Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y Gweinidog Tai ac Adfywio, fy mlaenoriaeth bennaf yw cynyddu’r cyflenwad o dai yng Nghymru.  Fel rhan o hyn, gallaf gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio Cymorth i Brynu – Cymru: cynllun benthyg gwerth £170 miliwn o ecwiti a rennir.  Ei nod yw helpu pobl i ddod yn berchen ar eu cartrefi, symbylu’r diwydiant adeiladu a rhoi hwb mawr ei angen i’r sector tai.  

O heddiw ymlaen, bydd adeiladwyr yn cael cofrestru â’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru i baratoi ar gyfer rhoi’r benthyciadau ecwiti cyntaf ar 2 Ionawr 2014.  Daw’r cynllun i ben ar 31 Mawrth 2016.

Dyluniad Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru

Un o ganlyniadau’r argyfwng ariannol byd-eang a’r dirwasgiad a’i dilynodd fu tynhau’r amodau ar gyfer rhoi benthyg arian ac yn achos morgeisi, cynyddu’r blaendal y gofynnwyd i brynwyr ei neilltuo.  Gwnaeth hyn dai’n anoddach eu fforddio ac o ganlyniad, cafodd llai o dai eu hadeiladu wrth i adeiladwyr ffrwyno’u cynlluniau.

Mae’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn gobeithio datrys y problemau hyn trwy ei gwneud yn bosibl i’r bobl hynny sydd heb fawr o arian i dalu blaendal ond sy’n gallu fforddio morgais, i brynu eu cartref eu hunain. Gwneir hynny trwy gynnig benthyciad ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru.  Bydd y benthyciad ecwiti hwn yn cau’r bwlch rhwng pris prynu’r eiddo a’r arian sydd gan brynwyr i dalu’r blaendal a’r morgais.

I gael gwneud cais am fenthyciad ecwiti a rennir Cymorth i Brynu – Cymru sy’n werth rhwng 10% ac 20% o bris prynu’r eiddo dan sylw, rhaid bodloni’r amodau hyn:

  • bod yr eiddo yn eiddo newydd, wedi’i adeiladu gan adeiladwr sydd wedi’i gofrestru gyda’r cynllun;
  • na fydd pris prynu’r eiddo’n fwy na £300,000;  
  • bod gan y prynwr flaendal o 5% a’i fod yn gallu profi ei fod yn gallu fforddio ad-dalu’r ymrwymiadau ariannol hyn yn y dyfodol; a
  • ar ôl prynu’r eiddo, mai hwn yw unig gartref y prynwr (nid yw Cymorth i Brynu – Cymru yn cael helpu eiddo prynu-i-osod).


Mae’n bwysig bod pobl yn deall telerau ac amodau’r benthyciadau hyn.  Bydd gofyn i’r bobl sy’n manteisio ar y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru ad-dalu’r benthyciad ecwiti a rennir cyn pen 25 mlynedd. Bydd ganddyn nhw’r opsiwn hefyd i ad-dalu’r benthyciad unrhyw bryd yn y cyfnod hwnnw a thrwy hynny, cael y rhyddid i greu cynllun ad-dalu sy’n ateb eu gofynion nhw.

Pan fydd prynwr yn dewis ad-dalu ei fenthyciad ecwiti, bydd yn gwneud hynny yn unol â gwerth yr eiddo ar y farchnad, p’un a yw hwnnw yn fwy neu’n llai na’r benthyciad ecwiti gwreiddiol.  Mae hynny’n rhoi rhywfaint o amddiffyniad i’r prynwr rhag gostyngiadau posibl ym mhrisiau eiddo yn y dyfodol.

Ni fydd angen talu llog ar fenthyciad ecwiti a rennir Cymorth i Brynu – Cymru am y pum mlynedd gyntaf.  Fodd bynnag, o flwyddyn 6 ymlaen, codir llog o 1.75% ar swm y benthyciad ecwiti gwreiddiol.  Yna bydd cyfradd y llog yn cynyddu gan bwyll bach bob blwyddyn yn ôl y cynnydd (os o gwbl) yn y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) plws 1%. Cewch weld amodau a thelerau manwl y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn y Canllaw i Brynwyr a’r dogfennau cysylltiedig.

Y gwahaniaeth rhwng Cymorth i Brynu – Cymru a’r cynllun yn Lloegr
O’i gymharu â’r cymorth a gynigir yn Lloegr, mae rhai gwahaniaethau amlwg yn Cymorth i Brynu – Cymru i sicrhau bod ein cynllun ni yn symlach, tecach a hwylusach i adeiladwyr bach:

  • Cap ar bris eiddo cymwys – Yn Lloegr, y cap ar bris eiddo cymwys yw £600,000.  Yng Nghymru, y cap yw £300,000.  Mae hyn adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng y farchnad dai yng Nghymru ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar y rheini sydd angen ein help fwyaf.
  • Llif yr arian – yn Lloegr, pan brynir yr eiddo, mae arian y benthyciad ecwiti yn cael ei dalu’n syth  i adeiladwr y tŷ.  Yng Nghymru, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i gyfreithiwr y prynwr.  Mae hyn yn lleihau’r baich cyfreithiol ar adeiladwyr sydd am gymryd rhan (trwy roi’r cyfrifoldeb i gyfreithiwr y prynwr am drefnu arian y llywodraeth) ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd gyda morgais cyffredin.
  • Gweinyddu’r cynllun – I symleiddio’r broses gyfan, bydd yr holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â’r cynllun yng Nghymru yn cael eu trefnu gan un cwmni: Help to Buy (Wales) Ltd.


Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd, adeiladwyr a phawb arall yn cael gwybod am y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru. Fodd bynnag, os cysylltir â chi, Aelodau’r Cynulliad, yn uniongyrchol, rwy’n eich cynghori i gyfeirio pawb at wefan Cymorth i Brynu – Cymru.  Mae holl fanylion y cynllun ar y wefan gan gynnwys y broses gofrestru ar gyfer adeiladwyr a pha brynwyr sy’n gymwys.

http://helptobuywales.co.uk/?skip=1&lang=cy