Strategaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru: Galwad am dystiolaeth
Helpu i lunio'r sgwrs genedlaethol am y Strategaeth Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Cymru.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i fyw bywyd hir ac iach.
Dros y degawd diwethaf, mae gwelliannau mewn canlyniadau iechyd wedi arafu, disgwyliad oes iach wedi gostwng, ac mae anghydraddoldebau wedi parhau.
Mae Cymru bellach yn wynebu cyfuniad o heriau sy'n gofyn am ganolbwyntio o’r newydd ar atal, diogelu a chreu'r amodau ar gyfer iechyd da.
Mae tair her fawr yn golygu bod angen Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd i lywio ymateb Cymru:
1. Yw poblogaeth Cymru
Yw poblogaeth Cymru yn byw am ormod o flynyddoedd mewn iechyd gwael ac yn dioddef gormod o salwch y gellir ei osgoi.
Mae salwch y gellir ei atal yn parhau i gyfyngu ar fywydau, annibyniaeth a llesiant pobl. Mae gordewdra a smygu yn parhau i fod yn brif achosion o afiechyd y gellir ei osgoi, gan gyfrannu at gyflyrau fel:
- diabetes
- clefyd y galon
- chanser
2. Anghydraddoldebau iechyd parhaus a chynyddol
Mae'r bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn aml yn datblygu cyflyrau hirdymor yn gynharach, ac yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da.
Gall gwahaniaethau mewn sgrinio a manteisio ar frechiadau ddyfnhau'r anghydraddoldebau hyn.
Mae'r gwahaniaethau annheg hyn yn effeithio ar gyfleoedd ac ansawdd bywyd pobl, ac nid ydynt yn anochel.
3. Amgylchedd risg sy'n newid: anghenion poblogaeth sy'n newid, bygythiadau yn sgil clefydau heintus a'r argyfyngau hinsawdd a natur
Mae poblogaeth sy'n heneiddio, mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau hirdymor lluosog, a phryderon am iechyd meddwl yn newid y cymorth sydd ei angen ar bobl.
Mae clefydau heintus, ymwrthedd gwrthficrobaidd a phandemigau yn y dyfodol yn gofyn am ffocws a pharodrwydd parhaus a chynyddol.
Mae'r newid yn yr hinsawdd hefyd yn cynyddu'r risgiau yn sgil gwres eithafol, llifogydd, ansawdd aer gwael a lledaeniad clefydau heintus, sy'n aml yn effeithio ar y rhai sydd eisoes yn wynebu'r perygl mwyaf.
Iechyd da, Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd i Gymru
Os ydyn ni am weld canlyniadau iechyd gwahanol a dyfodol gwell i bobl Cymru, lle gall pawb ffynnu, mae angen inni gael dull gwahanol, mwy rhagweithiol at iechyd y cyhoedd.
Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r bôn i'r brig o anghenion iechyd cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol, ac yn datblygu ‘Iechyd da, Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd i Gymru’.
Rydym am i'r strategaeth fod yn radical ac yn uchelgeisiol wrth osod cyfeiriad newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan ddod ag unigolion, cymunedau, sefydliadau a gwasanaethau ynghyd i wella iechyd a llesiant i bawb.
Bydd y strategaeth yn adeiladu ar yr arbenigedd, yr asedau, yr arloesedd a'r ymrwymiad sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ym maes iechyd y cyhoedd.
Bydd yn gosod cyfeiriad clir, yn llywio dewisiadau a blaenoriaethau cyffredin ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n cryfderau a'n hadnoddau ar y cyd.
Nid yw’n fwriad gan y strategaeth ymdrin â phob mater iechyd y cyhoedd na disodli strategaethau arbenigol presennol neu gyfrifoldebau sefydliadau.
Yn lle hynny, bydd yn:
- cysylltu â blaenoriaethau ehangach y llywodraeth
- yn cyd-fynd â strategaethau eraill
- yn nodi lle gall gweithredu ar y cyd wneud y gwahaniaeth mwyaf
- yn troi blaenoriaethau a rennir yn gamau ymarferol
Mae'r Alwad hon am Dystiolaeth yn gyfle i helpu i lunio'r strategaeth
Rydym am:
- ddeall y materion sydd bwysicaf i chi a'r cyfleoedd a'r heriau pwysicaf i iechyd y cyhoedd yn ystod y degawd nesaf
- rydym am wybod beth sydd eisoes yn gweithio a ble mae angen dull gweithredu gwahanol
- mae gan bob un ohonom lais gwerthfawr a chyfraniad gwerthfawr i’w wneud, boed hynny'n deillio o brofiadau pobl o'r hyn:
- sy'n atal salwch ac sy'n cefnogi iechyd da
- arbenigedd proffesiynol
- ymchwil
- darparu gwasanaethau
- weithio gyda chymunedau
- rydym am glywed syniadau uchelgeisiol, ymarferol ac arloesol
Beth ydym yn ei olygu wrth Iechyd y Cyhoedd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio Iechyd y Cyhoedd fel:
y grefft a'r wyddoniaeth o atal clefyd, ymestyn bywyd a hyrwyddo iechyd drwy ymdrechion trefnedig cymdeithas
Iechyd y cyhoedd yw'r ymdrech ar y cyd i wella a diogelu iechyd pobl, atal salwch a helpu pawb ledled Cymru i fyw bywydau iachach a ffynnu.
