Neidio i'r prif gynnwys

Sut mae tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth eraill yn gallu lleisio pryderon a chael gwybodaeth am eu gwasanaethau a phenderfyniadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i wneud cwyn

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymchwilio nac yn datrys cwynion unigol am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac nid yw anfon eich cwyn atom yn rhan o'r broses gwyno nac yn gweithredu fel uwchgyfeirio; rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno'r sefydliad perthnasol ei hun.

Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'ch cartref neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn gan eich landlord, rydym yn argymell cymryd y camau canlynol:

  1. Cysylltu â'ch landlord

    Eich landlord (awdurdod lleol neu gymdeithas dai) sy'n gyfrifol am reoli eich tenantiaeth ac ymdrin ag unrhyw broblemau, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol neu atgyweiriadau.
     
  2. Defnyddio proses gwyno eich landlord

    Os ydych chi'n anhapus â'u hymateb, dylech ddefnyddio eu gweithdrefn gwyno ffurfiol. Rhaid iddynt esbonio sut mae hyn yn gweithio a'r amserlenni dan sylw.
     
  3. Uwchgyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

    Os ydych wedi cwblhau'r broses gwyno ac yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch ofyn i'r Ombwdsmon adolygu eich achos.

O dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, gall yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion gan aelodau o'r cyhoedd sy'n credu eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder oherwydd gweinyddiaeth wael neu fethiant gwasanaeth gan landlord cymdeithasol cofrestredig.

Cysylltu â'r Ombwdsmon

Yr hyn y gall y Tîm Rheoleiddio ei wneud a'r hyn na all ei wneud

Nid yw'r Tîm Rheoleiddio yn ymchwilio, yn gwneud penderfyniadau nac yn datrys anghydfodau unigol rhwng tenantiaid a'u landlord.

Gallwn:

  • esbonio ein rôl, y Fframwaith Rheoleiddio a'ch cyfeirio at wasanaethau cwynion a chyngor addas,
  • ystyried gwybodaeth gan denantiaid ac eraill, ochr yn ochr â gwybodaeth reoleiddiol arall, os yw'n awgrymu materion ehangach, megis pryderon am systemau neu arferion landlord (ni allwn fodd bynnag gynghori sut y defnyddir gwybodaeth o'r fath rydych chi'n ei darparu).

Ni allwn:

  • ymyrryd ar eich rhan gyda'ch landlord, naill ai i gasglu gwybodaeth neu i'w hannog i ddatrys y mater, 
  • penderfynu a yw landlord, gweithiwr neu gontractwr wedi methu â chymryd gofal priodol neu a yw'n gyfreithiol gyfrifol am rywbeth a aeth o'i le,
  • eich cynghori ar ba mor gryf yw eich cwyn unigol neu ba gamau i'w cymryd o safbwynt y gŵyn,
  • penderfynu drwy ohebiaeth unigol a yw gweithredoedd penodol gan eich landlord yn torri'r Safonau Rheoleiddio, neu'n codi pryder rheoleiddiol,
  • datrys anghytundebau ynghylch contractau neu ddyfarnu iawndal,
  • disodli gweithdrefn gwyno eich landlord, y llysoedd neu sefydliadau eraill sy'n delio â chwynion unigol.

Help gyda'ch cwyn

Os oes angen help arnoch i ddeall eich hawliau neu fynd i'r afael â'r system, gallwch gysylltu â:

  • Mae Shelter Cymru yn sefydliad tai arbenigol annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gall gynnig cyngor tai a chymorth gyda chwynion i'ch landlord.

Rhif ffôn: 08000 495 495
Mae rhagor o opsiynau cyswllt ar gael ar wefan Shelter Cymru.

  • Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am ddim, cyfrinachol, diduedd ac annibynnol i bobl yng Nghymru ar wefan Advicelink Cymru.

Rhif ffôn: 0800 702 2020
Mae rhagor o opsiynau cyswllt ar gael ar wefan Advicelink Cymru.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Rhowch wybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i'ch landlord. 
  • Cadwch gofnod o ddigwyddiadau i gefnogi unrhyw ymchwiliad. 
  • Os bydd problemau'n parhau, efallai y byddwch yn gallu gofyn am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (a elwid gynt yn Sbardun Cymunedol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol). Mae hyn yn dod ag asiantaethau fel yr heddlu, awdurdodau lleol a darparwyr tai at ei gilydd i adolygu'ch achos
  • I gael rhagor o wybodaeth: Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol De Cymru

Important principles to remember

  • Rhaid datrys y rhan fwyaf o broblemau tai yn lleol
    Eich landlord neu'ch awdurdod lleol yw'r pwynt cyswllt cyntaf.
  • Defnyddiwch y llwybr cywir yn gyntaf. Mae hyn yn helpu i ddatrys problemau yn gyflymach ac yn osgoi oedi.
  • Dilynwch y broses gwyno cyn uwchgyfeirio. Dim ond ar ôl i hyn gael ei gwblhau y gall yr Ombwdsmon ystyried achosion.
  • Mae cyngor annibynnol ar gael

Chwythu’r chwiban.

Mae'r broses gwyno a ddisgrifir uchod ar wahân ac yn wahanol i'n polisi Datgelu er Lles y Cyhoedd (chwythu'r chwiban). Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar chwythu'r chwiban am gymdeithas dai.