Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae’n hanfodol bod cynhyrchiant yn tyfu’n gyson er mwyn gwella safonau byw, creu swyddi da gyda chyflog da a chefnogi ffyniant hirdymor ledled Cymru. Nod ein cenhadaeth genedlaethol dros gynhyrchiant yw haneru'r gwahaniaeth rhwng cynhyrchiant Cymru a'r DU o fewn deng mlynedd. Er mwyn gwireddu'r uchelgais hon, mae angen i ni ddeall yn well yr heriau strwythurol sy'n wynebu ein heconomi a'r cyfleoedd sy'n bod i'w goresgyn.
Dyna pam yr wyf yn falch o gyhoeddi fy mod yn sefydlu Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru. Bydd y corff cydweithredol newydd hwn yn helpu i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth am economi Cymru drwy ddwyn ynghyd rai o'r arbenigwyr mwyaf blaenllaw ym meysydd cynhyrchiant, twf economaidd a datblygu. Bydd yn bwrw golwg annibynnol ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n effeithio ar gynhyrchiant yng Nghymru, ac yn helpu i feithrin galluoedd ymchwilio hirdymor a datblygu'r offer a'r setiau data dadansoddol sydd eu hangen i ddeall perfformiad yr economi’n well.
Arweinydd y Grŵp fydd yr Athro Melanie Jones, Pennaeth yr Adran Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac arweinydd Fforwm Cynhyrchiant Cymru, yr Athro Richard Davies, Cyfarwyddwr Labordy Twf yr LSE a’r Athro Ricardo Hausmann, Cyfarwyddwr yr Harvard Growth Lab. Gyda'i gilydd, mae eu harbenigedd yn eu gwneud yn flaengar mewn gwaith rhyngwladol ar gynhyrchiant, diagnosteg twf a thrawsnewid economaidd, gan gyfuno dealltwriaeth fanwl o economi Cymru gyda phrofiad sefydliadau ymchwil blaenllaw ac o bolisïau o bob cwr o'r byd.
Bydd y Grŵp yn gweithio gydag ymchwilwyr a sefydliadau ledled Cymru i rannu gwybodaeth, meithrin galluoedd dadansoddi ac i gydweithredu mwy gydag ymchwilwyr economaidd eraill. Bydd ei waith yn helpu busnesau, llunwyr polisi a sefydliadau cyhoeddus drwy wella eu dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n gyrru cynhyrchiant, twf a safonau byw yng Nghymru ynghyd â helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o economegwyr yng Nghymru.
Bydd y rhaglen yn ystyried:
- y ffactorau sy'n effeithio ar gynhyrchiant a thwf economaidd yng Nghymru;
- sut y gall gwella cynhyrchiant gyfrannu at gynyddu incwm aelwydydd a gwella cyfleoedd gwaith ledled Cymru;
- y dystiolaeth economaidd, offer dadansoddi a seilwaith ategol sydd ar gael;
- datblygiad ecosystem ymchwil economaidd Cymru yn y dyfodol; a
- gallu hirdymor Cymru i ddadansoddi'r economi a llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Y partneriaid academaidd fydd yn gyfrifol am ddulliau ymchwil, dadansoddi, canfyddiadau, a chyhoeddi. Mae'r annibyniaeth hon yn hanfodol i sicrhau bod y gwaith yn gredadwy, tryloyw ac o werth tymor hir. Bydd y Grŵp yn cynnal ei raglen waith gychwynnol dros y 12 mis nesaf i osod y sylfeini gallu ymchwil tymor hwy yng Nghymru.
Ym mis Medi, cyhoeddais aelodaeth lawn y Panel Cynghori Arbenigol sy'n cefnogi datblygu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd i Gymru. Ynghyd â'n hymrwymiad i sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol, mae Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru yn rhan o'n huchelgais ehangach i gryfhau sefydliadau economaidd a gallu dadansoddol Cymru.
Mae gan y mentrau hyn rolau gwahanol sy'n ategu ei gilydd. Bydd yr Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol yn canolbwyntio ar gefnogi datblygu economaidd a buddsoddi, bydd y Comisiwn Economaidd a Chyllidol yn cryfhau cyngor economaidd annibynnol ac atebolrwydd a bydd Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru yn meithrin ymchwil academaidd annibynnol a galluoedd dadansoddol ehangach.
Gyda'i gilydd, byddant yn helpu i sicrhau bod gennym dystiolaeth gryfach, dadansoddwyr o'r radd flaenaf, trafodaeth gyhoeddus wybodus a pholisïau economaidd mwy effeithiol er lles busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i gefnogi ein huchelgais ar gyfer Cymru fwy cynhyrchiol a ffyniannus.