Mae'n cynnwys amddiffyn pobl rhag bygythiadau i'w hiechyd megis:
- clefydau heintus newydd
- atal salwch megis:
- diabetes
- canser
- chlefyd y galon
- gwella iechyd a llesiant gan gynnwys:
- drwy leihau unigrwydd
- gwella cysylltiadau cymdeithasol
- mynd i'r afael â'r amgylchiadau ehangach a all ei gwneud hi'n haws neu'n anoddach bod yn iach
Nid un gwasanaeth neu sefydliad yn unig yw'r system iechyd y cyhoedd.
Mae'n ymdrech gyfunol gan:
- sefydliadau
- gwasanaethau
- cymunedau
- pobl
- polisïau
- phartneriaethau
Mae'r gweithredu cydweithredol hwn yn siapio ein hiechyd ac yn helpu i leihau gwahaniaethau anghyfiawn mewn iechyd o fewn cymunedau ac rhwng cymunedau.
Mae'n cynnwys cnewyllyn o sefydliadau, timau a swyddogaethau arbenigol, a'u prif bwrpas yw diogelu a gwella iechyd ac atal salwch.
Maent yn gweithio o fewn ac ochr yn ochr â rhwydwaith ehangach sy’n cynnwys:
- cyrff y GIG
- llywodraeth leol
- gwasanaethau cyhoeddus eraill
- sefydliadau gwirfoddol a chymunedol
- phartneriaid sydd â chyfrifoldebau pwysig dros iechyd a llesiant pobl
Y tu hwnt i hyn, mae iechyd hefyd yn cael ei siapio gan benderfyniadau yn ymwneud:
- â thai
- addysg
- cyflogaeth
- trafnidiaeth
- cynllunio
- bwyd
- yr hinsawdd
- a'r economi
Efallai nad gwella iechyd yw prif bwrpas y gwaith hwn, ond mae'r penderfyniadau hyn yn cael effaith sylweddol ar iechyd pobl ac ar wahaniaethau annheg mewn iechyd o fewn cymunedau ac rhyngddynt.
Mae pob sefydliad partner yn cyfrannu drwy:
- bolisi cenedlaethol
- gwasanaethau iechyd a gofal
- ymchwil
- gweithredu cymunedol
- waith sy'n siapio bywyd bob dydd
Mae'r partneriaethau hyn yn helpu i gysylltu'r ymdrechion hyn i wella iechyd a llesiant i bawb.
Er mwyn cefnogi datblygiad y strategaeth
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gennych ynglŷn â'r canlynol:
- Y cyfleoedd pwysicaf yn ogystal â'r bygythiadau mawr i iechyd a llesiant pobl yng Nghymru dros y degawd nesaf
- A yw'r system iechyd y cyhoedd bresennol yn drefnus, ac iddi’r adnoddau a’r awdurdod i fynd i'r afael â’r bygythiadau
- Pa newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i:
- greu iechyd da
- i'n hamddiffyn rhag bygythiadau yn y dyfodol
- i gynyddu'r blynyddoedd a dreulir mewn iechyd da ac
- i leihau gwahaniaethau mewn iechyd rhwng cymunedau
Cwestiynau
Nid oes angen i chi gynnal ymchwil na dadansoddiad newydd i ymateb, ac rydym yn croesawu barn sy'n seiliedig ar eich profiad chi eich hun.
Atebwch y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i'ch profiad neu wybodaeth.
Mae'r cwestiynau sbardun yno i'ch helpu ac nid oes angen i chi ateb pob un ar wahân.
Pan fyddwch yn cyfeirio at dystiolaeth bresennol, rhowch ddolen neu gyfeirnod a chanolbwyntiwch eich ateb ar yr hyn y mae'n ei olygu i'r strategaeth yn y dyfodol.
