Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddoe, daeth Rheoliadau newydd i rym yng Nghymru ar gyfer Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd.  Mae’r Rheoliadau’n disodli Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 ac maen nhw’n cydymffurfio â safonau’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Llywodraeth Cymru’n dibynnu ar Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i gyflwyno rhai diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig wrth gyflwyno eu Rheoliadau diwygiedig.  Dyna’r ffordd arferol o ymdrin â materion fel hyn a hyd at ddoe, roedden ni’n disgwyl i’r diwygiadau cysylltiedig hynny gael eu gwneud.  Fodd bynnag, cefais wybod bod Defra wedi gosod eu Rheoliadau a’u tynnu’n ôl ar unwaith.  Nid wyf wedi cael gwybod y rheswm dros hyn ac rwyf wedi ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus Owen Patterson AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn mynegi fy mhryderon ynghylch yr hyn y maen nhw wedi’i wneud.
Mae dirymu Offeryn Statudol Defra yn effeithio ar waith Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol a phartneriaid eraill gan fod arnynt angen deddfwriaeth glir a phenodol.  Mae gwaith brys wrthi’n cael ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau bod camau mewn lle i leddfu’r broblem yn y tymor byr a’n bod yn dod o hyd i ateb ar gyfer hirdymor.  Rwyf nawr yn bwriadu cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth ddomestig dechnegol ar y deddfau canlynol:

  • Deddf Drylliau 1968
  • Deddf Lladd-dai 1974
  • Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986
  • Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau safonau lles uchel i bob anifail a gedwir yng Nghymru, bob cam o’i fywyd, gan gynnwys adeg ei ladd.