Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y system rheoli traffig ar gylchfan Coryton ar yr M4.

Mae cylchfan Coryton yn gyffordd strategol rhwng yr M4 a'r A470, ac yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd sy'n gwasanaethu Caerdydd a'r cyffiniau. Rydym yn defnyddio technoleg uwch i reoli llif y traffig wrth y gyffordd hon. Mae pob cymal o'r gylchfan dan reolaeth goleuadau traffig. Mae system reoli ganolog yn newid amseriad y goleuadau yn awtomatig gan ymateb i newidiadau yn llif y traffig. Gellir newid yr amseriad â llaw hefyd i ymateb i ddigwyddiadau penodol. Defnyddir camerâu i sicrhau bod gyrwyr yn cydymffurfio â'r goleuadau.

Pan fo digwyddiad wrth y gyffordd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu gyrwyr a'u rhybuddio am dagfeydd posibl. Mae modd rhoi gwahanol negeseuon ar arwyddion ar y draffordd a'r cefnffyrdd sy'n arwain at y gyffordd. Gall Swyddogion Traffig helpu i symud cerbydau ar ôl mân ddigwyddiadau neu helpu'r gwasanaethau brys i reoli'r traffig os oes digwyddiad mwy difrifol. Mae'r cyfryngau cymdeithasol a bwletinau radio hefyd yn rhoi gwybodaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r ffyrdd.  

Er mwyn lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar y gyffordd, agorwyd ffordd ymuno benodol rhwng yr M4 tua'r dwyrain a'r A470 tua'r gogledd llynedd. Bydd cynllun tebyg i gysylltu'r M4 tua'r gorllewin a'r A470 tua'r gogledd yn hwyluso mynediad i'r gylchfan. Bydd y gwaith hwn yn digwydd y tu allan i'r oriau brig, felly ychydig iawn o dagfeydd ychwanegol fydd i'w gweld, os o gwbl, yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd y cynllun hwn yn agor yn yr haf.