Cylchlythyr Pwyllgor Deintyddol Cymru: Hydref 2026
Crynodeb o faterion allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod Pwyllgor Deintyddol Cymru sy’n cynnwys ymgyrchoedd a newyddion.
Ar y dudalen hon
Newidiadau i Bwyllgor Deintyddol Cymru
Llongyfarchiadau i Vaseekaeran Sivarajasingham ar gael ei benodi'n Bennaeth yr Ysgol Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn flaenorol, gwasanaethodd Vas ar Bwyllgor Deintyddol Cymru fel cynrychiolydd y Fforwm Cynghori Arbenigol, ac mae'r pwyllgor yn estyn ei ddymuniadau gorau iddo yn ei rôl newydd.
A hithau'n Gyfarwyddwr Clinigol newydd Gwasanaethau Deintyddol Gofal Sylfaenol, mae Liz Samway yn cynrychioli Cwm Taf Morgannwg ar Bwyllgor Deintyddol Cymru.
Mae Tim Phillips, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Deintyddol Lleol Bro Taf, wedi'i benodi'n gynrychiolydd y pwyllgor, gan olynu Ruwa Kadenhe, y cadeirydd sy'n ymadael.
Jack Moore yw Cadeirydd newydd Pwyllgor Deintyddol Lleol Gogledd Cymru, gan olynu Jeremy Williams, y cadeirydd sy'n ymadael.
Mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda Vas, Liz, Tim a Jack.
Eich rôl o ran hyrwyddo'r Porth Mynediad Deintyddol
Y Porth Mynediad Deintyddol yw'r system genedlaethol a ddefnyddir yng Nghymru i reoli mynediad at ofal deintyddol rheolaidd y GIG. Mae'n darparu un llwybr i gleifion sy'n ceisio cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, gan helpu i sicrhau dull teg a chyson ledled Cymru.
Mewn un o gyfarfodydd diweddar Pwyllgor Deintyddol Cymru, trafododd y pwyllgor sut y mae'r Porth Mynediad Deintyddol yn perfformio yn lleol, gan gynnwys:
- y galw presennol
- amseroedd aros
- ymwybyddiaeth cleifion
- sut y gallem gryfhau'r gwaith o hyrwyddo'r gwasanaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae amseroedd aros ar y Porth Mynediad Deintyddol yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Mewn rhai ardaloedd, mae'r amser aros yn fyr iawn gyda chleifion yn cael eu dyrannu i bractisau o fewn wythnosau. Yn ôl y sôn, tua 22 mis yw'r amser aros hwyaf ar hyn o bryd.
Hoffai Pwyllgor Deintyddol Cymru ofyn i'r holl wasanaethau deintyddol ystyried:
- a yw eu gwaith hyrwyddo a chyfathrebu eu hunain ynghylch y Porth Mynediad Deintyddol yn gyson ac yn effeithiol
- beth arall y gellid ei wneud yn genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Porth a'r rôl y mae'n ei chwarae o ran cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG.
Y Rhaglen Lywodraethu
Cafodd Rhaglen Lywodraethu newydd Plaid Cymru 2026 i 2030 ei rhyddhau ar 22 Medi 2026 ac mae'n rhoi gwella mynediad at ofal iechyd a chreu GIG cynaliadwy wrth wraidd ei hagenda.
Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ac yn llywio cynllun gwaith Pwyllgor Deintyddol Cymru. Mae'r pwyllgor yn dod â gweithwyr proffesiynol o bob sector deintyddiaeth yng Nghymru ynghyd, i gydweithio a darparu cyd-destun y byd go iawn.
Meysydd allweddol o'r rhaglen lywodraethu sy'n berthnasol i ddeintyddiaeth
- Gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG: drwy fyrddau iechyd sy'n asesu angen deintyddol lleol ac yn sicrhau darpariaeth ddeintyddol ddigonol.
- Datblygu gweithlu deintyddol y dyfodol: gan gynnwys ystyried sefydlu ysgol ddeintyddol newydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Aberystwyth a Bangor.
