiol â chamau gweithredu lleol cymesur
