Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod, ar ôl adolygu'r trefniadau iawndal TB, wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ynghylch cyflwyno system tabl prisio a fyddai wedi'i seilio ar gyfartaledd prisiau'r farchnad ar gyfer categorïau penodol o wartheg.

Mae'r ymgynghoriad yn cyd-fynd â'n “Fframwaith Strategol ar gyfer Dileu TB Gwartheg yng Nghymru” a lansiwyd y flwyddyn ddiwethaf ac sy'n cynnwys y cam gweithredu “Adfywio’r drefn talu iawndal i hyrwyddo’r arferion gorau ac i reoli buchesi yn y ffordd orau bosibl er mwyn lleihau’r risg i’r clefyd ledaenu.”          

Fel  y nodir yn glir yn ein Fframwaith Strategol, rhaid i’r Rhaglen Dileu TB fod yn ariannol gynaliadwy yn y tymor hir.  Ein blaenoriaeth o hyd fydd taro cydbwysedd teg rhwng y costau i'r trethdalwyr a’r costau i’r diwydiant.

Bydd dogfen ymgynghori yn cael ei chyhoeddi cyn hir, yn gosod ein cynigion ar gyfer cyflwyno system tabl prisio ar gyfer iawndal TB. Rwy’n  awyddus i glywed barn rhanddeiliaid am y cynigion hyn, a byddaf yn ystyried eu sylwadau’n ofalus iawn cyn gwneud unrhyw newidiadau i’r system bresennol.