- Atal a gwella iechyd y geg: gan adlewyrchu ffocws ehangach y Llywodraeth ar atal afiechyd a gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth.
- Gofal yn nes at y cartref a diwygio gofal sylfaenol: gan gefnogi rôl gwasanaethau deintyddol mewn modelau gofal cymunedol ac integredig.
- Cynaliadwyedd y gweithlu a gwydnwch gwasanaethau: gan gynnwys recriwtio, cadw, datblygu proffesiynol a chynllunio hirdymor ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG.
- Trawsnewid digidol: gyda chyfleoedd ar gyfer deintyddiaeth drwy well defnydd o dechnoleg ddigidol, data ac arloesi ar draws GIG Cymru.
Strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru
Mae'r Grŵp Iechyd, Gofal ac Atal wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar strategaeth a fydd yn sail i ddull cyflawni Llywodraeth Cymru am y 10 mlynedd nesaf.
Ei phrif ddiben yw nodi:
- Pam mae angen newid: gan ddisgrifio'r pwysau presennol ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys heneiddio, disgwyliad oes iach gwael, anghydraddoldebau, galw cynyddol, pwysau'r gweithlu, cyllid, seilwaith a pherfformiad gwasanaethau.
- Y weledigaeth hirdymor: Cymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a llawnach; lle mae anghydraddoldebau wedi'u lleihau; gofal yn fwy cydgysylltiedig; a gwasanaethau yn gynaliadwy.
- Sut y bydd cyflawni'n cael ei lywodraethu a'i fesur: gan ddefnyddio llywodraethu rhaglenni, cynlluniau cyflawni, canlyniadau, mesurau perfformiad, trefniadau atebolrwydd a dyletswyddau statudol.
- Sut y mae iechyd yn cysylltu â nodau ehangach y llywodraeth: fel yr economi, addysg, tai, trafnidiaeth, tlodi plant, costau byw, hinsawdd, bwyd a llesiant cymunedol.
Sut y caiff y weledigaeth honno ei chyflawni
Drwy dair colofn gysylltiedig:
Ailosod
Sefydlogi perfformiad, gwella mynediad, cryfhau atebolrwydd ac adfer gafael.
Moderneiddio
Diweddaru llywodraethu, deddfwriaeth, comisiynu, systemau digidol, data, integreiddio a seilwaith.
Trawsnewid
Symud y system tuag at atal, gofal sylfaenol a chymunedol cryfach, gofal cymdeithasol, llwybrau clinigol, diogelu, ymgysylltu â'r cyhoedd a chynaliadwyedd.
Yn fyr, y diben yw darparu map ffordd strategol ar gyfer gwella canlyniadau iechyd yng Nghymru dros y degawd nesaf, gan symud y system o un sy'n canolbwyntio'n bennaf ar drin salwch i un sy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynharach, integreiddio, tegwch, cynaliadwyedd a gwell canlyniadau i ddinasyddion.
Cymunedol o'r Cychwyn
Yn ein cyfarfod diweddar, rhoddodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Isabel Oliver, y wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedol o'r Cychwyn i'r pwyllgor.
Mae Cymunedol o'r Cychwyn yn datblygu model a saernïaeth ategol wedi'u bwriadu i gyflawni gwell canlyniadau iechyd y boblogaeth ledled Cymru.
Mae'r Bwrdd Rhaglen yn ystyried sut y gellir profi, mireinio a gweithredu'r model sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys y trefniadau gweithredu sy'n ofynnol i gefnogi'r cyflawni.
Datblygiadau allweddol
Saernïaeth y rhaglen a threfniadau gweithredu
Mae'r gwaith yn parhau i ddatblygu'r saernïaeth sy'n ofynnol i gyflawni'r model.
