Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi bod o’r farn ers tro fod eiriolaeth yn ddull hanfodol o ddiogelu plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn derbyn y cymorth gorau posibl i oresgyn heriau a rhwystrau eu bywydau.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad cyson i eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Prawf o hyn yw iddi lansio ‘Meic’ sef y llinell gymorth genedlaethol sy’n cynnig cyngor ac eiriolaeth i unrhyw blentyn, person ifanc neu gynrychiolydd iddynt, a hynny bob awr o’r dydd a’r nos.   

Nid yw ‘Meic’ yn disodli dyletswyddau statudol yr Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol i grwpiau penodol o blant a phobl ifanc agored i niwed. Ceir Canllawiau Statudol sy’n nodi’r ffordd rydym ni, fel Llywodraeth, yn disgwyl i’r sawl sy’n gyfrifol am y ddyletswydd hon ei gweithredu.  

Mae’r Gweinidogion yn eglur eu bod yn disgwyl i’r canllawiau statudol gael eu gweithredu’n lleol. Maent yn disgwyl bod plant a phobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn gwasanaeth eiriolaeth lleol yn gwybod am eiriolaeth, yn deall beth mae’n ei olygu, yn gwybod sut i gael gafael arno, ac yn teimlo’n hyderus i wneud hynny, beth bynnag sy’n eu poeni.

Fy nod i yw sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru mor hygyrch ac mor effeithiol â phosibl. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu arweiniad, cyfeiriad a chefnogaeth i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, yn ogystal â darparwyr eiriolaeth.

Heddiw ydym yn cynnal cynhadledd ar eiriolaeth er mwyn:

  • ailddatgan safbwynt ein polisi eiriolaeth; 
  • ystyried ffyrdd o godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o eiriolaeth; 
  • rhannu arferion da;
  • gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gwasanaeth eiriolaeth sy’n gyson uchel ei safon ar gael i grwpiau o blant a phobl ifanc agored i niwed. 

Byddwn yn cyhoeddi Datganiad Polisi ar Eiriolaeth erbyn diwedd mis Ebrill, a bydd y gynhadledd yn helpu i lywio hyn. Bydd y Datganiad Polisi hwn yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer eiriolaeth, y camau y bwriadwn eu cymryd i wella eiriolaeth a’n dull o adrodd ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau. 

Rwyf wedi ymrwymo i sefydlu Grŵp Arbenigwyr Gweinidogol ar Eiriolaeth i gefnogi a llywio’r Datganiad Polisi hwn, ac mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi ein bod wedi penodi Dr Mike Shooter yn Gadeirydd arno. Byddaf yn cyfarfod â’r Grŵp a’r Cadeirydd cyn hir i amlinellu’r hyn rwy’n disgwyl i’r Grŵp Arbenigwyr ei gyflawni ac i roi llythyr cylch gwaith iddo ar y meysydd y bydd arnaf angen cyngor ac argymhellion yn eu cylch.  

Ochr yn ochr â hyn bydd grŵp arbenigwyr pobl ifanc yn edrych ar yr un meysydd ac yn cynnig argymhellion. Rwy’n falch o gyhoeddi mai Grŵp Cyfeirio Cenedlaethol Voices from Care fydd yn ymgymryd â hyn.

Hoffwn ddiolch yn awr i’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol, sydd wedi rhoi cyngor ac argymhellion amhrisiadwy i’r Gweinidogion. Roedd pobl ifanc yn aelodau llawn o’r grŵp hwn ac roedd yn enghraifft wych o’r ffordd y gall pobl ifanc gymryd rhan lawn ac adeiladol, mewn unrhyw sefyllfa. Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi Adroddiad Etifeddiaeth y Bwrdd. Bydd y Grŵp Arbenigwyr Gweinidogol ar Eiriolaeth yn ystyried hwn wrth iddo fwrw ymlaen â’i waith.  

Rydym yn lansio “Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Eiriolaeth” ar gyfer ymgynghori heddiw, ar y cyd ag AGGCC. Sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth o safon uchel ar gael i blant a phobl ifanc yw ei ddiben. Mae’n seiliedig ar y Safonau Eiriolaeth Cenedlaethol ac mae’n disgrifio’r hyn sydd, yn ein barn ni, yn wasanaeth eiriolaeth da. Disgwyliwn i’r Fframwaith hwn gynorthwyo Darparwyr Eiriolaeth i ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhoi gwasanaeth o safon dda. Disgwyliwn hefyd i’r Comisiynwyr ei ystyried wrth fonitro’r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc.  

O ran ein hymateb i ‘Lleisiau Coll’ – rydym yn cyhoeddi diweddariad heddiw ar ein hymateb i argymhellion y Comisiynydd Plant i’r Llywodraeth. 

Codwyd mater arolygu eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd gan y Comisiynydd Plant. Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd AGGCC eleni yn gweithio ar adolygiad cenedlaethol o wasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant. Bydd AGGCC hefyd yn edrych ar y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i blant sy’n destun achos yn y llys teulu fel rhan o’u harolygiad nesaf o CAFCASS CYMRU. Bydd casgliadau’r rhain yn dangos i’r Llywodraeth sut y dylai weithredu o ran rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau eiriolaeth ac wrth gwrs, bydd Bil Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) arfaethedig yn un dull posibl o wneud hyn. 

Er bod eiriolaeth wedi’i feirniadu’n ddiweddar ac er bod gwaith o’n blaenau, rhaid inni hefyd gofio bod Cymru yn gwneud gwaith arloesol, sy’n torri tir newydd. Yn wir, cyhoeddodd y Comisiynydd Plant lyfr achosion arfer gorau yn ddiweddar, oedd yn tynnu sylw at hyn.    

Mae diogelu plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn ac mae Llywodraeth Cymru yn glir yn ei hymrwymiad parhaus i ddatblygu a chynyddu mynediad at eiriolaeth yn gyson i bob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.

Gall gwasanaeth eiriolaeth da gael effaith ddofn ar fywydau plant a phobl ifanc. Gadewch inni fod yn sicr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ei fod ar gael, a bod y llwyddiannau a brofwyd hyd yn hyn yn parhau.