Cwestiwn 1: Yr hyn sy'n bwysicaf
Beth yw'r dylanwadau pwysicaf ar hyn o bryd a'r dylanwadau pwysicaf sy'n dod i'r amlwg ar iechyd pobl yng Nghymru a ble mae'r cyfleoedd mwyaf i wneud gwahaniaeth?
Pwyntiau pellach i'w hystyried wrth ichi ymateb cwestiwn 1:
- Beth yw'r dylanwadau a'r cyfleoedd pwysicaf i wella iechyd a lleihau gwahaniaethau annheg mewn iechyd yng Nghymru dros y degawd nesaf?
- Pa gyfleoedd neu fygythiadau presennol neu gyfleoedd neu fygythiadau sy'n dod i'r amlwg allai gael yr effaith fwyaf sylweddol ar iechyd pobl?
- Pa faterion pwysig sy'n cael gormod neu dim digon o sylw?
- Beth sy'n atal pobl rhag byw'n hirach mewn iechyd da?
- Pam mae gwahaniaethau annheg mewn iechyd yn parhau rhwng cymunedau?
- Pa syniadau uchelgeisiol neu arloesol allai ysgogi gwelliannau yn iechyd pobl a lleihau gwahaniaethau annheg mewn iechyd?
- A oes dulliau sy'n cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill y dylai Cymru eu hystyried?
Cwestiwn 2: Dewisiadau a blaenoriaethau
Pa gamau y dylai'r Strategaeth flaenoriaethu i wella iechyd, diogelu pobl rhag bygythiadau a lleihau gwahaniaethau annheg mewn iechyd, a pham?
Pwyntiau pellach i'w hystyried wrth ichi ymateb cwestiwn 2:
- Beth yw'r blaenoriaethau uchaf o ran gwella iechyd a all gefnogi iechyd da ar draws materion fel smygu, gordewdra, gweithgarwch corfforol, niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a llesiant meddwl?
- Pa gamau eraill ddylen ni eu blaenoriaethu'n genedlaethol, yn enwedig ar draws y system ehangach o ddylanwadu ar iechyd, a pham?
- Sut gallwn ni adeiladu ar drefniadau iechyd cyhoeddus presennol Cymru i sicrhau canlyniadau gwell a pharatoi ar gyfer bygythiadau a digwyddiadau mawr yn y dyfodol?
- Pa gamau pellach fyddai'n helpu i amddiffyn pobl rhag achosion o glefydau heintus, peryglon amgylcheddol ac effeithiau iechyd yn sgil argyfyngau hinsawdd a natur?
- Pa gamau sydd â'r dystiolaeth gryfaf o wella neu ddiogelu iechyd, lleihau gwahaniaethau annheg mewn iechyd a chynnig gwerth da am arian?
- A oes gweithgareddau a ddylai gael llai o flaenoriaeth neu gael eu hatal er mwyn caniatáu mwy o fuddsoddiad mewn dulliau gweithredu sy'n debygol o gael mwy o effaith?
Cwestiwn 3: Cyflawni gyda’n gilydd
Ni fydd strategaeth ar ei phen ei hun yn ysgogi newid. Beth sydd angen newid i helpu sefydliadau a chymunedau i roi blaenoriaethau cyffredin ar waith a chreu'r amodau ar gyfer iechyd da drwy weithio gyda'i gilydd?
Pwyntiau pellach i'w hystyried wrth ichi ymateb cwestiwn 3:
- Beth sy'n gweithio'n dda yng Nghymru ac y dylid ei ddiogelu neu ei ehangu, a beth sydd angen ei newid i alluogi gweithredu mwy effeithiol?
- Sut gallai sefydliadau a chymunedau weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol?
- Sut dylid trefnu rolau, cyfrifoldebau a chyllid i roi mwy o bwyslais ar atal?
- Sut gallai Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, y byd academaidd, y trydydd sector, cymunedau a busnesau weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol?
- Beth ddylai gael ei gyflwyno'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, a pham?
- Pa sgiliau, gwybodaeth ac offer fydd eu hangen arnom i wella iechyd dros y degawd nesaf?
- Gallai hyn gynnwys ymchwil, technoleg, deall beth sy'n dylanwadu ar ymddygiad pobl, a chefnogaeth i gymunedau weithredu.
- Beth fyddai'n helpu pobl a chymunedau i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor am eu hiechyd a'u llesiant, eu deall ac ymddiried ynddynt?
- Pwy sy'n wynebu'r anawsterau mwyaf wrth ddod o hyd i'r wybodaeth gywir, a beth ddylai'r system iechyd cyhoeddus ei wneud yn wahanol i helpu?
Cwestiwn 4: Effaith a chanlyniadau
Beth yw llwyddiant a sut ddylen ni fesur canlyniadau?