Mae'r Prif Swyddogion Gweithredol sy'n arwain ar y newidiadau yn paratoi crynodeb lefel uchel o'r tri newid trawsnewidiol. Ar ôl cytuno arno, bydd yn cefnogi ymgysylltu a thrafod â rhanddeiliaid a grwpiau cymheiriaid proffesiynol.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd
Mae'r Bwrdd Rhaglen yn bwriadu cynnal adolygiad wedi'i dargedu o ymgysylltu, yn enwedig â llywodraeth leol a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hefyd yn dymuno gwneud mwy o ddefnydd o fforymau rhanddeiliaid presennol i helpu i lunio'r newidiadau trawsnewidiol.
Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i gynnwys dinasyddion a chymunedau, gyda'r cam presennol gyda rhanddeiliaid proffesiynol yn canolbwyntio ar fireinio cynigion cyn ymgysylltu ehangach â'r cyhoedd.
Disgrifio newid ymarferol
Mae cynrychiolaeth weledol gynnar o'r model wedi'i llunio gyda drafftiau diweddarach wedi'u cynllunio i ddangos y newidiadau ymarferol y byddai Cymunedol o'r Cychwyn yn eu cyflawni.
Cynigiwyd fersiynau wedi'u teilwra ar gyfer y cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol.
Gwasanaethau a ddarperir yn nes at y cartref
Nod y weledigaeth yw cefnogi practisau meddygon teulu i gydweithio ar raddfa fawr, lleihau amrywiad direswm o ran mynediad at ofal sylfaenol, a symud gweithgarwch, adnoddau a chyllid yn nes at y cartref.
Ar hyn o bryd, nid yw'n glir sut y byddai hyn yn berthnasol i ddeintyddiaeth.
Newidiadau trawsnewidiol
Mae'r adborth hyd yma wedi tynnu sylw at sawl blaenoriaeth drawsbynciol:
- ymgysylltu ystyrlon â rhanddeiliaid
- integreiddio cryfach ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
- buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau cymunedol
- capasiti'r gweithlu
- gweithredu ymarferol
- cynnwys y cyhoedd a chleifion
Dyfeisiau deintyddol: pam mae cydymffurfio yn bwysig i ddiogelwch cleifion
Mae pob practis deintyddol yn defnyddio dyfeisiau meddygol bob dydd, o offer llaw a deunyddiau adferol i fewnblaniadau, sganwyr ac unedau pelydr-X. Ac eto efallai nad yw llawer o aelodau'r tîm deintyddol yn ymwybodol bod y cynhyrchion y maent yn eu prynu a'u defnyddio yn destun gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol llym sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu cleifion.
Tynnodd cyflwyniad diweddar gan Gymdeithas Diwydiant Deintyddol Prydain (BDIA) sylw at bryderon cynyddol am gyflenwi a defnyddio dyfeisiau deintyddol ffug a rhai nad ydynt yn cydymffurfio o fewn marchnad y DU.
Rheoliadau dyfeisiau meddygol
Mae dyfeisiau meddygol yn y DU yn cael eu rheoleiddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
Cyn y gellir rhoi dyfeisiau ar y farchnad, rhaid i weithgynhyrchwyr fodloni gofynion rheoleiddiol ac, yn achos llawer o gynhyrchion, cael asesiad gan Gorff Cymeradwy annibynnol (neu Gorff a Hysbyswyd yn yr UE).
Rhaid i ddyfeisiau sy'n cydymffurfio gario marc UKCA neu CE priodol a rhaid iddynt gael eu cofrestru drwy'r prosesau rheoleiddio gofynnol.
Dyfeisiau ffug a dyfeisiau nad ydynt yn cydymffurfio
Mae pryderon yn cynyddu ynghylch argaeledd cynhyrchion ffug a chynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio.
Gall y rhain gynnwys:
- dyfeisiau nad ydynt wedi'u cofrestru gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
- cynhyrchion sy'n cario ardystiad annilys neu ardystiad sydd wedi dod i ben
- eitemau cwbl ffug sydd wedi'u dylunio i efelychu cynhyrchion dilys.
