Neidio i'r prif gynnwys

Mae Castell Caerffili yn cau i ymwelwyr dros y gaeaf i osod pont newydd yn lle'r hen bont bren sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y bont hon yw'r unig lwybr i mewn i'r castell o'r ganolfan ymwelwyr, felly mae'n rhaid i'r castell gau wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Dyma un o dair pont yn y castell y disgwylir i Cadw eu newid, gyda gwaith ar y ddwy bont arall yn cael ei wneud ddiwedd 2027 a dechrau 2028.  Fodd bynnag, ni fydd y gwaith hwn yn golygu cau'r castell am gyfnod pellach gan fod llwybrau mynediad eraill ar gael.

Pan fydd y castell ynghau bydd Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gwneud gwaith cynnal a chadw a gwella hanfodol arall, gan osgoi unrhyw darfu pellach ar ôl i'r castell ailagor.

Mae Cadw hefyd yn bwriadu gwneud gwaith uwchraddio pellach i'r ardal croesawu ymwelwyr a darparu mannau lle gall ymwelwyr ymlacio a mwynhau'r castell, chwarae, archwilio a chael hwyl. Mae'r holl waith hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol sydd eisoes wedi'i wneud i wella profiad ymwelwyr a gwarchod y castell.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Cadw:

"Castell Caerffili yw un o safleoedd hanesyddol pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru. Mae gosod pont newydd i gymryd lle'r bont hon yn hanfodol i ddarparu mynediad i'r castell yn y dyfodol a chefnogi ei ddyfodol fel cyrchfan dreftadaeth flaenllaw. 

"Rydyn ni'n cydnabod y bydd cau'r castell dros dro yn peri siom i ymwelwyr a busnesau lleol. Bydd Cadw yn gweithio'n agos gyda'i bartneriaid i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl ac i gwblhau'r gwaith mor ddiogel ac effeithlon â phosibl. 

"Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl unwaith y bydd y bont wedi'i gosod a bod yr archwiliadau diogelwch angenrheidiol wedi'u cwblhau."

Mae Cadw yn bwriadu ailagor y castell erbyn penwythnos y Pasg 2027.