Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Ebrill rwyf wedi cyfarfod â ffermwyr a’u cynrychiolwyr er mwyn trafod effeithiau difrifol y tywydd garw diweddar ar rai rhannau o Gymru. Rwyf hefyd wedi ymweld â nifer o ffermwyr y mae’r tywydd garw wedi effeithio arnynt er mwyn deall yn well yr anawsterau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, union natur yr anawsterau hynny a hefyd beth y gallwn ei wneud i geisio eu datrys.  

Rwyf hefyd wedi mynychu ein holl ddigwyddiadau ymgynghori diweddar ar draws Cymru ynghylch y PAC ac wedi croesawu’r cyfle i gyfarfod â ffermwyr wyneb yn wyneb. Bu’n gyfle i wrando ar eu pryderon a thrafod awgrymiadau ynghylch sut y gall y Llywodraeth gynnig rhagor o gymorth ymarferol yn awr, a hefyd ystyried heriau a chyfleoedd yn y tymor hwy.  

Hoffwn dalu teyrnged i’r unigolion sydd wedi gweithio’n ddiflino ddydd a nos er mwyn achub anifeiliaid yn yr ardaloedd a wynebodd y tywydd mwyaf garw a hefyd er mwyn ceisio cadw cymunedau gwledig a wynebodd eira trwm ar agor. Rwyf wedi clywed sawl stori unigol ynghylch yr anawsterau a wynebwyd a’r ymdrechion a wnaed a’r modd y gwnaeth teuluoedd, cymdogion a chymunedau lleol gefnogi ei gilydd er mwyn ceisio eu gorchfygu.    

Mae tri mater wedi dod i’r amlwg yn sgil fy nhrafodaethau dros y bythefnos ddiwethaf a’m cysylltiadau eraill o fewn y diwydiant. Y mater cyntaf yw’r ystyriaethau ymarferol ar lawr gwlad sy’n galluogi busnesau fferm i weithredu yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Yr ail fater yw’r modd y gallwn ni - fel Llywodraeth, partneriaid eraill o fewn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol a’r diwydiant - gefnogi’r rhai a wynebodd effeithiau gwaethaf y tywydd garw a’r trydydd mater yw’r dyfodol, sef effaith hirdymor y tywydd a sut y gallwn sicrhau y gall y sector ffermio, ac yn arbennig gynhyrchwyr da byw'r ucheldir, ymdopi’n well â digwyddiadau cyffelyb yn y dyfodol.

O safbwynt ystyriaethau ymarferol, dengys y cyngor gan fy nghynghorwyr milfeddygol a’r adroddiadau tywydd diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd fod angen parhau i ganiatáu i ffermwyr gladdu eu hanifeiliaid ar y fferm, ond dim ond yn yr ardaloedd hynny a wynebodd yr effeithiau gwaethaf. Rwyf felly wedi estyn y cyfnod hyd ganol nos ar 16 Ebrill 2013, a bydd yn cynnwys yr un ardal ddaearyddol ynghyd â rhannau penodol o ogledd Ceredigion.

Mae’r Awdurdodau Lleol wedi fy hysbysu nad yw’r broblem yn gyson mewn unrhyw ardal ac o’r herwydd rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r Awdurdodau Lleol er mwyn addasu’r broses o lacio’r rheolau claddu yn sgil tywydd garw er mwyn sicrhau bod y plwyfi yr effeithiwyd arnynt waethaf yn cael eu pennu. Bydd y gwaith o sicrhau’r ffocws ychwanegol hwn yn mynd rhagddo'r wythnos nesaf a bydd yn sicrhau bod y rheolau ynghylch claddu yn cael eu llacio mewn modd cymesur sy’n uniongyrchol berthnasol. Yn y cyfamser byddwn yn annog unrhyw ffermwyr yr effeithiodd y tywydd garw arnynt i gysylltu â’u hawdurdod lleol er mwyn trafod eu sefyllfa hwy.

Ceir y canllawiau a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am lacio’r rheolau ynghylch claddu ar lein. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru fel y bo angen ac rydym yn cydweithio’n agos â phartneriaid eraill allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chasglwyr stoc trig ynghylch yr wybodaeth a’r cymorth y maent yn eu cynnig.

Mae fy swyddogion yn parhau i gasglu tystiolaeth ar lawr gwlad ac rwy’n adolygu’r sefyllfa bob dydd.  Mae’n bwysig ein bod yn deall effeithiau penodol yr eira ar leoliadau penodol fel y gallwn ymateb yn briodol, gan gynnig cymorth ymarferol priodol ar gyfer y daliadau fferm y mae angen cymorth arnynt. Rydym yn barod i gydweithio ag undebau’r ffermwyr ac rydym yn croesawu cynlluniau fel banciau porthiant a rhwydweithiau dosbarthu porthiant. Rwy’n monitro’r sefyllfa o ran oriau gwaith gyrwyr lorïau a byddaf yn ceisio sicrhau bod y rheolau’n cael eu llacio ymhellach os bydd angen fel y gall porthiant a chynhyrchion eraill sydd eu hangen ar ffermydd barhau i gael eu dosbarthu. Hyd y gwn i nid oes unrhyw ardaloedd yng Nghymru sydd ar gau o hyd oherwydd yr eira ond mae fy swyddogion yn cysylltu â’r Lluoedd Arfog a gallwn drefnu cymorth ychwanegol ganddynt hwy mewn lleoliadau penodol os bydd angen.  