Ceir dyfeisiau o'r fath yn aml drwy farchnadleoedd ar-lein, lle gall prisiau deniadol weithiau guddio risgiau diogelwch sylweddol.
Risgiau i gleifion a gweithwyr deintyddol proffesiynol
Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi atafaelu amrywiaeth eang o gynhyrchion deintyddol nad ydynt yn cydymffurfio, gan gynnwys:
- llofoduron
- goleuadau caledu
- ffeiliau endodontig
- offer llawfeddygol
- digenyddion uwchsain.
Mae deunyddiau adferol a allai fod yn anniogel a hyd yn oed offer pelydr-X hefyd wedi'u nodi mewn cylchrediad.
Gall defnyddio cynhyrchion o'r fath roi cleifion mewn perygl, a gall gweithwyr deintyddol proffesiynol sy'n prynu, yn mewnforio neu'n cyflenwi dyfeisiau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu camau rheoleiddiol.
Mae'n bwysig nodi y gall torri Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 fod yn drosedd.
Mewnforio dyfeisiau meddygol
Mae tystiolaeth bod rhai gweithwyr deintyddol proffesiynol yn mewnforio dyfeisiau'n uniongyrchol o'r tu allan i Brydain Fawr heb fodloni'r gofynion cyfreithiol yn peri pryder arbennig.
Rhaid i unrhyw unigolyn neu sefydliad sy'n mewnforio dyfeisiau meddygol gydymffurfio â phrosesau'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cwestiynau cyffredin Cymdeithas Diwydiant Deintyddol Prydain am reoleiddio dyfeisiau.
Cyfrifoldebau prynu a chaffael
Dylai timau prynu sicrhau bod cynhyrchion yn dod o gyflenwyr ag enw da a bod gwybodaeth reoleiddiol briodol ar gael.
Gall prisiau anarferol o isel, labelu gwael, cyfarwyddiadau Saesneg sydd ar goll, absenoldeb plwg pŵer y DU, gweithgynhyrchu o safon wael neu fethiannau cynhyrchion i gyd awgrymu problemau posibl.
Dylai practisau hefyd wirio bod gweithgynhyrchwyr wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd lle y bo'n briodol.
Mae llywodraethu da yn gofyn am fwy na gwirio labeli. Dylai practisau:
- sicrhau bod staff yn deall cyfrifoldebau caffael
- bod ganddynt brosesau dewis cyflenwyr clir
- cynnal gwiriadau cyn ac ar ôl prynu
- bod ganddynt drefniadau ar gyfer rhoi gwybod am bryderon.
Beth i chwilio amdano
- marc UKCA neu CE
- manylion y gwneuthurwr wedi'u dangos yn glir
- person Cyfrifol y DU wedi'i restru lle y bo'n berthnasol
- cyfarwyddiadau defnyddio Saesneg
- prynwyd gan gyflenwyr ag enw da
Arwyddion rhybudd
- prisiau anarferol o isel
- gwerthwyr marchnadle ar-lein â gwybodaeth gyfyngedig
- dogfennaeth gydymffurfio ar goll
- gorffeniad neu becynnu o ansawdd gwael
- methiant y cynnyrch yn ystod defnydd
Codi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am bryderon
I Bwyllgor Deintyddol Cymru, mae'r her yn glir. Mae codi ymwybyddiaeth o reoliadau dyfeisiau meddygol ar draws y proffesiwn yn hanfodol.
Drwy hyrwyddo prynu gwybodus, cefnogi hyfforddiant ar gyfer timau practis ac annog rhoi gwybod am bryderon i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gall y proffesiwn helpu i ddiogelu cleifion wrth gynnal hyder mewn gofal deintyddol.
Yn y pen draw, mae pob dyfais sy'n cydymffurfio yn cyfrannu at ddeintyddiaeth fwy diogel, ac mae gan bob aelod o'r tîm deintyddol ran i'w chwarae.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Cyhoeddodd AGIC Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026 ddydd Iau 24 Medi 2026.
