Neidio i'r prif gynnwys

Mae 82 o brosiectau ledled Cymru, o weithgynhyrchu uwch a pheirianneg arbenigol i gynhyrchion adeiladu arloesol, yn rhannu £10.87 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu technolegau newydd, gwella cynhyrchiant a chefnogi eu cynlluniau i dyfu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae 82 o brosiectau cyfarpar cyfalaf ledled Cymru wedi cael cyfran o £10.87 miliwn i wella cynhyrchiant drwy fabwysiadu technolegau newydd a chefnogi twf busnesau mewn ffordd gynaliadwy
  • Mae'r buddsoddiad yn cefnogi prosiectau mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial, gweithgynhyrchu uwch, y gwyddorau bywyd, ynni glân a chynhyrchu bwyd
  • Ers 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £40 miliwn drwy raglen Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SMART FIS), gan gefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru

Dyfarnwyd y cyllid drwy Gronfa Cyfarpar Cyfalaf 2026-27, sy'n rhan o’r rhaglen SMART FIS. Bydd yn helpu busnesau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil i fuddsoddi mewn cyfarpar newydd, technolegau newydd a dulliau arloesol o weithio.

Bydd y prosiectau'n galluogi sefydliadau i fabwysiadu technolegau newydd, gweithio'n fwy effeithlon a gwneud gwell defnydd o adnoddau. Bydd hyn yn cryfhau eu cystadleurwydd, yn gwella cynhyrchiant ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.

Ymhlith y sefydliadau sy'n elwa mae Concrete Canvas, cwmni gweithgynhyrchu o Bont-y-clun sy'n cynhyrchu ffabrig llawn concrit sy'n cynnig dewis amgen i goncrit wedi'i dywallt ar gyfer rhai defnyddiau.

Mae gan y cwmni bresenoldeb sefydledig mewn marchnadoedd rhyngwladol, gyda mwy na 90% o'i werthiannau yn dod o allforion. Yn ystod ymweliad diweddar, cafodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni weld sut mae grant gwerth £68,750 gan Lywodraeth Cymru yn helpu'r cwmni i gynyddu ei gapasiti cynhyrchu a gwella cynhyrchiant, gan gefnogi ei gynlluniau i ehangu ymhellach.

Gan gynnwys y cylch diweddaraf hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £40 miliwn drwy’r rhaglen SMART FIS ers 2023, gan gefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru.

Dywedodd William Crawford MBE, Cyfarwyddwr yn Concrete Canvas Ltd:

Rydym yn falch iawn o gael cymorth drwy’r rhaglen SMART FIS, a fydd yn ein helpu i barhau i fuddsoddi yn ein gweithrediadau gweithgynhyrchu ym Mhont-y-clun.

“Bydd y cyllid yn ein galluogi i wella ein prosesau cynhyrchu, cynyddu capasiti ac ymateb yn fwy effeithlon i alw gan gwsmeriaid ledled y byd.

“Fel cwmni sy'n datblygu ac yn gweithgynhyrchu ei gynhyrchion yng Nghymru, rydym yn falch o dyfu ein busnes rhyngwladol o'n canolfan yma. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a pharhau i ddatblygu ein gallu gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

Mae cwmnïau fel Concrete Canvas yn dangos beth y gall arloesi yng Nghymru ei gyflawni, gan ddatblygu cynhyrchion sy'n cystadlu mewn marchnadoedd ledled y byd.

“Bydd y buddsoddiad hwn o £68,750 yn helpu'r cwmni i gynyddu ei gapasiti cynhyrchu, gwella cynhyrchiant ac adeiladu ar ei lwyddiant rhyngwladol.

“Drwy gefnogi busnesau i ddatblygu syniadau newydd, mabwysiadu technolegau newydd a manteisio ar gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd, gallwn helpu mwy o gwmnïau yng Nghymru i dyfu, creu swyddi a chryfhau enw da Cymru fel cenedl arloesol."