Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Daeth ymgynghoriad am gynigion i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am golli'r ysgol yn rheolaidd i ben ar 22 Chwefror. Parhaodd y cyfnod ymgynghori am ddeuddeng wythnos, gan roi cyfle i randdeiliaid gyflwyno sylwadau a dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi ar gynigion i gyflwyno hysbysiadau cosb.

Gofynnais i fy swyddogion gynnal dadansoddiad trylwyr o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a hynny am fy mod am sicrhau bod pob safbwynt yn cael ei ystyried. Fel yn achos pob ymgynghoriad, mae'r ymatebion a'r safbwyntiau'n amrywio. Fodd bynnag, ar y cyfan, mae cytundeb cyffredinol â'r cynigion. Mae dau brif fater yn codi o'r ymatebion, a byddaf yn mynd i'r afael â hwy yng ngoleuni'r pwyntiau a godwyd. Y materion dan sylw yw'r cod ymddygiad lleol a fydd yn cael ei weithredu gan yr awdurdodau lleol, a'r pŵer i benaethiaid gyflwyno hysbysiadau cosb.  

Roedd y rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad am weld naill ai cod ymddygiad cenedlaethol neu god ymddygiad 'enghreifftiol' a fyddai'n cael eu paratoi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r system hysbysiadau cosb yn opsiwn ychwanegol y bydd modd ei gynnwys yn y strategaethau ymyrryd a fabwysiedir gan yr awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael ag achosion lle nad yw colli'r ysgol yn arfer sydd wedi ymwreiddio i’r un graddau. Pe bai awdurdod lleol yn dewis mabwysiadu cod ymddygiad lleol ar gyfer ei ardal, bwriad cod o'r fath fyddai caniatáu i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried amgylchiadau lleol ac unigol.

Bydd canllawiau Llywodraeth Cymru ar y system hysbysiadau cosb, a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn i'r rheoliadau ddod i rym, yn rhoi arweiniad manwl ar ffurf a chynnwys y cod ymddygiad lleol, ac ar sut i ymgynghori yn ei gylch, a'i ddefnyddio. Bydd y canllawiau'n cynnwys enghraifft o god ymddygiad y gall yr awdurdodau lleol ei ddefnyddio fel templed wrth fynd ati baratoi eu codau eu hunain.

Bydd y canllawiau'n nodi'n glir y bydd modd i'r awdurdodau lleol, ar ôl iddynt ymgynghori â'u hysgolion a'r heddlu, gyfyngu'r pŵer i gyflwyno cosbau i'r awdurdod yn unig a pheidio â'i roi i benaethiaid os byddant yn dymuno gwneud hynny fel rhan o'u cod ymddygiad.  

Mae'r ddogfen sy'n crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru ac rwyf bellach wedi cyfarwyddo fy swyddogion i baratoi rheoliadau fel y bo modd cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig am golli'r ysgol yn rheolaidd, a hynny o 1 Medi 2013 ymlaen.