Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Lesley Griffiths

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol eisoes, yn sgil cyhoeddi adroddiadau arolygu beirniadol gan Estyn ar yr awdurdod ym mis Rhagfyr 2012, fy mod yn bwriadu ymyrryd yn Sir Benfro. Rwy'n gwneud y datganiad hwn er mwyn hysbysu'r Aelodau o'r camau yr wyf am eu cymryd.

Cyn imi wneud hynny, hoffwn atgoffa'r Aelodau o'r materion perthnasol.

Canfuwyd bod gwasanaethau addysg yr awdurdod yn anfoddhaol gan nad yw perfformiad yn yr ysgolion cynradd yn cymharu'n ffafriol â pherfformiad ysgolion tebyg mewn awdurdodau eraill yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, er bod presenoldeb wedi gwella, o'u cymharu ag ysgolion tebyg o ran y meincnodau prydau ysgol am ddim, mae gormod o ysgolion cynradd yn yr hanner isaf. Nid yw trefniadau'r awdurdod ar gyfer cefnogi ysgolion a'u herio yn ddigon cadarn ac nid ydynt wedi cael digon o effaith o ran gwella deilliannau. Yn ogystal â hyn, rhy araf hyd yma fu ymateb yr awdurdod i'r cynnydd yn lefel y lleoedd gwag yn y sector uwchradd.

Daeth Estyn i'r casgliad hefyd fod y rhagolygon ar gyfer gwella yn anfoddhaol yn achos Sir Benfro. Y rheswm am hyn yw'r ffaith bod arweinwyr corfforaethol ag uwch aelodau etholedig wedi bod yn rhy araf i gydnabod materion allweddol o ran diogelu ac i newid diwylliant y gwasanaethau addysg, a'u gwella; mae arweiniad ar lefel cyfarwyddiaeth a lefel gwasanaeth yn wan; ac mae aelodau etholedig wedi'i chael hi'n anodd craffu'n ddigonol ar benderfyniadau a dwyn gwasanaethau i gyfrif. At hynny, ni cheir unrhyw gysondeb mewn cynlluniau gweithredol a chynlluniau partneriaeth wrth enwi mesurau a cherrig milltir perthnasol o ran deilliannau er mwyn galluogi swyddogion i olrhain cynnydd, atebolrwydd a pherfformiad yn effeithiol. Nid yw'r trefniadau rheoli perfformiad yn y gyfarwyddiaeth addysg ychwaith yn ddigon cadarn i gynnal gwelliannau a'u hysgogi. Heblaw hynny, nid yw'r trefniadau hunanwerthuso yn ddigon trylwyr ac nid ydynt yn dod o hyd i’r meysydd sydd wir angen eu gwella ymhellach. O ganlyniad, ychydig o gynnydd yn unig a wnaed gan yr Awdurdod wrth fynd i'r afael ag argymhellion arolygiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol.

Er gwaetha’r feirniadaeth uchod, enwodd Estyn rai agweddau ar y gwasanaeth addysg a oedd yn gadarnhaol a nododd hefyd fod yr awdurdod wedi penodi aelodau o staff newydd i gefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaeth.  Canfu Estyn bod arweinwyr corfforaethol  wedi dechrau deall yr heriau sy'n wynebu addysg yn Sir Benfro ac wedi dechrau chwarae mwy o ran i fynd i'r afael â'r heriau hynny yn ddiweddar, a'u bod hefyd wedi cymryd camau priodol i gyflwyno gwelliannau. Darganfu hefyd fod aelodau etholedig allweddol, ar y cyd ag uwch-swyddogion corfforaethol, eisoes yn dylanwadu ar newid sefydlog yn y diwylliant, a bod hynny yn cyfrannu at ddull agored, realistig a chynhyrchiol o weithio gydag eraill.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf bod angen Bwrdd Adfer i oruchwylio'r gwelliannau sydd eu hangen, i fonitro'r cynnydd a wneir ac i gynnig atebolrwydd. Rwyf wedi penderfynu erbyn hyn mai dyma'r cam priodol i'w gymryd.

Rwyf wedi rhoi Cyfarwyddyd i Gyngor Sir Penfro i sicrhau ei gydweithrediad â'r Bwrdd Adfer a darparu pwerau wrth gefn i'r Bwrdd gyhoeddi'r fath gyfarwyddiadau ag yr ystyria sy'n rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn llwyr gyfrifol o hyd am sicrhau bod ei swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni i safon ddigonol o leiaf. Os bydd yn ofynnol i'r Bwrdd gyhoeddi unrhyw gyfarwyddiadau, byddaf yn ystyried hynny yn fethiant difrifol ar ran yr Awdurdod.

Dyma aelodau'r Bwrdd Adfer hwnnw.  

  • Yr Athro Ian Roffe - Cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Gwasanaethau Menter, Ewropeaidd ac Ymestyn, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan;
  • David Williams – Cyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Reading a Chyngor Durham;
  • Karen Evans – Prif Swyddog Addysg Sir Ddinbych, sef awdurdod lleol y barnwyd mewn arolygiad gan Estyn fod ei berfformiad yn anfoddhaol ond sydd wedi gwella'n fwy diweddar i fod yn dda;
  • Cynrychiolwyr o’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sef Jessica Crowe a/neu Rebecca David-Knight, a fydd yn cynnal yr adolygiad o gyfansoddiad a swyddogaethau craffu'r Cyngor.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Adfer ar 17 Gorffennaf 2013 ac, o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd yn darparu adroddiadau imi o'r cynnydd a wneir.  Wrth i'r Bwrdd Adfer gael ei sefydlu, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i uwch-swyddog o fy Adran i fod yn Gadeirydd y Bwrdd. Trefniant dros dro yn unig fydd hwn a byddaf, ymhen amser, yn penodi Cadeirydd o blith aelodau'r Bwrdd Adfer.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i’r aelodau  gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.