Pwyntiau pellach i'w hystyried wrth ichi ymateb cwestiwn 4:
- Pa welliannau cynaliadwy y bydd pobl yn sylwi arnynt yn eu hiechyd a'u bywydau bob dydd os bydd y Strategaeth yn llwyddo?
- Pa newidiadau eraill fyddai'n dangos bod y Strategaeth yn gweithio – er enghraifft o ran sut y mae sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd neu'n cefnogi cymunedau?
- Sut y byddwn yn gwybod bod y strategaeth yn gwella iechyd, yn lleihau gwahaniaethau annheg mewn iechyd ac yn amddiffyn pobl rhag bygythiadau newidiol ar draws ein holl gymunedau?
Sut i ymateb
Anfonwch eich sylwadau erbyn 26 Chwefror 2027, drwy un o'r dulliau canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb
- e-bostio: StrategaethIechydyCyhoeddCymru@llyw.cymru neu WalesPublicHealthStrategy@gov.wales
(dylech gynnwys y cyfeirnod WG55335 yn llinell pwnc eich e-bost)
- lawrlwythwch ein ffurflen ymateb, ei llenwi, a'i phostio i:
Ymgynghoriad: WG55335
Is-adran Dyfodol Iach
Cyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras, Braille, Sain ac ieithoedd amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Is-adran Dyfodol Iach
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: StrategaethIechydyCyhoeddCymru@llyw.cymru neu WalesPublicHealthStrategy@gov.wales.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddan nhw'n dibynnu arnyn nhw i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maen nhw'n cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn, efallai y byddwn hefyd yn prosesu data personol categori arbennig lle byddwch yn dewis eu darparu. Mae darparu'r wybodaeth hon yn gwbl ddewisol, a'r sail gyfreithlon ar gyfer ei phrosesu yw eich cydsyniad penodol (Erthygl 9(2)(a)). Bydd yr wybodaeth hon yn ein galluogi i asesu a ydym wedi clywed gan ystod eang o bobl a chymunedau drwy'r Alwad am Dystiolaeth a nodi lle gallai fod angen ymgysylltiad wedi'i dargedu ymhellach.
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom ni yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddi pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i’ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi gyda’ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall Llywodraeth Cymru fod dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a ddelir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na 3 blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
- i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i ofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan rai amgylchiadau)
- i gludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data personol yn cael eu trin yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.
StrategaethIechydyCyhoeddCymru@llyw.cymru neu WalesPublicHealthStrategy@gov.wales
Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr ato yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:
Ffurflen ar-lein – Llenwi ein ffurflen gwyno ar-lein.
Rhif ffôn – 03000 251378
E-bost – Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost at cwynion@llyw.cymru
Drwy'r post:
Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Os na allwn ddatrys eich cwyn ynghylch diogelu data, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw rheoleiddiwr diogelu data'r DU. Fodd bynnag, bydd yr ICO yn disgwyl ichi godi eich pryderon gyda ni yn y lle cyntaf. Dyma fanylion cyswllt yr ICO:
Information Commissioner’s Office
4th Floor, No.3 Circle Square
5 Hawkshaw Street
Manchester
M1 7BL
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Datganiad Tryloywder AI
Defnyddiwyd Microsoft 365 Copilot i gefnogi drafftio a mireinio'r ddogfen hon, gan gynnwys crynhoi gwybodaeth, gwella'r geiriad a gwella'r strwythur. Nid yw AI wedi'i ddefnyddio i ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau, ac mae'r holl gynnwys wedi'i adolygu a'i gymeradwyo gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n parhau i fod yn gyfrifol am gywirdeb a chynnwys terfynol y ddogfen.
Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) hefyd yn cael ei ddefnyddio i hwyluso'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo, er enghraifft drwy grynhoi gwybodaeth, tynnu sylw at themâu allweddol a drafftio testun. Dim ond mynegiad Llywodraeth Cymru o Microsoft Copilot fydd yn cael ei ddefnyddio; ni fydd unrhyw ddata personol yn cael eu rhannu ag unrhyw offer AI sy'n wynebu'r cyhoedd.
Ni fydd AI yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Bydd pob dyfarniad a chanlyniad yn cael eu penderfynu gan swyddogion, gydag unigolion yn eu hadolygu a'u goruchwylio fel y bo'n briodol ar bob cam. Mae'r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu Cynllun AI y Llywodraeth i Gymru, sy'n pwysleisio tryloywder, atebolrwydd a'r rôl ganolog i bobl a fydd yn parhau wrth ddefnyddio AI mewn gwasanaethau cyhoeddus.
