Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gosodwyd drafft diwygiedig o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Mae’r Gorchymyn Swyddogaethau yn diwygio nifer fawr o ddarnau o ddeddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth arall er mwyn cyflwyno’r swyddogaethau a weithredir ar hyn o bryd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i’r corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hefyd yn trosglwyddo rhai swyddogaethau trwyddedu bywyd gwyllt oddi wrth Weinidogion Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn trosglwyddo pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a swyddogaethau yn ymwneud ag iechyd planhigion coedwig o’r Comisiwn Coedwigaeth i Weinidogion Cymru.

Mae hefyd yn cynnwys pwerau cyffredinol a dyletswyddau pellach ar gyfer y corff, gan ddiweddaru’r rhai a ddarparwyd yn y Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 i ateb anghenion gweithredol.  Mae’r Gorchymyn Swyddogaethau hefyd yn cynnwys darpariaeth i ddileu Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol Gwarchod Amgylchedd Cymru a Phwyllgor Ymgynghorol Pysgodfeydd Rhanbarthol a Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gosodwyd drafft cynharach o’r Gorchymyn Swyddogaethau ar 15 Tachwedd 2012 yn unol â’r drefn a nodir yn Neddf Cyrff Cyhoeddus 2011.  Yn unol â’r Ddeddf bu rhaid gosod y Gorchymyn am gyfnod o 40 niwrnod; cyfnod y gellid ei ymestyn wedyn am 20 niwrnod ychwanegol pe bai’r Cynulliad yn penderfynu bod angen gwneud hynny neu pe bai Pwyllgor yn argymell bod angen cyfnod estynedig. Roeddwn yn cyd-fynd yn llwyr â galwad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i arddel y 60 niwrnod yn llawn.

Yn ystod y 60 niwrnod hynny derbyniais amrywiol sylwadau gan Bwyllgorau’r Cynulliad, Adrannau Llywodraeth y DU, ac arbenigwyr yn y tri chorff amgylcheddol, yn ogystal â phobl eraill â diddordeb.

O dan ddarpariaethau’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus mae rheidrwydd cyfreithiol arnaf i ystyried y sylwadau, ac rwyf wedi gneud hynny.  Rwyf nawr yn ailosod y Gorchymyn gan gynnwys nifer o addasiadau i ystyried y pwyntiau a godwyd ers gosod y Gorchymyn yn wreiddiol.

Rwy’n croesawu’r diddordeb eang a gafwyd ac yn gwerthfawrogi’r awgrymiadau amrywiol a ddaeth i law.  Mae’r rhain wedi ein galluogi i gryfhau ac ymestyn y Gorchymyn.  Rwyf wedi cymeradwyo gwelliannau pellach i adlewyrchu barn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd, gan gynnwys mesurau i sicrhau nad ydym wedi gwanhau’r dyletswyddau cadwriaethol a weithredir gan y  tri chorff presennol ac y bydd  Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu harddel yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi ystyried y sylwadau technegol a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.  

Ymhlith y newidiadau allweddol eraill mae:

 

  • diddymu darpariaethau a fyddai wedi golygu nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd bellach yn dod o dan Ddeddf yr Iaith a Mesur y Gymraeg; 
  • diwygiadau canlyniadol i ddarnau eraill o ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddfau ac offerynnau statudol sy’n cyfeirio at y cyrff presennol oherwydd eu swyddogaethau mewn perthynas â dŵr neu â chefn gwlad; 
  • cynnwys gwelliannau priodol i ddeddfwriaeth yn ymwneud â phensiynau sector cyhoeddus yn hytrach nag ymdrin â nhw ar wahân trwy is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU; 
  • egluro sut mae gwahanol bwerau i wneud gwaith, cyflawni pryniant gorfodol, neu fynd mewn i safle yn cael eu rhannu rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd; 
  • mewnosod dyletswyddau penodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ymgynghori â’i gilydd ynglŷn â materion penodol yn ymwneud â dŵr neu reoli perygl llifogydd; a
  • sicrhau nad oes unrhyw rwystr i Cyfoeth Naturiol Cymru rhag bod yn rhan o ymgynghoriad ynglŷn ag Asesiadau Amgylcheddol Strategol ar gyfer ei gynlluniau a rhaglenni ei hun.

Mae manylion y gwelliannau, gan gynnwys y newidiadau a wnaed ers gosod y Gorchymyn yn wreiddiol, i’w gweld yn y Memorandwm Esboniadol a’i atodiadau.