Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Efallai y bydd aelodau am nodi elfen bwysig o ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd yn Fflandrys ar 16 Awst.

Roedd yn anrhydedd imi gael cymryd rhan yng ngwasanaeth cyflwyno Cofeb y Cymry yn Langemark ger Cefn Pilkem ac yn agos i dref Ieper/Ypres lle bu cynifer o ddynion o Gymru yn ymladd a lle cafodd cynifer ohonynt eu lladd.  Roedd y Llywydd, arweinwyr pob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, Syr Deian Hopkin, cynghorydd Llywodraeth Cymru ar goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf, cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog ac amrywiaeth o gynrychiolwyr eraill hefyd yn bresennol, gan ei wneud yn achlysur gwirioneddol genedlaethol.    
Cafodd y gofeb, a luniwyd gan yr artist Lee Odishow, ei hariannu gan gyfraniadau a nawdd cyhoeddus, a chafodd yr ymgyrch drosti ei rheoli ar y cyd rhwng grwpiau cymunedol yng Nghymru a Fflandrys.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gwarantu'r apêl.  Yng Nghymru, cafodd y gwaith trefnu ei arwain gan Peter Carter Jones a hoffwn ddiolch iddo ef a'i gydweithwyr yn y Grŵp Ymgyrchu dros Gofeb y Cymry yn Fflandrys.  Rydw i hefyd am gydnabod y gefnogaeth hael ac agored a gafodd y gofeb gan bwyllgor ymgyrch Fflandrys ynghyd ag awdurdodau trefol Langmark-Poelkapelle a Llywodraeth Fflandrys.  
Roedd tua mil o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth cyflwyno gan gynnwys ymwelwyr o Gymru a chymunedau lleol Fflandrys.  Mae'n debyg mai dyma'r casgliad mwyaf o Gymry i fod yn yr ardal ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.   

Yn y blynyddoedd nesaf bydd Cymru yn cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn nifer o leoliadau, gartref a thramor, a hynny mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.  Mae Fflandrys a'r ardal o amgylch Ieper / Ypres yn parhau i fod yn ardal bwysig yng nghof y Cymry, ac rwy'n sicr y bydd yr holl Aelodau'n falch i weld bod cofeb addas a pharhaol yno i'r rheini a fu'n ymladd, ac na ddaeth byth yn ôl.   

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.