Cynhaliodd AGIC 63 o arolygiadau practis deintyddol ledled Cymru yn 2025 i 2026. Roedd y rhan fwyaf o bractisau yn lân, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn darparu amgylcheddau clinigol diogel. Mae hyn wedi bod yn batrwm cyson ar draws pob un o'n hadroddiadau blynyddol blaenorol.
Ar y cyfan, disgrifiodd cleifion staff fel rhai cyfeillgar, parchus a phroffesiynol.
Nododd AGIC hefyd enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys:
- apwyntiadau tawelach ar gyfer cleifion niwrowahanol
- oriau agor hyblyg
- offer cyfathrebu gwell
- rhestrau apwyntiadau ar fyr rybudd.
Camau gorfodi
Arweiniodd wyth arolygiad at Hysbysiadau o Ddiffyg Cydymffurfio, cafodd pedwar practis eu hatal ar frys, a chafodd un cofrestriad ei ganslo yn dilyn gweithgarwch gorfodi parhaus yn gysylltiedig ag arolygiad cynharach.
Ymhlith y materion yr oedd angen eu huwchgyfeirio roedd:
- tynnu meddyginiaethau a oedd wedi dod i ben a mynd i'r afael â bylchau mewn rheolaeth stoc a storio
- mynd i'r afael â risgiau amgylcheddol a diogelwch nad oeddent wedi'u nodi na'u monitro gan y practis
- tynnu offer allan o ddefnydd lle nad oedd modd rhoi tystiolaeth o wasanaethu, cynnal a chadw neu wiriadau diogelwch
- risgiau atal a rheoli heintiau sy'n gysylltiedig â phrosesau dihalogi a thrin offer clinigol.
Meysydd i roi sylw iddynt
Llywodraethu a'r gweithlu
Nid oedd polisïau bob amser yn cael eu hadolygu'n rheolaidd nac yn destun trefn rheoli fersiynau.
Nid oedd systemau ar gyfer monitro hyfforddiant staff a chynnal cofnodion cywir ar waith yn gyson, ac roedd cofnodion recriwtio weithiau'n anghyflawn.
Dylid mynd ati i roi systemau llywodraethu ar waith a'u hadolygu'n rheolaidd i roi sicrwydd bod staff, prosesau a risgiau yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Cofnodion clinigol ac archwilio
Nid oedd hanesion meddygol bob amser yn cael eu diweddaru, ac nid oedd archwiliadau, asesiadau risg a phenderfyniadau triniaeth yn cael eu cofnodi'n gyson.
Weithiau roedd gwybodaeth allweddol, gan gynnwys asesiadau periodontol, ar goll, ac roedd y safonau'n amrywio rhwng clinigwyr yn yr un practis.
Roedd rhai practisau hefyd yn brin o raglenni archwilio strwythuredig neu nid oeddent yn defnyddio canfyddiadau archwilio'n gyson i wella gofal.
Darpariaeth Gymraeg
Roedd gwybodaeth yn aml ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ond nid oedd bob amser yn cael ei defnyddio'n weithredol.
Nid oedd dewisiadau iaith cleifion yn cael eu cofnodi'n gyson, ac nid oedd gwasanaethau bob amser yn cael eu cynnig yn rhagweithiol yn Gymraeg.
Dylai practisau ymgorffori darpariaeth Gymraeg yn eu gwaith bob dydd, gan adlewyrchu'r Cynnig Rhagweithiol fel nad oes angen i gleifion ofyn am wasanaethau yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cwestiynau cyffredin Cymdeithas Diwydiant Deintyddol Prydain am reoleiddio dyfeisiau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â:
- Cadeirydd, Adam Porter: adam.porter2@wales.nhs.uk
- Is-gadeirydd, Jonathan Carter: chairgwentldc@gmail.com
- Ysgrifennydd, Rebecca Evans: rebecca.evans034@gov.wales
