Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Adran Drafnidiaeth, mae cytundeb wedi cael ei wneud ar ariannu’n cynlluniau i drydaneiddio rheillffyrdd De Cymru.  Bydd y cytundeb yn golygu y byddwn yn trydaneiddio’r rheilffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Abertawe; bydd hyn yn ein galluogi i symud ymlaen â’n cynlluniau i foderneiddio Cledrau’r Cymoedd heb unrhyw gost net i Lywodraeth Cymru.

Cytunwyd hefyd i ddatganoli’n llawn swyddogaethau am fasnachfraint y rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru erbyn 2017.  Bydd hyn yn ein galluogi i nodi a dyfarnu masnachfreintiau Cymru a’r Gororau yn y dyfodol.

Bydd trydaneiddio’r prif linell yn gam sylweddol ymlaen i greu gwasanaeth trenau modern sy’n gallu diwallu gofynion yn y dyfodol a chefnogi twf economaidd.  Mae diweddaru, trydaneiddio a gwella Cledrau’r Cymoedd yn hanfodol os ydyn ni am gyflawni ein dymuniadau ar gyfer Metro De Cymru.  O ddatganoli’r pŵer dros fasnachfraint rheilffordd Cymru i ni, byddwn yn gallu cynllunio a rhoi newidiadau ar waith er mwyn creu gwasanaeth rheilffordd mwy effeithiol a dibynadwy yng Nghymru.