O safbwynt cymorth uniongyrchol, rwyf wedi gofyn i’r tîm Cyswllt Ffermio roi blaenoriaeth i geisiadau gan gynhyrchwyr yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt am gymorth un i un drwy Gynllun y Fferm Gyfan. Hoffwn annog y ffermwyr hynny sydd â diddordeb yn y gwasanaeth i gysylltu’n uniongyrchol â chanolfan gwasanaethau Cyswllt Ffermio. Ceir rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd ar gyfer ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar wefan Cyswllt Ffermio. Mae gan Gyswllt Ffermio Ganolfan Gwasanaethau yn ogystal (08456 000 813) a hoffwn annog ffermwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y cyngor gorau posibl o dan yr amgylchiadau anodd hyn.

Rwyf hefyd yn llwyr ymwybodol o’r elfen ddynol sydd ynghlwm wrth yr amgylchiadau anodd hyn ar ffermydd. Mae’r cymorth a’r cyngor cyfrinachol a gynigir gan y Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol (RABI), y Rhwydwaith Cymunedau Fferm ac Ymddiriedolaeth Addington yn bwysig iawn ac maent yn cynnig gwasanaethau amhrisiadwy. Rwyf wrthi’n adolygu’r modd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi eu gwaith ymhellach yn ystod y cyfnod hwn gan y gwn fod eu hadnoddau o dan gryn bwysau. Byddaf hefyd yn cyfarfod â staff llywodraeth leol yn yr ardaloedd perthnasol ac yn cydweithio â chynrychiolwyr eraill o’r sector gwirfoddol er mwyn gweld pa gynigion eraill rhesymol o gymorth y gallai fod eu hangen yn y tymor byr.  

O safbwynt y dyfodol, bydd angen i ni asesu canlyniadau mwy hirdymor y tywydd diweddar i sector da byw Cymru, ac yn arbennig y farchnad ŵyn. Bydd angen i ni a’r diwydiant fonitro’r sefyllfa ehangach o ran y porthiant sydd ar gael ar draws Cymru gan fod y cyfleoedd pori wedi dod yn hwyr iawn eleni. Eto i gyd mae nifer o randdeiliaid wedi pwysleisio i mi dros y bythefnos ddiwethaf fod angen i ni hefyd ystyried gallu’r sector ffermio i wrthsefyll tywydd o’r fath ynghyd ag argyfyngau eraill a allai godi o bryd i’w gilydd. Mae hyn oll yn ymwneud â hyfywedd ariannol hirdymor y sector a’i gynaliadwyedd, ac yn arbennig yn ein hucheldiroedd.  

Bydd amaethyddiaeth bob amser yn ddibynnol ar yr hinsawdd ac awgryma’r pryderon a fynegwyd i mi ynghylch effeithiau cronnol y tywydd garw diweddaraf y gallai fod gwendid sylfaenol yng ngallu busnesau fferm (ar y cyd ac yn unigol) i ymdopi ag amgylchiadau anodd. Er enghraifft, mae’r sector ŵyn wedi profi cyfnod cymharol sefydlog o brisiau cyson neu uwch ac mae incwm wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffaith y gall un flwyddyn o brisiau is, ynghyd â’r tywydd anodd, achosi problemau economaidd mor ddifrifol i’r sector yn destun cryn bryder. Ni all cymhorthdal cyhoeddus ychwanegol ddatrys y problemau hyn, er gwaethaf rhai awgrymiadau, ond bydd y modd y byddwn yn darparu cymorth yn y dyfodol drwy’r PAC yn agwedd bwysig ar y sefyllfa. Mae’n rhaid i ni ddatblygu busnesau fferm effeithiol ar gyfer y dyfodol a all wrthsefyll digwyddiadau fel y rhain.

Rwyf wedi penderfynu sefydlu adolygiad annibynnol a fydd yn asesu ac yn cynghori ynghylch sut y mae’r sector yn gweithio â’i hun ac eraill er mwyn sicrhau cynlluniau wrth gefn a hefyd yn ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd er mwyn sicrhau rhagor o gydnerthedd ar lefel busnes, sector ac ar draws Cymru. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried rhai o’r modelau busnes sydd ar waith o fewn y diwydiant ar hyn o bryd, ac yn arbennig ymysg y sectorau da byw, ac yn pwyso a mesur a ydynt yn hyfyw yn y tymor hwy. Yn ddiamau bydd yr adolygiad hwn yn waith hollbwysig i’r Llywodraeth a’r diwydiant. Bydd yn sail i’n gwaith o ddatblygu trefniadau ynghylch y PAC yng Nghymru ar gyfer y saith mlynedd nesaf a hefyd yn ein cynorthwyo i lunio’r Cynllun Datblygu Gwledig nesaf. Bydd hefyd o gymorth wrth i ni ystyried ein cyfrifoldebau a rhannu costau a hefyd wrth i ni weithredu ein hagenda ar gyfer Hwyluso’r Drefn.

Rwyf wedi gofyn i Kevin Roberts, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru a Lloegr, a chyn Brif Weithredwr y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, sydd â chefndir ariannol a masnachol, i arwain yr adolygiad hwn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â Kevin ac â’r diwydiant er mwyn atgyfnerthu’r sector ffermio yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn yr ardaloedd y mae’r tywydd garw yn parhau i effeithio arnynt ac rwy’n parhau’n llwyr ymrwymedig i gydweithio â’r sector amaethyddol yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddaf yn cyflwyno datganiad pellach ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf, ac yn cyflwyno rhagor o fanylion ynghylch adolygiad Kevin Roberts, yr wythnos nesaf.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.